Ewch i’r prif gynnwys

Myrddin: Proffwyd a Dewin

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Ers iddo ymddangos yn History of the Kings of Britain gan Sieffre o Fynwy, mae Myrddin wedi parhau i fod yn un o gymeriadau mwyaf poblogaidd y chwedl Arthur.

Fodd bynnag, mae'r dewin gwych hwn hefyd yn baradocs. Fe’i disgrifiwyd fel dewin pwerus, bardd chwedlonol a siaman a drechwyd yn y pen draw gan ei hud ei hun.

Yn debyg i lawer sy'n gysylltiedig â'r chwedl Arthur, i ddeall Myrddin, rhaid edrych y tu ôl i'r chwedlau a'r traddodiadau sy’n gysylltiedig â’i enw. Efallai yr oedd yn ffigwr llwyr ddychmygol a oedd yn ysgrifennu cerddi i fochyn bach yng nghysgod coeden afalau, neu’n fardd go iawn o Gymru. Fel arall, awgrymwyd ei fod yn siaman Celtaidd yn gysylltiedig â thraddodiad a oroesodd i'r byd canoloesol.

Mae'r safbwyntiau gwahanol hyn wedi dylanwadu ar sut mae ffilm a diwylliant poblogaidd wedi portreadu Myrddin. Mae'r ffigwr amlochrog hwn bellach yn byw ym mydoedd neo-ganoloesol yr Arglwydd Tennyson a T.H. White, yn ogystal â bod yn ddewin cartwnau Disney a sioeau cerdd Broadway. Teimlwyd ei ddylanwad ar ffigurau tywyllach llenyddiaeth ffantasi fel Gandalf a Dumbledore.

Sut beth oedd y Myrddin 'dilys' mewn gwirionedd? Wrth chwilio am Myrddin, byddwn yn teithio drwy lenyddiaeth, llên gwerin, archaeoleg a chelf.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl trwy ddeg sesiwn 2 awr o hyd. Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd ac yna trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol sy'n ymwneud â'r modiwl.

Bydd y drafodaeth a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd. Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd.

Maes Llafur:

  1. Byd Hud a Rhamantus yr Oesoedd Canol
  2. Genedigaeth Myrddin
  3. Myrddin yng Nghymru
  4. Bywyd Canoloesol Myrddin
  5. Myrddin a Viviane
  6. Myrddin fel Proffwyd
  7. Llyfrau Myrddin: y Dadeni a Thu Hwnt
  8. Breuddwydion Shamanaidd - Myrddin a'r Derwyddon
  9. Trawsnewid Myrddin: Gandalf, Dumbledore a'i Gyfeillion
  10. Myrddin mewn Ffuglen, Ffantasi a Chelf

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:

  • adolygiad beirniadol byr
  • traethawd 1000 gair.

Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer y ddau aseiniad.

Deunydd darllen awgrymedig

  • John Bollard, ‘The earliest Myrddin poems’, in Arthur in the Celtic Languages: The Arthurian Legend in Celtic Literatures and Traditions, edited by Ceridwen Lloyd-Morgan and Erich Poppe (Cardiff: University of Wales Press, 2019).
  • Geoffrey of Monmouth, The History of the Kings of Britain, trans Lewis Thorpe (Hardmondsworth: Penguin, 1966).
  • Geoffrey of Monmouth, Life of Merlin, trans Basil Clarke (Cardiff: University of Wales Press, 1973).
  • A.O.H. Jarman, ‘The Merlin legends and the Welsh tradition of prophecy’, in The Arthur of the Welsh: The Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature, ed. Rachel Bromwich, A. O. H. Jarman, and Brynley Roberts (Cardiff: University of Wales Press, 1991).

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.