Ewch i’r prif gynnwys

Round About the Cauldron Go: Cyflwyniad i Hanes Hud a Lledrith

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Hyd 10 o gyfarfodydd wythnosol
Tiwtor Dr Juliette Wood
Côd y cwrs FOL21A5450A
Ffi £175
Ffi ratach £140 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)

Mae hud a lledrith yn gysyniad cyfoethog a chymhleth sydd wedi dylanwadu ar artistiaid, awduron, athronwyr ac ysgolheigion, ac mae wedi dod yn berthnasol heddiw fel rhan o fywyd diwylliannol ac ysbrydol modern.

Yn y modiwl hwn, byddwch yn astudio hanes hud a lledrith gorllewinol fel system o feddwl ac fel dylanwad ar agweddau eraill ar ddiwylliant, a byddwch yn cael cyflwyniad i hanes a datblygiad syniadau am hud a lledrith drwy archaeoleg, celf, llenyddiaeth a gwerin.

Byddwch yn archwilio syniadau clasurol a modern am hud a lledrith a rhai o ddefnyddiau artistig a llenyddol themâu a delweddau hudolus. Byddwch hefyd yn archwilio sut mae meddwl hudolus a'i adfywiadau niferus wedi effeithio ar ddiwylliant poblogaidd o'r Dadeni ac ysbrydolrwydd cyfoes.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr drwy Zoom, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog, gan gynnwys recordiadau darlithoedd.

Dyma’r pynciau a allai fod o dan sylw:

  • Cyflwyno cysyniadau a ffynonellau
  • Hud a lledrith Iddewig a Kabbalah
  • Shamaniaeth fel hud a lledrith, crefydd a ffordd o fyw
  • Archaeoleg a dehongli hud a lledrith
  • Voudon, Voodoo a Santeria
  • Testunau hudol yr Aifft
  • Hud a lledrith ac ysbrydolrwydd modern
  • Hanes hud a lledrith mewn ffilm a ffuglen
  • Dewiniaid y Dadeni a'u treftadaeth
  • Cerddoriaeth yn y byd clasurol

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Byddwch yn cwblhau dau aseiniad ysgrifenedig ar gyfer y cwrs hwn. Byddwch yn ysgrifennu cyfanswm o tua 1500-2000 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

Darllen Hanfodol

  • Valerie Flint, The Rise of Magic in Early Medieval Europe (Rhydychen, 1991)
  • Richard Kiekhefer, Magic in the Middle Ages (Caergrawnt, 1990)
  • Owen Davies, Witchcraft, Magic and Culture 1736-1951 (Manceinion, 1999)
  • Owen Davies, Cunning-folk, popular magic in English history (Llundain 2003)
  • Eric Gerald Stanley, The Search for Anglo-Saxon Paganism (Caergrawnt, 1975)
  • Stephen Wilson, The Magical Universe: Everyday Ritual and Magic in Pre-Modern Europe (Llundain ac Efrog Newydd, 2000)
  • T.A.Waters, An Encyclopaedia of Magic and Magicians (Rhydychen, 1988)

Darllen cefndir a argymhellir

  • The Athlone History of Witchcraft and Magic in Europe, 6 vols (Llundain, 1999-2002)
  • Owen Davies, Grimoires: A History of Magic Books (Rhydychen, 2009)
  • Claire Fanger, Conjuring Spirits: Texts and Traditions of Medieval Ritual Magic (Stroud, 1998)
  • Graham Harvey Listening People, Speaking Earth: Contemporary Pagans (Llundain, 1997)
  • Richard Kiekhefer Forbidden Rites: A Necromancer's Manual of the Fifteenth Century (Stroud, 1997)
  • Deborah Harkness, John’s Dee’s Conversation with Angels: Cabal, Alchemy and the End of Nature (Caergrawnt, 1999)
  • Laennec Hurbon, Voodoo Truth and Fantasy (Llundain, 1995)
  • Ronald Hutton,  The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft (Rhydychen, 1999)
  • David Rollo, Glamourous Sorcery: Magic and Literacy in the High Middle Ages (Minneapolis, 2000)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.