Ewch i’r prif gynnwys

Cyllido a thalu am eich dysgu

Y cynlluniau sydd ar gael a'r meini prawf os ydych chi'n chwilio am gymorth ariannol.

Ffioedd ratach

Gallech fod yn gymwys am ffioedd rhatach. Dangosir cyfraddau ffioedd rhatach o dan y ffi safonol ar gyfer bob cwrs.

Mae gostyngiadau ar gael i unrhyw un sy'n byw yn y DU ac sy'n derbyn:

  • Credyd Cynhwysol
  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal tai
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag Incwm
  • Gostyngiad Treth Cyngor (nid yw’n cynnwys disgowntiau ac esemptiadau)
  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant
  • Pensiwn y wladwriaeth
  • Taliad Annibyniaeth Personol

Maen nhw hefyd ar gael i Staff Prifysgol Caerdydd a myfyrwyr amser llawn Prifysgol Caerdydd.

Ymrestru gyda'r ffi gonsesiynol

Anfonwch dystiolaeth o'ch cymhwysedd at learn@caerdydd.ac.uk pan fyddwch yn cofrestru, er enghraifft:

  • Cerdyn adnabod staff neu fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd
  • Ciplun o'ch cyfrif budd-daliadau, neu
  • Llythyr gan yr asiantaeth fudd-daliadau yn cadarnhau hawl. Mae sganiau a ffotograffau yn dderbyniol

Rhaid i'ch tystiolaeth ddangos eich enw, eich cyfeiriad a'r budd-dal a ddyfarnwyd yn glir. Rhaid i’r dyddiad arno fod o fewn chwe wythnos i'ch cais neu ddangos yn glir bod yr hawl yn gyfredol neu'n barhaus.

Peidiwch ag anfon cyfriflenni banc gan na allwn eu derbyn

Cysylltwch â ni os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi.

Benthyciadau a grantiau

Os ydych chi’n bwriadu astudio ar gyfer 30 credyd neu ragor yn ystod y flwyddyn academaidd hon, gallwch gyflwyno cais am fenthyciad ffioedd i Gyllid Myfyrwyr Cymru i ariannu eich addysg. Mewn rhai achosion efallai y byddwch chi hefyd yn gymwys am grantiau penodol.

Bydd angen i chi wirio’r meini prawf cymhwysedd sy’n berthnasol i fyfyrwyr rhan-amser. Bydd y meini prawf yn amrywio gan ddibynnu ar y flwyddyn academaidd rydych chi’n dechrau ar eich astudiaethau a p’un a ydych chi’n fyfyriwr newydd neu’n fyfyriwr sy’n dychwelyd. Darllenwch grynodeb cyflym yma.

Os ydych chi’n dymuno gwneud cais dylech wneud hynny cyn gynted â phosibl unwaith y byddwch wedi dewis eich cyrsiau. Y ffordd gyflyma yw i wneud cais ar-lein ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Noder fod rhaid llenwi Adran 4 y ffurflen gais, ‘Am eich prifysgol neu goleg a’r cwrs’, yn gywir neu bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn anfon y ffurflen yn ôl atoch chi. Os ydych chi angen cymorth i lenwi’r ffurflen gais yna cysylltwch â’r Gwasanaethau Myfyrwyr:

studentconnect@caerdydd.ac.uk

+44 (0)29 2251 8888

Hepgor Ffioedd: Diweddariad

Noder: rydym wedi cyrraedd ein terfyn cyllid hepgor ffioedd ar gyfer 2023/24.  Bydd ceisiadau'n cael eu hychwanegu at restr aros.  Yn anffodus, ni allwn gadw lleoedd ar gyrsiau i’r ymgeiswyr hynny sydd ar y rhestr aros.

Gyda chyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig cynllun hepgor ffioedd i gefnogi myfyrwyr na fyddai ganddynt fynediad at addysg uwch fel arall (yn amodol ar argaeledd). Bydd CCAUC yn talu ffioedd myfyrwyr cymwys.

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hepgor ffioedd mae’n rhaid ichi fodloni’r canlynol:

  • Mae’n rhaid ichi beidio ag astudio mwy na 20 credyd yn ystod y flwyddyn academaidd hon
  • Rhaid bod yn byw yng Nghymru

Yn ogystal, mae rhaid ichi fodloni o leiaf un o'r meini prawf canlynol:

  • Rydych yn dod o ardal o amddifadedd economaidd-gymdeithasol neu o gyfranogiad isel mewn addysg uwch
  • Rydych yn derbyn budd-daliadau sy’n eich gwneud yn gymwys fel Universal Credit
  • Rydych yn perthyn i grŵp Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig
  • Rydych chi'n ffoadur;
  • Rydych yn geisiwr lloches
  • Mae gennych chi anabledd
  • Rydych yn ofalwr
  • Rydych wedi Gadael Gofal neu wedi cael Profiad o Ofal
  • Rydych chi'n ystyried eich hun yn LDHTC+
  • Nid yw eich rhieni/gwarcheidwaid wedi cael eu haddysgu i lefel addysg uwch

Ewch i’r Canllawiau a’r Ffurflen Gais Hepgor Ffioedd.

Cofiwch fod y cynllun hepgor ffioedd dysgu i fyfyrwyr yn amodol ar argaeledd.

Darllenwch ein taflen Hepgor Ffioedd Myfyrwyr.

Efallai y bydd cymorth ariannol ychwanegol ar gael gan y Brifysgol i fyfyrwyr ar incymau isel heb unrhyw brofiad blaenorol mewn Addysg Uwch. Am ragor o wybodaeth ar gymhwysedd a’r broses gwneud cais, cysylltwch â’r Tîm Cyngor ac Arian.

Talu drwy randaliad

Os bydd cyrsiau'n costio dros £380, gallwch dalu mewn dau randal (nid yw'n bosibl talu drwy randaliad os ydych chi'n ymrestru ar-lein).

Y rhandaliad cyntaf fydd £265 ac mae’n ofynnol pan fyddwch yn cwblhau cais am y cwrs. Anfonir llythyr atoch wedi hynny i'ch hysbysu am faint sydd i'w dalu yn yr ail randal, ac erbyn pryd.

Talu drwy anfoneb

Os yw eich cyflogwr (ac eithrio’r Brifysgol) yn talu am y cwrs ac y byddai’n gwell ganddynt dalu drwy anfoneb bydd angen iddynt ddarparu rhif archeb. Dylid cynnwys hwn yn eich cais i’r cwrs. Os nad ydych yn gallu atodi rhif archeb. dylech gysylltu gyda ni.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyllid neu daliadau, cysylltwch â ni.

Dysgu Gydol Oes

Ymholiadau cyffredinol:

acsss-finance@cardiff.ac.uk

+44 (0)29 2087 0000