Ewch i’r prif gynnwys

Ffrangeg i Ddechreuwyr Llwyr

Hyd Dydd Llun 17 Mehefin i ddydd Gwener 21 Mehefin 2024
Tiwtor Hamid Sahki
Côd y cwrs FRE23A4182A
Ffi £148
Ffi ratach £127 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Ymrestrwch nawr

Mae’r cwrs hwn yn addas i chi os nad ydych yn medru gair o Ffrangeg (neu ychydig bach yn unig). Mae’n canolbwyntio ar siarad a deall yr iaith mewn cyd-destunau ymarferol.

Delfrydol os ydych am gael blas ar Ffrangeg! Bydd 2 awr o hyfforddiant trwy weminarau byw ac 1 awr o baratoi ar gyfer pob sesiwn.

Mae cyn-gofrestru yn hanfodol

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, felly fe gewch eich annog i gymryd rhan yn llawn yn y dosbarth.

Mae’r cwrs yn seiliedig ar gyfathrebu a dyma’r pynciau fydd o dan sylw:

  • cyfarchion a ffarwelio
  • siarad amdanoch eich hun a’ch teulu
  • siarad am waith ac astudiaethau
  • siopa
  • bwyd a diod.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn? Ar gyfer dechreuwyr llwyr neu fyfyrwyr sydd ag ychydig iawn o Ffrangeg.

Darperir holl ddeunyddiau'r cwrs

Gwaith cwrs ac asesu

Nid oes asesiad ffurfiol yn y cwrs hwn. Bydd eich presenoldeb a’ch cyfranogiad yn cyfrif tuag at y credydau. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

Ar gyfer astudiaethau personol, gallwch ddod o hyd i ddeunydd digonol yn:

  • The French Experience 1, New Edition, BBC 2003
  • Breakthrough French 1, S. Rybak, Palgrave Macmillan, 2003.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.