Ewch i’r prif gynnwys

Palu: Byd yr Archaeolegydd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Pe byddech chi’n gofyn i bobl beth maen nhw’n ei gysylltu fwyaf ag archaeoleg, byddai’r rhan fwyaf yn sicr yn dweud 'palu' (neu hyd yn oed 'palu am drysor').

Ond a yw wir mor syml â dim ond gwthio rhaw i’r ddaear? Sut mae archaeolegwyr yn gwybod ble i gloddio yn y lle cyntaf, sut mae’r broses yn gweithio, a beth sy’n digwydd ar ôl i babell y safle gael ei thynnu i lawr ar y diwrnod olaf?

Bydd y cwrs rhagarweiniol byr hwn yn eich cyflwyno i hanfodion cloddio, gan ddechrau gyda’r dulliau newidiol o fynd ati i wneud gwaith maes archaeolegol sydd wedi nodweddu’r ddisgyblaeth ar draws ei gwahanol ddatblygiadau damcaniaethol, gan symud ymlaen i waith cynllunio cyn cloddio, y gwahanol ddulliau cloddio a mathau o gofnodi y byddwch yn fwyaf tebygol o ddod ar eu traws, a rhai o'r materion mawr sy’n gysylltiedig â dadansoddi ar ôl cloddio.

Mae wedi’i fwriadu ar gyfer myfyrwyr nad oes ganddynt unrhyw brofiad blaenorol o gloddio, neu ychydig iawn o brofiad, ac yn enwedig y rhai a allai ddymuno cymryd rhan mewn cloddfa archaeolegol yn y dyfodol.

Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn archaeoleg a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r diddordeb hwnnw ymhellach. Mae'n gweithredu fel rhan o'r llwybr Archwilio’r Gorffennol, a bydd yn eich arfogi â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a fydd yn eich helpu i astudio cyrsiau eraill ar y llwybr.

Dysgu ac addysgu

Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd byr, gweithdai rhyngweithiol, trafodaethau a dadleuon dosbarth, ac ymarferion grŵp i ddatblygu eich sgiliau academaidd. Yn ogystal, bydd cymorth ar gael cyn ac ar ôl yr ysgol benwythnos, wedi’i hwyluso trwy gyswllt e-bost a thrwy Dysgu Canolog, sef Rhith-Amgylchedd Dysgu’r Brifysgol.

Gwaith cwrs ac asesu

Disgwylir i fyfyrwyr ddarparu dau ddarn o waith a asesir:

  • adolygiad 500 o eiriau (neilltuir amser yn ystod y penwythnos i’w gwblhau a rhoddir adborth manwl)
  • traethawd 1000 o eiriau (y disgwylir iddo gael ei gyflwyno o fewn pythefnos o’r cwrs penwythnos).

Darperir cyngor a chefnogaeth ar gyfer y ddau aseiniad.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Andrews, G., Barrett, J. a Lewis, J.S.C. 2000. Interpretation not record: the practice of archaeology. Antiquity 74, 525-30.
  • Bahn, P. 1996. The Cambridge illustrated history of Archaeology. Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt.
  • Barker, P. 1993. Techniques of Archaeological Excavation. Llundain: Routledge.
  • Carver, M. 2009. Archaeological investigation. Llundain: Routledge.
  • Renfrew, C. a Bahn, P. 2016. Archaeology: theories, methods and practice. Llundain: Thames and Hudson. [nodyn: mae rhifynnau blaenorol yn parhau i roi cyflwyniad da i'r pwnc]
  • Watkinson, D. a Neal, V. 1998. First aid for finds. Hertford: RESCUE.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.