Cyflwyniad i Archaeoleg ym Mhrydain
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Mae gwreiddiau dwfn i hanes Prydain. O filâu a thai crwn i gestyll mawreddog Brenhinoedd yr Oesoedd Canol, mae olion archeolegol arbennig yn yr ynysoedd hyn.
Nod y cwrs yw rhoi amlinelliad rhagarweiniol o archeoleg Prydain, o ddechrau cyfnod Prydain Rufeinig hyd at ddiwedd yr Oesoedd Canol diweddarach.
Bydd yn rhoi dilyniant i chi o'r cofnod archeolegol, a bydd yn eich rhoi ar ben ffordd o ran meithrin dealltwriaeth bellach o hanes a diwylliant materol cyfoethog ein hynysoedd.
Mae’r cwrs wedi ei gynllunio i roi dealltwriaeth sylfaenol i chi o’r hyn sy’n weddill o safleoedd diwylliant materol ym Mhrydain, o’r Rhufeiniaid hyd yr Oesoedd Canol diweddarach, a hefyd i ddatblygu eich gwybodaeth o’r modd y mae archeolegwyr wedi dehongli’r dystiolaeth hon a cheisio’i gosod o fewn fframweithiau ehangach deall.
Bydd maes llafur y cwrs yn cwmpasu:
- Wythnos 1: Cyflwyniad: Archeoleg ym Mhrydain
- Wythnos 2: Rhufeineiddio Prydain?
- Wythnos 3: Bywyd a Marwolaeth yn y Brydain Rufeinig
- Wythnos 4: Diwedd Ymerodraeth: Prydain wedi’r Rhufeiniaid
- Wythnos 5: Prydain yr Eingl-Sacsoniaid: marwolaethau da a marwolaethau gwael
- Wythnos 6: Celtiaid yn y Gorllewin?
- Wythnos 7: Prydain y Llychlynwyr Goresgynwyr Llychlynnaidd?
- Wythnos 8: Uno a choncwest
- Wythnos 9: Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain
- Wythnos 10: Yr Economi a Marwolaeth: Diwedd yr Oesoedd Canol.
Dysgu ac addysgu
Cynhelir y dysgu ac addysgu drwy weithio mewn grwpiau bach.
Mae hwn yn gwrs 10 credyd, felly bydd cyfarfod dwy awr unwaith yr wythnos (cyfanswm o 20 o oriau cyswllt) a fydd yn cynnwys grwpiau trafod, ymarferion, dadansoddi ffynonellau a chyflwyno deunydd ar fideo a/neu DVD.
Y nod yw sicrhau bod y dosbarthiadau’n bleserus ac ysgogol i bawb. Bydd hyn yn annog datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r pynciau a’r syniadau a drafodir yn ystod y cwrs.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gryfhau’ch hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Fyddwch chi ddim yn sefyll arholiad ffurfiol ond gofynnir ichi baratoi peth gwaith ysgrifenedig (1500 o eiriau). Gallai hyn gynnwys set o ymatebion byrion i gwestiynau (er enghraifft, tri darn yn archwilio tri safle archeolegol allweddol) neu draethawd mwy estynedig.
Deunydd darllen awgrymedig
- Allason-Jones, L. (ed.). 2011: Artefacts in Roman Britain: Their Purpose and Use. Cambridge: Cambridge University Press.
- Arnold, C.J. 2005. An Archaeology of the Early Anglo-Saxon Kingdoms, London/New York: Routledge.
- Carver, M. 1992: The Age of Sutton Hoo. Woodbridge: Boydell & Brewer.
- Jervis, B. 2014: Pottery and Social Life in Medieval England, Oxford: Oxbow.
- Lucy, S. and Reynolds, A. 2002: Burial in Early Medieval England and Wales. London: The Society for Medieval Archaeology
- Renfrew, C. and Bahn, P. 2004: Archaeology: theories, methods and practice. Fourth edition. London: Thames & Hudson.
- Rogers, A. 2015. The Archaeology of Roman Britain: Biography and Identity. London: Routledge Tarlow, S. & West, S. (eds). 1999: The familiar past? Archaeologies of later historical Britain. London: Routledge.
- Archive of the Journal of Medieval Archaeology: http://archaeologydataservice.ac.uk/archives/view/med_arch/index.cfm
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.