Gwella eich Eidaleg
Hyd | Dydd Llun 7 Gorffennaf i ddydd Iau 17 Gorffennaf 2025 | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Bruna Chezzi | |
Côd y cwrs | ITA24A4197A | |
Ffi | £157 | |
Ffi ratach | £135 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Mae'r cwrs dwys hwn ar eich cyfer chi os ydych chi wedi mynychu blwyddyn o astudio rhan-amser neu os oes gennych wybodaeth sylfaenol iawn o'r Eidaleg.
Byddwch yn cymryd rhan mewn sgyrsiau a bydd cymhorthion clyweledol yn cefnogi eich sgiliau gwrando.
Bydd pwyslais penodol ar fagu hyder wrth siarad Eidaleg.
Mae cyn-gofrestru yn hanfodol
Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.
Dysgu ac addysgu
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar gymryd rhan ac ymarfer.
Fe’ch anogir i gymryd rhan yn y dosbarth drwy amrywiaeth o weithgareddau cyfeillgar sy’n ceisio ysgogi cyfathrebu.
Darperir holl ddeunyddiau'r cwrs.
Gwaith cwrs ac asesu
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.