Ewch i’r prif gynnwys

Addysg a Chymdeithas

Hyd 12 cyfarfod wythnosol ac un Ysgol ddydd Sadwrn
Tiwtor Azra Sadiq
Côd y cwrs SOC23A4969A
Ffi £498
Ffi ratach £398 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Ymrestrwch nawr

Bydd y modiwl yn rhoi pwyslais ar ddatblygu dealltwriaeth o’r berthynas rhwng addysg a chymdeithas.

Drwy wneud hyn, bydd y modiwl yn rhoi sylfaen ar gyfer astudiaethau pellach. Caiff y ffactorau cymdeithasol sy'n pennu cyrhaeddiad addysgol, fel dosbarth, rhywedd ac ethnigrwydd, eu trafod o wrth ymdrin ag anghydraddoldeb a rôl polisi cymdeithasol.

Bydd y cwrs yn edrych ar rwystrau i gyrhaeddiad addysgol ac yn trin a thrafod addysg o ran ymgysylltu a datgysylltu; a deilliannau gwahaniaethol.

Drwy gydol cyfnod y cwrs byddwch yn ystyried pwy sy'n elwa o'r system addysg mewn cyd-destun hanesyddol yn ogystal ag yn y Gymru fodern.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn yn fodiwl 20 credyd ar y rhaglen Llwybr at y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae'r cwrs hefyd yn fodiwl opsiynol ar y llwybr at radd mewn Gofal Iechyd.

Dysgu ac addysgu

Caiff y cwrs ei addysgu'n wythnosol a bydd dwy Ysgol Dydd Sadwrn. Mae 40 o oriau cyswllt. Yn ogystal, gofynnir i chi ddarllen a gwneud tasgau ymchwil er mwyn paratoi ar gyfer y dosbarth a'ch aseiniadau.

Bydd y strategaeth dysgu/addysgu ar gyfer y modiwl hwn yn rhoi pwyslais ar 'ddysgu’n weithredol' ar gyfer y dysgwr wrth ddatblygu dealltwriaeth o'r pwnc, a pha mor berthnasol yw’r pwnc i gymdeithas.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dyma’r asesiad ar gyfer y cwrs hwn:

Caiff amser ei roi yn y dosbarth i baratoi ar gyfer ysgrifennu traethawd 800 gair (nid yw'r marc hwn yn cyfrif tuag at y marc terfynol ar gyfer y modiwl).

Bydd yn rhoi ychydig o gyfle i chi ymarfer ysgrifennu traethodau cyn i chi gyflwyno eich aseiniad gwaith cwrs.

Caiff y modiwl ei asesu ar draethawd 2,000 o eiriau a phrawf yn y dosbarth. Bydd pob asesiad yn werth 50% o'r marc cyffredinol.

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwch yn aelod o lyfrgell y Brifysgol gyda mynediad at bob un o'r testunau hyn.

  • Meighan, R. and Siraj-Blatchford, I. (2007) A Sociology of Education (Fifth Edition), London: Continuum. (This contains much of the sociology of education covered in this Module)
  • Ball, S.J. (2008) The education debate: policy and politics in the 21st Century. Bristol: Policy Press. (This is an excellent introduction to understanding education policy, particularly in the compulsory sector, how it is produced and what its effects are)
  • Trowler, P. (2003) Education Policy: a policy sociology approach (Second Edition), London: RoutledgeFalmer. (This is a little dated now but covers a wider range of education policies, particularly in post-compulsory education, than the book by Ball above).

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.