Llwybr at radd mewn hanes, archaeoleg neu grefydd

Mae ein llwybr ‘Archwilio’r Gorffennol’ at radd mewn hanes, archaeoleg neu grefydd wedi cael ei lunio ar gyfer oedolion sy’n dychwelyd i addysg sydd am symud tuag at astudio ar lefel gradd.
Llwybr Archwilio’r Gorffennol
Addysgir modiwlau gyda’r nos ac ar benwythnosau, ac maent wedi cael eu llunio’n benodol i ddiwallu anghenion dysgwyr sy’n oedolion prysur.
Sut mae'n gweithio
Mae’r llwybr Archwilio’r Gorffennol yn cynnwys 60 o gredydau ac mae’n gyfwerth â 50% o flwyddyn gyntaf gradd. Y nod yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i astudio ar gyfer gradd yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd a bydd yn gwarantu cyfweliad i chi.
Cam un
Byddwch yn astudio o leiaf un modiwl craidd sy’n werth 10 o gredydau.
Cam dau
Byddwch naill ai yn astudio pum modiwl opsiynol gwerth 10 o gredydau o’r rhaglen llwybr, neu bedwar modiwl opsiynol gwerth 10 o gredydau o’r rhaglen y llwybr ac un cwrs gwerth 10 credyd priodol o’r rhaglen (ar ôl ymgynghori gyda'r Darlithydd Cydlynyol).
Os cewch eich derbyn ar gwrs gradd ym Mhrifysgol Caerdydd, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer trosglwyddo credydau neu’r hyn a elwir yn Saesneg yn ‘advanced standing’. Mae hyn yn golygu y bydd y 60 o gredydau a enillir o’r rhaglen llwybr hon yn cyfrannu’n uniongyrchol at flwyddyn gyntaf eich gradd.
Modiwlau'r llwybr
Modiwlau craidd
- Archwilio'r Gorffennol: Hanes (10 credyd)
- Archwilio Crefyddau'r Byd (10 credyd)
- Archwilio'r Gorffennol: Archaeoleg (10 credyd)
Modiwlau opsiynol
Mae’r rhain fel arfer yn newid bob blwyddyn academaidd. Mae modiwlau opsiynol 2023/24 yn cynnwys:
- Hanes ac Archaeoleg Ymerodraethau: Rhufain a Bysantiwm (10 credyd)
- Llenyddiaeth a Chymdeithas Hynafol (10 credyd)
- Cyrff Rhyfeddol a Chredoau Anhygoel, 1500-1700 (10 credyd)
- Heneiddio Drwy'r Oesoedd: Biochaeoleg a Phobl y Gorffennol (10 credyd)
- Syniadau Ymerodrol: O Persia i Putin (10 credyd)
- Pobl, Hunaniaeth a Chymdeithas: Creu Prydain Fodern (10 credyd)
- Menywod mewn Mythau: Hynafol, Canoloesol a Modern (10 credyd)
- Breninesau yn Fyd-eang (10 credyd)
O dan amgylchiadau arferol, gallwch ddisgwyl cwblhau'r llwybr o fewn un flwyddyn, ond gallwch gymryd rhagor o amser os oes angen.
Cost
Mae ein llwybr Archwilio’r Gorffennol at radd yn cynnig llwybr fforddiadwy at Addysg Uwch. Dim ond cofrestru a thalu am un modiwl ar y tro y bydd angen i chi ei wneud a bydd gennych yr opsiwn i rannu’r gost yn ddau randaliad.
Mae cymorth ariannol ar gael drwy amrywiaeth o gynlluniau gwahanol. Ar ôl i chi ddechrau astudio ar y llwybr, gallwch hefyd gyrchu cyngor arbenigol ar y ffordd orau i ariannu eich astudiaethau, os byddwch yn symud ymlaen i gwrs gradd.
Myfyriwr Llwybr Archwilio'r Gorffennol a'i brofiad o gloddfa leol
Myfyriwr Llwybr Archwilio'r Gorffennol a'i Brofiad o Gloddfa Leo
Cysylltu
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech wybod mwy am y llwybr Archwilio’r Gorffennol cysylltwch â:
Dr Paul Webster
Coordinating Lecturer
Rydym ni'n cynnig dysgu hyblyg, tiwtoriaid arbenigol, cyfleusterau helaeth a chyfleoedd i wneud cynnydd.