Ewch i’r prif gynnwys

Archaeoleg a Brwydr y Ddau Ryw

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r berthynas rhwng dynion a merched mor hen â’r ddynoliaeth ei hun ac mae’n hawdd tybio nad ydyn nhw wedi newid rhyw lawer yn yr holl amser hwnnw. Ond a yw hyn yn wir mewn gwirionedd?

Trwy gyfres o astudiaethau achos sy'n croesi dwy fil o flynyddoedd o hanes Môr y Canoldir, byddwn yn ceisio ateb y cwestiwn hwnnw.

Byddwn yn trafod sut y gall astudiaethau rhywedd ein helpu i ddeall diwylliant materol yn well a byddwn yn mynd i'r afael â dylanwad astudiaethau rhywedd yng nghynhanes Ewrop, Môr y Canoldir, Mesoamerica, yr Eidal a Gwlad Groeg Glasurol ac Ewrop Ganoloesol. Byddwn yn mynd i'r afael â materion megis adeiladu rhywedd, syniadau o hunaniaeth, asiantaeth, plentyndod a henaint, y corff a chymhlethdod cymdeithasol.

Byddwn yn ymdrin â themâu'r cwrs gan ddefnyddio amrywiaeth o dystiolaeth faterol megis celf ac eiconograffeg, claddedigaethau, tai, crochenwaith a chynhyrchu tecstilau, yn ogystal â thystiolaeth lenyddol.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl trwy naw sesiwn wyneb yn wyneb.

Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlith ac yna trafodaeth ddosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol sy'n ymwneud â'r modiwl.

Bydd y drafodaeth a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.

Bydd y sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd yn cael eu hategu gan yr adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog.

Maes Llafur:

  • Cyflwyniad i Rywedd mewn Archaeoleg
  • Dynion, Menywod a Phlant mewn Cynhanes. 1: Y Paleolithig
  • Dynion, Menywod a Phlant mewn Cynhanes. 2: Môr y Canoldir Cynhanesyddol
  • Beth allwn ni ei ddysgu am rywedd o astudio claddedigaethau?
  • Yr Eidal a Gwlad Groeg Glasurol: Rhywedd, y Corff a Rhywioldeb trwy Gelf
  • Archaeoleg Plentyndod
  • Rhywedd a Chymdeithas
  • Yr Aelwyd
  • Casgliadau

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:

  • adolygiad beirniadol byr
  • traethawd 1000 gair.

Rhoddir cyngor a chymorth ar gyfer y ddau aseiniad, a byddwch yn derbyn adborth manwl mewn perthynas â chryfderau a meysydd i’w gwella ar gyfer y ddau ddarn o waith.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Conkey, M.W. & J. Spector. 1984. Archaeology and the Study of Gender. Archaeological Method and Theory 7: 1-38, reprinted in Hayes-Gilpin, K. and D.S. Whitley (eds) 1998. Reader in Gender Archaeology. London: Routledge
  • Diaz-Andreu, M. et al. (eds). 2005. Archaeology of Identity: Approaches to Gender, Age, Status, Ethnicity and Religion. London: Routledge (read the chapter on gender)
  • Gero, J.M. and M.W. Conkey (eds.). 1991. Engendering Archaeology: Women and Prehistory. Oxford: Blackwell
  • Gilchrist, R. 1999. Gender and Archaeology: Contesting the Past. London: Routledge.
  • Klein, L.F. 2004. Women and Men in World Cultures. Boston MA: McGraw-Hill
  • Moore, H.L. 1988. Feminism and Anthropology. Cambridge: Polity Press
  • Ortner, S. 1996. Making Gender: The Politics and Erotics of Culture. Boston MA: Beacon Press
  • Price, J. and M. Shildrick (eds). 1999. Feminist Theory and the Body: A Reader. Edinburgh: Edinburgh University Press
  • Sorensen, M L. 2000. Gender Archaeology. Cambridge: Polity Press

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.