Ewch i’r prif gynnwys

Creu Cymeriadau: Gwylio Pobl 2

Hyd 10 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Briony Goffin
Côd y cwrs CRW23A5538A
Ffi £186
Ffi ratach £148 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Ymrestrwch nawr

Mae'r cwrs newydd yn cynnig cyfle i ddychwelyd at bwnc hynod ddiddorol a chymhleth, sef pobl fel man cychwyn ar gyfer ysgrifennu straeon.

Drwy gyfuniad o ddychymyg a phrofiad uniongyrchol, byddwn yn ceisio creu cast o gymeriadau gwreiddiol sy’n gyfarwydd ac yn  arbennig o’r cychwyn un.

Drwy eu gosod mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, o'r cyffredin i'r tyngedfennol, byddwn yn archwilio cefndir a straeon ein cymeriadau; eu harferion ac ystumiau; eu beiau a gwendidau; a’u gobeithion a breuddwydion.

Byddwn yn defnyddio'r ymarferion hyn i gyflwyno trafodaethau ynghylch llais; persbectif; deialog; cymeriadau eilaidd; bwa naratif; datblygu cymeriadau; osgoi stereoteipiau; a beth yw'r cynhwysion dirgel sy'n gwneud i ni, a'n darllenwyr, falio am y bobl hyn.

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer awduron ag unrhyw lefel o brofiad a byddwch yn cael eich addysgu mewn amgylchedd sydd bob amser yn gynnes ac yn gefnogol. Mae'r cwrs hwn yn ddilyniant naturiol i Gwylio Pobl, ond gellir ei astudio fel modiwl annibynnol hefyd.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys gweithdai, trafodaethau dosbarth, a gwaith grŵp bach.

Maes Llafur

Fel arfer, bydd y maes llafur yn cynnwys amrywiaeth o ymarferion, darllen testunau, trafodaeth dan arweiniad tiwtor, a rhannu gwaith myfyrwyr, a bydd yn ymdrin â ffurfiau megis micro-ffuglen, y stori fer, y nofel a barddoniaeth.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd yn rhaid inni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella.

Rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu cyrraedd ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’r dysgu. Lluniwyd ein dulliau i wella eich hyder, a gwnawn bob ymdrech i greu ffyrdd o asesu sy’n rhoi mwynhad ac sy’n addas ar gyfer oedolion â bywydau prysur.

Byddwch yn cwblhau portffolio ysgrifennu creadigol ac yn ysgrifennu’n fyfyriol am eich proses eich hun. Bydd y portffolio’n cynnwys tua 1500-2000 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwch yn cael awgrymiadau darllen cynhwysfawr ar ddechrau'r cwrs. Nid oes angen darllen ymlaen llaw.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.