Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i’r Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Diwylliant

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Nid yw'r hyn a welwn yn y cyfryngau bob amser yn adlewyrchiad cywir o'r hyn sy'n digwydd yn y byd.

Diben y cwrs hwn yw cyflwyno myfyrwyr i wahanol ffyrdd o ddarllen ac edrych ar y cyfryngau, a fydd yn cynnwys ymchwilio a damcaniaethu ynghylch cynhyrchiant y cyfryngau, cynnwys, a chynulleidfaoedd, yn ogystal ag archwilio sut mae’r pynciau hyn yn perthyn i gyd-destun ehangach y Cyfryngau, Newyddiaduraeth ac Astudiaethau Diwylliannol.

Fel sylfaen defnyddiol cyn arbenigo mewn unrhyw faes o ran dadansoddi’r cyfryngau, mae’n archwiliad hanfodol o’r ysgolheigion, yr ymarferwyr, sefydliadau, corfforaethau a’r pynciau sydd wedi dylanwadu ar dirwedd fodern newyddiaduraeth a chynhyrchu newyddion. Mae'r cwrs hwn yn cynnig ffocws penodol ar newyddion fel mater cyfoes hollbwysig, yn ogystal ag archwilio hanes y cyfryngau a chynhyrchu newyddion.

Yn gyffredinol, mae'r cwrs hwn yn galluogi dealltwriaeth ehangach o lwyfannau newyddion aml-ddimensiwn cyfoes drwy archwilio’r damcaniaethau sy'n ymddangos o fewn arferion newyddiadurol ac ysgolheictod heddiw.

Y cwrs hwn yw’r modiwl craidd ar y Llwybr i’r Cyfryngau, Newyddiaduraeth, a Diwylliant.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys 12 cyfarfod wythnosol a dwy ysgol ddydd Sadwrn a addysgir trwy gyflwyno cyfunol.

Mae pob cyfarfod wythnosol yn cynnwys sesiwn 2.5 awr o hyd (rhai ar-lein a rhai wyneb yn wyneb), ac mae’r ysgolion dydd yn cael eu cynnal rhwng 10:00 a 17:00.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys 12 cyfarfod wythnosol a dwy Sesiwn Ysgol ar ddydd

Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau a dadleuon dosbarth, gwaith pâr a gwaith grŵp, gweithgareddau dadansoddi ffynonellau ac ymarferion i ddatblygu eich sgiliau academaidd.

Bydd pwyslais cryf hefyd ar ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, wedi'i hwyluso gan ddarllen a argymhellir ac amgylchedd dysgu rhithwir y brifysgol, Dysgu Canolog. Caiff myfyrwyr eu cefnogi gan staff academaidd sydd â diddordeb brwd mewn dysgu oedolion, ac sy’n deall beth mae’n ei olygu i ddychwelyd at addysg.

  • Wythnos 1 — Cyflwyniad (wyneb yn wyneb)
  • Wythnos 2 — Syniadau Mawr (ar-lein)
  • Wythnos 3 — Rhagor o Syniadau Mawr (ar-lein)
  • Wythnos 4 — Digidol (ar-lein)
    Ysgol Dydd Sadwrn — Hysbysebu (wyneb yn wyneb)
  • Wythnos 5 — Teledu (ar-lein)
  • Wythnos 6 — Argraffu (wyneb yn wyneb)
  • Wythnos 7 — Y Maes Cyhoeddus (ar-lein)
  • Wythnos 8 — Cynulleidfaoedd Cyfryngau 1 (ar-lein)
    Ysgol Dydd Sadwrn 2 - Llunio Newyddion (wyneb yn wyneb)
  • Wythnos 9 — Cynulleidfaoedd Cyfryngau 2 (ar-lein)
  • Wythnos 10 — Newyddiaduraeth Dinasyddion/Cymunedol (ar-lein)
  • Wythnos 11 — Newyddion ffug (ar-lein)
  • Wythnos 12 — Crynhoi (wyneb yn wyneb)

Gwaith cwrs ac asesu

Asesir y cwrs trwy amrywiaeth o wahanol ffyrdd, gan gynnwys cyfrif myfyriol, portffolio adolygiad llenyddiaeth, asesiad yn y dosbarth, cynllun traethawd a thraethawd.

Mae’r cwrs yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar ddulliau asesu byr gwahanol ac adeiladu portffolio o waith drwy gydol y tymor. Mae pob darn o waith a asesir yn adeiladu ar y sgiliau a ddysgwyd gennych drwy gydol y cwrs a bydd yn rhoi’r hyder i chi fynd ymlaen i astudio cyrsiau pellach ar y Llwybr i’r Cyfryngau.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Allan, S.(2010). News Culture. Maidenhead: Open University Press
  • Corner, J. (1999). Critical Ideas in Television Studies. New York: Oxford University Press
  • Curran. J. (2002). Media and Power. London: Routledge
  • Devereux, E. (2003). Understanding the Media. London: Sage
  • Devereux, E. (ed). (2007). Media Studies: Key Issues and Debates. Los Angeles: Sage
  • Dyer, G. (1996). Advertising as Communication
  • Fenton, N. (2010). New Media, Old News: Journalism and Democracy in the Digital Age. London: Sage
  • Jenkins, H. (2006). Convergence Culture: Where Old and New Media Collide. New York: New York University Press
  • McQuail, D. (2010). McQuail’s Mass Communication Theory. London: Sage.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.