Ewch i’r prif gynnwys

Parhau i Ysgrifennu

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r cwrs hwn yn barhad ar ‘Dechau Ysgrifennu’ ac mae’n eich annog i ddatblygu ymhellach y sgiliau rydych chi wedi’u hennill yn gynharach yn y cwrs.

Bydd cyfle i chi ysgrifennu a chymryd rhan mewn gweithdy am amrywiaeth o genres ffuglen a ffeithiol, yn ogystal â barddoniaeth a rhyddiaith. Mae'r pwyslais ar fireinio sgiliau i fagu hyder wrth gynhyrchu genres fel straeon byrion, ffuglen fflach, neu ddarnau ysgrifennu estynedig.

Os nad ydych wedi astudio ‘Dechrau Ysgrifennu’, ac rydych yn awyddus i archwilio eich sgiliau ysgrifennu ymhellach, mae croeso mawr i chi ymuno hefyd.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg gweithdy 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau.

Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Cynnwys y maes llafur

Bydd cynnwys y maes llafur yn amrywio yn dibynnu ar anghenion a diddordebau'r grŵp. Yn nodweddiadol, bydd y maes llafur yn cynnwys amrywiaeth o ymarferion, darllen testunau, trafodaeth dan arweiniad tiwtor, rhannu gwaith myfyrwyr, a bydd yn ymdrin â genres fel micro-ffuglen, y stori fer, y nofel a barddoniaeth.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Bydd myfyrwyr yn cynhyrchu portffolio ysgrifennu gyda thua 1600 o eiriau ynddo, a fydd yn cynnwys elfen fyfyriol.

Deunydd darllen awgrymedig

Rhoddir rhestr ddarllen lawn i fyfyrwyr ar ddechrau’r cwrs.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.