Ewch i’r prif gynnwys

Polisi Cyhoeddus ar gyfer Iechyd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r modiwl hwn yn eich cyflwyno chi i waith llunio polisïau a gwerthuso polisïau yn y DU gan gyfeirio'n benodol at faes polisïau cyhoeddus ar gyfer iechyd.

Mae'r modiwl yn gosod y sylfaen i fyfyrwyr nodi ffactorau sy'n sbarduno polisïau a phrosesau gan ddefnyddio enghreifftiau o bolisïau presennol sy'n hyrwyddo lles ac yn lleihau ymddygiad sy'n niweidio iechyd yng Nghymru.

Mae hwn yn fodiwl craidd ar Lwybr Gofal Iechyd.

Dysgu ac addysgu

Sesiynau yn y dosbarth dan arweiniad tiwtor, seminarau dan arweiniad myfyrwyr.

Bydd dwy ysgol ddydd Sadwrn ar gyfer Sgiliau Astudio.

Mae eich dysgu a’ch addysgu ar gyfer y modiwl hwn yn seiliedig ar astudiaethau hunangyfeiriedig.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella.

Yr asesiad ar gyfer y cwrs hwn yw: prawf dosbarth a welwyd ymlaen llaw; traethawd.

Ar y Rhaglen Llwybr, cewch asesiadau ffurfiol. Bydd y rhain ar ffurf profion dosbarth, aseiniadau ysgrifenedig, dyddlyfr cwrs neu bortffolio. Mae eich asesiadau wedi’u llunio i’ch paratoi ar gyfer astudio pellach yng nghyd-destun gradd.

Deunydd darllen awgrymedig

Darperir gan y tiwtor yn Amgylchedd Dysgu Rhithwir y brifysgol.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.