Ewch i’r prif gynnwys

Consumer Law

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae pob un ohonon ni’n prynu nwyddau a gwasanaethau’n rheolaidd, ac efallai y byddwn ni’n trin cwsmeriaid yn y gwaith neu'n mwynhau prynu a gwerthu nwyddau ar-lein neu mewn arwerthiannau cist car yn ein hamser hamdden.

Er hynny, faint ohonon ni sy'n gwybod ein hawliau a'n cyfrifoldebau cyfreithiol yn llawn?

Mae'r modiwl ar-lein hyblyg hwn yn trin a thrafod hanfodion agweddau cyfreithiol ac ymarferol ar drafodion defnyddwyr a busnes. Mae hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol er mwyn eich helpu i wneud penderfyniadau’n well a datrys anghydfodau rhyngoch chi a chwsmeriaid neu gleientiaid.

Dysgu ac addysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd myfyriwr yn gallu gwneud y canlynol:

  • defnyddio gwybodaeth ddamcaniaethol am gyfraith defnyddwyr i ddatrys amrywiaeth o sefyllfaoedd a phroblemau ymarferol a gaiff eu trafod yn rhan o’r modiwl;
  • dangos gwybodaeth am ddulliau gwahanol o ddatrys anghydfodau drwy astudiaethau achos a gweithgareddau chwarae rôl;
  • dadansoddi atebion cyfreithiol ac ymarferol i fynd i’r afael ag achosion o dorri cyfraith defnyddwyr a nodi goblygiadau ariannol ac ymarferol yr opsiynau hyn;
  • creu taflen/tudalen we i gwsmeriaid neu fusnesau ym maes gwaith y myfyriwr sy’n rhoi cyngor ac arweiniad ar eu hawliau, eu cyfrifoldebau a chamau unioni;
  • nodi a defnyddio dulliau priodol o gyfathrebu i gyflwyno gwybodaeth a thrin cwsmeriaid neu gleientiaid anodd;
  • defnyddio iaith glir sy'n briodol i'r gynulleidfa darged;
  • darllen y ddeddfwriaeth defnyddwyr allweddol a gwahaniaethu rhwng arweiniad a gofynion cyfreithiol.

Gwaith cwrs ac asesu

Mae’r modiwl hwn yn cael ei addysgu ar-lein. Mae’r sesiynau rhyngweithiol a difyr yn para dwy awr yr un ac yn trin a thrafod egwyddorion cyfraith defnyddwyr. Mae hyn yn rhoi’r hyblygrwydd i’r myfyrwyr wneud y modiwl hwn yn unrhyw le.

Bydd system rheoli dysgu Prifysgol Caerdydd yn cynnwys y tasgau, gan gynnwys amrywiaeth eang o adnoddau a deunyddiau dysgu. Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau ar-lein, yn ystyried beth maen nhw wedi’i ddysgu ac yn cymryd rhan mewn cwisiau ar hyd y modiwl.

Creu taflen gyngor ac arweiniad – 70%

Prawf amlddewis – 30%

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd amrywiaeth o adnoddau a deunyddiau dysgu’n cael eu darparu ar gyfer y modiwl hwn drwy restr ddarllen ar blatfform Dysgu Canolog Prifysgol Caerdydd.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.