Ewch i’r prif gynnwys

Sbaeneg Uwch Cam H

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs yn eich galluogi i ehangu eich sgiliau iaith lafar, clywedol ac ysgrifenedig ymhellach.

Er mwyn datblygu eich gallu i greu a deall strwythur brawddegau cymhleth a gwahaniaethu rhwng sawl ystyr mewn testunau Sbaeneg sy’n hynod arbenigol.

Byddwch yn dysgu ac ymarfer ymadroddion idiomatig tra chymhleth gan eich galluogi i ddadansoddi’n effeithiol a chyflwyno pynciau cymhleth. Bydd cyfryngu rhwng y Saesneg a’r Sbaeneg drwy gyfieithu a dehongli ar draws ystod eang o gyfryngau yn rhan o’r cwrs.

Bydd y cwrs yn cwmpasu ystod eang o bynciau a fydd yn cael eu haddasu i gyd-fynd â diddordebau’r myfyrwyr. Deunydd dilys o amrywiaeth o bapurau newydd a chylchgronau Sbaeneg o safon, rhaglenni dogfen fideo a thapiau sain yn ymwneud â materion cyfoes a’r cyfryngau.

Detholiad o'r pynciau canlynol:

  • Gwahaniaethau rhanbarthol yn Sbaen
  • Agweddau hanesyddol ar Sbaen/America Ladin yn yr 20fed ganrif
  • Agweddau economaidd-gymdeithasol
  • Gweithio yn Sbaen
  • Dynion a menywod, rolau a chyfleoedd
  • Mewnfudo
  • Materion moesegol
  • Agweddau cymdeithasol
  • Tueddiadau cymdeithasol h.y. astroleg cyflymder; gamblo, ffordd o fyw, gwahaniaethau rhwng y DU a Sbaen
  • Materion iechyd a gwyddonol; clonio, cyffuriau a deddfwriaeth
  • Gwyliau a chwaraeon
  • Technoleg
  • Pynciau gwleidyddol/cymdeithasol/economaidd presennol
  • Yr Ewro
  • Y Teulu Brenhinol
  • Ffilmiau Sbaeneg ac America Ladin â gwybodaeth ynghylch cefndir y ffilmiau, cyfarwyddwyr a thrafodaeth
  • Cyfieithiadau o’r Saesneg i’r Sbaeneg

Gramadeg

  • Amserau’r gorffennol: pretérito perfecto (simple y compuesto), pretérito imperfecto, pretérito pluscuamperfecto ypretérito indefinido
  • Amserau’r dyfodol a’r amodol: mynegi tebygolrwydd ac araith anuniongyrchol
  • Arddodiaid. Por vs para; De vs desde
  • Y modd dibynnol
  • Brawddegau amodol, Gorchmynion
  • Cystrawennau goddefol
  • Ser vs Estar
  • Cystrawennau goddefol gyda ser ac estar; Las formas no personales del verbo
  • Berfenw, Rhangymeriad presennol a’r gorffennol
  • Las perífrasis - Berfau ymadroddol; Idiomau, ymadroddion a diarhebion.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Mae’r cwrs hwn ar eich cyfer chi os oes gennych afael ardderchog ar Sbaeneg ac rydych yn ei defnyddio yn rheolaidd. (Saith mlynedd o astudio rhan-amser a/neu Sbaeneg Uwch Cam G)

Bydd y lefel hon yn mireinio eich sgiliau iaith fel eu bod mor agos â phosibl at lefel mamiaith.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

For us the most important element of assessment is that it should enhance your learning.

Our methods are designed to increase your confidence and we try very hard to devise ways of assessing you that are enjoyable and suitable for adults with busy lives.

To award credits we need to have evidence of the knowledge and skills you have gained or improved.

Some of this has to be in a form that can be shown to external examiners so that we can be absolutely sure that standards are met across all courses and subjects.

The assessment of this course is divided into four parts to assess each of the following skills: speaking, listening,reading and writing. It is designed to enhance what you have learnt during the course.

Additionally to the weekly sessions, we recommend that you spend time between the lessons, revising and practising what has been done in class.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.