Ewch i’r prif gynnwys

Cynllunio eich Gardd Fwytadwy

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs Cynllunio eich Gardd Fwytadwy yn archwilio'r ffyrdd o gynllunio gardd fwytadwy, sy'n hawdd ei chynnal a'i chadw ac sydd hefyd yn hafan i fyd natur ac yn ardal o harddwch ac o ymlacio.

Nid yw tyfu llysiau yn golygu bod yn rhaid i'ch gardd fod yn rhandir! Dysgwch sut i gynllunio gardd sy'n gweddu i'ch ffordd o fyw, eich anghenion a'ch dyheadau.

Mae'r testunau a fydd dan sylw yn cynnwys:

  • esbonio garddio permaddiwylliant
  • gweld a blasu gyda bingo planhigion - mae’r tiwtor yn dod ag enghreifftiau o blanhigion bwyd o’i gardd
  • agwedd, goledd, microhinsoddau  - sut maent yn dylanwadu ar eich cynllun
  • cylchfaeo gofodol - beth ydyw, a sut mae’n dylanwadu ar eich cynllun
  • yr ardd gegin
  • yr ardd goedwig fwytadwy
  • planhigion bwytadwy anghyffredin
  • cyfrinachau’r pridd: microffawna a macroffawna a chylchred yr ecosystem o dan ein traed ; compostio - ecosystem mewn blwch - tomwelltio - ecosystem yn eich gardd
  • gwych yw chwyn - rheoli eich chwyn mewn modd creadigol
  • gweithio gyda dŵr: - Trosolwg o’r hinsawdd yng Nghymru - technegau rheoli dŵr
  • rheoli Plâu mewn modd Integredig (IPM): - Trosolwg o’r holl dechnegau rheoli plâu - golwg manwl ar reoli plâu yn naturiol.

Mae'r cwrs hwn yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn tyfu eu bwyd eu hunain a chreu gardd sydd yn hawdd i’w chadw, wedi ei rheoli yn naturiol, yn gynhyrchiol ac yn brydferth beth bynnag fo’i maint.

Dysgu ac addysgu

Bydd darlithoedd, trafodaethau grŵp, ymarferion grŵp, arddangosiadau/gweithgareddau ymarferol, a gwaith cynllunio mewn grwpiau.

Eglurir y cwrs gyda sleidiau a thryloywluniau. Bydd pwyslais ar ddysgu gweithredol, i’ch helpu i ddatblygu a deall mater y pwnc a’i berthnasedd i’r byd go iawn.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella.

Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Whitefield, P. (1993) Permaculture in a Nutshell. Permanent Publications.
  • Whitefield, P. (1997) How To Make A Forest Garden. Permanent Publications.
  • Crawford, M. (2010) Creating a Forest Garden.
  • Bell, G. (1994) Permaculture Garden. Harper Collins.
  • French, J.  (1992) The Wilderness Garden. Aird Books. (Awstralia)
  • Fern, K. (1997) Plants for a Future. Permanent Publications.
  • Hessayon D.G. (1997) The Fruit Expert. Expert.
  • Larkcom, J. (2003) The Organic Salad Garden. Frances Lincoln Ltd
  • McVicar, J. (1997) Good Enough To Eat. Kyle Cathie Ltd.
  • Baines, D. (2000) How To Make A Wildlife Garden. Frances Lincoln Ltd
  • Crawford, M. (1998) Edible Plants For Temperate Climates. Agroforestry Research Trust.
  • Kourik, R. (1986) Designing and Maintaining Your Edible Landscape Naturally. Metamorphic P.
  • The Collins Gem series for identifying: Wildflowers; Moths & Butterflies; Insects; Birds; Pond species

Ar gyfer adnabod planhigion a chymorth dylunio:

  • Brickell, C. (ed.) (2003) Royal Horticulture Society New Encyclopaedia of Plants and Flowers.
  • Dorling Kindersley Bown, D. (2003) The Royal Horticulture Society Encyclopaedia of Herbs and their Uses.

Ar gyfer adnabod pla yn hytrach na rheoli pla:

  • Greenwood, P. and Halstead, A. (1997) The Royal Horticulture Society Pest and Diseases

Am gyngor technegol:

  • Brickell, C. and Joyce, D. (1996) The Royal Horticultural Society Pruning and Training.
  • Dorling Kindersley The Royal Horticulture Society Encyclopaedia of Gardening Flowerdew, B. (2003) Bob Flowerdew's Organic Bible: Successful Gardening the Natural Way.
  • Kyle Cathie. Cylchgronau. Permaculture Magazine and Organic Gardening

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.