Ewch i’r prif gynnwys

Continuamos debatiendo 2

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Este curso está dirigido a estudiantes de nivel avanzado que quieren seguir practicando sus destrezas orales y auditivas.

En este curso se tratarán temas de la actualidad de España y de los diferentes países de habla hispana. Para cubrir estos temas utilizaremos una gran variedad de recursos como artículos de periódicos y revistas y documentales de televisión.

Los estudiantes podrán practicar sus destrezas orales mediante discusiones, debates y pequeñas presentaciones.

I bwy mae’r cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr a chanddynt sgiliau iaith datblygedig (Safon Uwch neu uwch) sy'n gallu cynnal sgwrs gyffredinol yn Sbaeneg. Addysgir y cwrs drwy gyfrwng y Sbaeneg.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau diogel a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Prawf gwrando a chymryd rhan yn y dosbarth. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

Darperir deunyddiau - bydd taflenni ac adnoddau ar gael ar Dysgu Canolog.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.