Ewch i’r prif gynnwys

Celf ac Ekphrasis: Ysgrifennu Creadigol a’r Amgueddfa Fodern

Hyd 10 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Dr Rachel Carney
Côd y cwrs CRW23A5534A
Ffi £186
Ffi ratach £148 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Ymrestrwch nawr

Mae “Ekphrasis” yn derm sy'n cyfeirio at yr ymateb llenyddol i ddarn o gelfyddyd, neu gynrychioliad llenyddol ohono, ac mae’n ddull llenyddol â hanes hir iddo.

Daeth y dull creadigol hwn yn enwog drwy “Ode to a Grecian Urn” gan John Keats, lle mae’r bardd yn disgrifio wrn yn hynod fanwl, gan bwysleisio grym y dychymyg creadigol.

Mae’n ddull sy’n cynnig cyfleoedd di-rif am ysbrydoliaeth.

Yn y modiwl hwn, byddwch yn archwilio'r rhyngweithio rhwng celf, dehongli artistig ac ysgrifennu creadigol drwy gyfres o weithdai ymarferol, gan gynnwys ymweliadau ag orielau celf yn Amgueddfa Cymru yn Cathays.

Mae'r modiwl hwn yn ailddychmygu'r gyfres boblogaidd Ysgrifennu Creadigol yn yr Amgueddfa a bydd hefyd yn cynnwys myfyrio ar y ffordd y mae amgueddfeydd yn arddangos celf ac arteffactau. Mae’r cwrs hwn yn agored i bawb, ac nid oes angen gwybodaeth flaenorol.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys gweithdai, trafodaethau dosbarth, a gwaith grŵp bach.

Gall y pynciau gynnwys:

  • Deall ekphrasis
  • Ysgrifennu gyda symbyliad artistig
  • Deall celf mewn amgueddfeydd
  • Defnyddio ymarfer myfyriol mewn cyd-destunau ysgrifennu creadigol

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd yn rhaid inni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella.

Rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu cyrraedd ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’r dysgu. Lluniwyd ein dulliau i wella eich hyder, a gwnawn bob ymdrech i greu ffyrdd o asesu sy’n rhoi mwynhad ac sy’n addas ar gyfer oedolion â bywydau prysur.

Byddwch yn cwblhau portffolio ysgrifennu creadigol ac yn ysgrifennu’n fyfyriol am eich proses eich hun. Bydd y portffolio’n cynnwys tua 1500-2000 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwch yn cael awgrymiadau darllen cynhwysfawr ar ddechrau'r cwrs. Nid oes angen darllen ymlaen llaw.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.