Ewch i’r prif gynnwys

Ffrangeg Uwchraddol Uwch - Cam G

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ehangu eich sgiliau iaith lafar, glywedol ac ysgrifenedig er mwyn datblygu gwybodaeth fanwl a dealltwriaeth effeithiol o’r strwythurau, cyweiriau ac egwyddorion ieithyddol.

Byddwch yn caffael medrusrwydd gweithredol effeithiol yn y Ffrangeg sy’n galluogi cyfathrebu rhugl a digymell. Bydd y themâu a astudir yn cynnwys y canlynol:

  • le système éducatif (évolution ou régression des méthodes et de l'organisation)
  • la culture (ouverture sur le multiculturalisme, promotion d'une culture marchande ou maintien d'un produit d'exception, cinéma, théâtre, développement des langues régionales)
  • littérature: introduction a la nouvelle française
  • les grandes questions qui touchent la société française: reformes, discriminations, rôle des medias.

Mae’r cwrs hwn ar eich cyfer chi os oes gennych afael dda ar y Ffrangeg (chwe blynedd o astudio rhan-amser neu Uwch Cam F).

Gall cymryd y cwrs hwn gyfrannu at y llwybr at radd mewn ieithoedd modern.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gyfranogi, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella.

Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.

Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs. Yn ogystal â sesiynau wythnosol, rydym yn argymell eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi, yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth a darllen papurau newydd, gwrando ar y radio er mwyn sicrhau bod eich sgiliau Ffrangeg mor agos â phosibl at lefel mamiaith.

Deunydd darllen awgrymedig

Y llyfr cwrs a argymhellir yw:

  • Alter Ego Methode de francais C1- C2 Ndeg5, hachette langue etrangere, ISBN 978-2-01-155797-1

Ar gyfer ymgynghoriad:

  • French Grammar in Context, M. Jubb, Trydydd Argraffiad, Hodder Education, 2008.
  • Modern French Short fiction, J. Gratton, B. Le Juez, Manchester University Press, 1994.
  • Contemporary French Cultural Studies, W. Kidd, S. Reynolds, Hodder Education, 2000.
  • Dans le Jardin des Mots, J. de Romilly , Le Livre de Poche, 2008, ISBN-10: 2253124389
  • Francoscopie 2010, G. Mermet, R. Hasterok, Larousse, 2009, ISBN-10: 2035845386.

Hoffem pe byddech yn ceisio darllen papurau newydd a chylchgronau yn rheolaidd; mae’r cyfnodolion canlynol, a fyddai’n addas iawn ar eich cyfer, yn cael eu dosbarthu i’r llyfrgell:

  • Ca m'interesse
  • Science et Vie
  • L'Express
  • Marianne
  • Le Monde
  • Le Français dans le Monde

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.