Ewch i’r prif gynnwys

Sgriptio PHP1-PHP ar gyfer y We

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â hanfodion sgriptio PHP mewn amgylchedd gwe i gynhyrchu tudalennau gwe dynamig.

Mae'r modiwlau’n cynnwys rhesymeg amodol, dilysu ffurflenni, ymdrin â ffeiliau a thrin ffynonellau data allanol (XML).

Mae’r cwrs hwn wedi ei ddylunio ar gyfer myfyrwyr sydd am gael cyflwyniad da i ddefnydd sgriptio PHP mewn Gwe-gyhoeddi. Mae'r cwrs hwn yn tybio eich bod yn gwybod am y pynciau a drafodir ar y cwrs Datblygu Gwe gyda HTML a CSS, neu yn gofyn i'r myfyrwyr fod â dealltwriaeth dda o HTML.

Dysgu ac addysgu

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cymysgedd o sesiynau labordy a darlithoedd traddodiadol. Mae pob cyfarfod yn dechrau gyda darlith ac yn gorffen gyda sesiwn yn y labordy.

Mae'r Maes Llafur yn cynnwys:

  • Sut mae prosesu sgript PHP
  • Manteision PHP o gymharu â dulliau sgriptio cgi eraill
  • Dadfygio sgript Strwythurau dolenni ac amodol sylfaenol Araeau, gan gynnwys araeau cysylltiadol Rhyngweithio â HTTP a newidynnau amgylcheddol
  • Dilysu ffurflenni ar ochr y Gweunydd yn erbyn ochr y Cleient
  • Anfon data ffurflenni Rhoi ffwythiannau ar waith mewn PHP
  • Trin llinynnau Defnyddio Mynegiannau Rheolaidd

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yn ystod y cwrs, bydd myfyrwyr yn cyflwyno aseiniadau i diwtor y cwrs. Ar ddiwedd y cwrs, bydd yna brawf dosbarth. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

  • C Cosentino, Essential PHP for web professionals, Prentice Hall, 2001
  • Web sites e.g. The URL for the PHP manual is: php.net

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.