Ewch i’r prif gynnwys

Therapi Derbyn ac Ymrwymo I

Hyd 10 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Ingrid Wallace
Côd y cwrs SOC23A4700E
Ffi £186
Ffi ratach £148 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Hyd 10 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Ingrid Wallace
Côd y cwrs SOC23A4700F
Ffi £186
Ffi ratach £148 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Ymrestrwch nawr

Mae Therapi Derbyn ac Ymrwymo (ACT) yn therapi ymddygiadol ar sail gwerthoedd, gydag elfen o ymwybyddiaeth ofalgar.

Mae ACT yn seiliedig ar dystiolaeth ac mae’n gymwys ar gyfer ystod gynyddol o sefyllfaoedd, e.e. gorbryder, hunan-barch a hyder. Mae'n ddull di-lol o fod yn driw i’ch gwerthoedd chi eich hun a’u cymhwyso fel sail i osod amcanion a chyflawni mwy o fywiogrwydd.

Mae'r cwrs yn agored i bawb.

Dysgu ac addysgu

  • Model ACT (Yr hexaflex)
  • Chwe egwyddor graidd ACT:
    • Hunanarsylwi
    • Ymwybyddiaeth Ofalgar
    • Gwerthoedd
    • Gweithredu ymrwymedig
    • Diffiwsio'r meddwl
    • Derbyn
  • Archwilio teimladau 'cadarnhaol' a 'negyddol'
  • Y cof fel 'storïwr'
  • Bywiogrwydd yn erbyn goddef e.e. diffodd y 'switsh brwydro'

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.

Yn y cwrs hwn, cewch eich asesu trwy ymarferion ysgrifenedig ac ymarferion hunanymwybyddiaeth ymarferol

Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr. Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Getting Unstuck in ACT (Russ Harris)
  • ACT made simple (Russ Harris)
  • Learning ACT (Jason B Luoma, et al, 2007)

Adnoddau ar-lein

Bydd myfyrwyr yn cael deunydd drwy gydol cyfnod y cwrs, does dim angen prynu'r llyfrau.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.