Ewch i’r prif gynnwys

Eidaleg Sgyrsiol Uwch

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn rhoi profiad dysgu dwys os ydych yn gallu siarad Eidaleg ar lefel uwch (i fyfyrwyr sydd wedi astudio Eidaleg ers 4+ mlynedd).

Bydd yn eich galluogi i gymryd rhan mewn sgyrsiau ar bynciau cyffredinol yn gymharol rugl ac yn naturiol yn ogystal â defnyddio iaith ffurfiol a/neu anffurfiol yn briodol.

Byddwn yn gweithio ar esbonio safbwynt, dadansoddi sefyllfa a’i chanlyniadau, gan amlygu manteision ac anfanteision. Byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau ac yn chwarae rolau.

Byddwch hefyd yn dysgu ymadroddion mwy cymhleth ac yn deall pryd i’w defnyddio.  Bydd 2 awr o hyfforddiant trwy weminarau byw ac 1.5 awr o baratoi ar gyfer pob sesiwn.

Mae cyn-gofrestru yn hanfodol

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Darperir holl ddeunyddiau'r cwrs.

Gwaith cwrs ac asesu

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.