Ewch i’r prif gynnwys

Uwch Eidaleg - Cam F

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu eich iaith lafar, glywedol ac ysgrifenedig ymhellach er mwyn mynegi eich hun yn rhugl ac yn ddiymdrech, bron, drwy ddewis ffurfiau cymhleth digonol ar frawddegau i gyflawni hynny.

Byddwch yn atgyfnerthu ac ehangu eich dealltwriaeth o strwythur yr Eidaleg ymhellach drwy ddadansoddi a thrafod materion diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol sy'n ymwneud â'r Eidal.

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar siarad, ac, yn y dosbarth, byddwch yn cael digon o gyfle i ymarfer eich sgiliau siarad trwy weithio mewn parau ac ymarferion grŵp; byddwch yn gwrando ar dapiau sain/fideo dilys; byddwch yn darllen testunau papurau newydd; a chwblhau ymarferion a fydd yn gwella eich geirfa a’ch gwybodaeth am ramadeg.

Bydd y cwrs yn cwmpasu ystod eang o bynciau a addasir ar gyfer diddordebau myfyrwyr, gan gynnwys bywyd bob dydd mewn gwledydd lle siaredir Eidaleg, materion cyfoes a llenyddiaeth.

Bydd myfyrwyr hefyd yn adolygu’r prif bwyntiau gramadegol, yn ôl y gofyn, gyda phwyslais ar ymarfer arddodiaid, cysyllteiriau a geirynnau ymhellach.

Defnyddir deunydd o bapurau newydd, cylchgronau, llyfrau, barddoniaeth a chaneuon i'w defnyddio'n unol â diddordebau myfyrwyr.

Mae’r cwrs hwn yn addas i chi os oes gennych wybodaeth ymarferol dda iawn am Eidaleg ac eisiau cwrs ysgogol i gyfateb i’ch galluoedd a’u hymestyn (pum mlynedd o astudio rhan-amser a/neu Eidaleg Uwch Cam E).

Gall astudio’r cwrs hwn gyfrannu at y llwybr i radd mewn cyfieithu a’r llwybr i radd mewn ieithoedd modern.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella.

Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs.

Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.