Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdy Ffilm Fer

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae ffilm fer yn un o'r dulliau adrodd stori mwyaf deinamig ac argyhoeddiadol mewn diwylliant modern.

Ond beth yw'r ffordd orau i fynd ati i ysgrifennu ar gyfer y cyfrwng hwn?

Wedi'i ddysgu gan awdur a chyfarwyddwr profiadol ac arobryn, bydd cyfle i chi ddysgu sut i ysgrifennu sgriptiau ffilm fer yn hyderus.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg gweithdy 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Cynnwys y maes llafur

Mae'r meysydd archwilio yn debygol o gynnwys:

  • Cynhyrchu Syniadau
  • Fformatio
  • Strwythur
  • Datblygu Cymeriad
  • Deialog
  • Themâu
  • Golygu
  • Cyflwyno eich gwaith

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Ar gyfer yr asesiad, byddwch yn cynhyrchu portffolio o sgriptiau (tua 10 tudalen), gan gynnwys cydran myfyriol.

Deunydd darllen awgrymedig

Screenplay by Syd Field

The Art & Science Of Screenwriting by Philip Parker

The Writer’s Journey by Christopher Vogler

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.