Ewch i’r prif gynnwys

Ffrangeg Uwch - Cam F

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu eich iaith lafar, glywedol ac ysgrifenedig er mwyn i chi fynegi eich hunain yn rhugl ac yn ddigymell.

Byddwch yn atgyfnerthu ac yn ehangu eich dealltwriaeth o strwythur yr iaith a diwylliant y gwledydd lle siaredir Ffrangeg ymhellach.

Bydd ystod eang o bynciau yn cael eu cyflwyno, gan gynnwys bywyd bob dydd mewn gwledydd sy’n Ffrangeg eu hiaith a materion cyfoes, materion mewn perthynas ag iaith, diwylliant, cymdeithas a gwleidyddiaeth Ffrainc (dysgu gydol oes, materion amgylcheddol, cenedlaethau, ac ati).

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rheiny sydd â gwybodaeth ddigonol dda iawn o’r Ffrangeg ac sydd eisiau cwrs ysgogol i gyfateb i’w galluoedd a’u hymestyn (pum mlynedd o astudio rhan-amser a/neu Ffrangeg Uwch Cam E).

Gall astudio’r cwrs hwn gyfrannu at y llwybr at radd mewn cyfieithu a’r llwybr at radd mewn ieithoedd modern.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gyfranogi, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella.

Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.

Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs. Yn ogystal â sesiynau wythnosol, rydym yn argymell eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi, yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth a’n ceisio darllen papurau newydd neu wrando ar y radio er mwyn dilyn materion cyfoes a gwella eich dealltwriaeth.

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd y llyfr cwrs a ddefnyddir hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer Cam G. Campus 4: Methode de français, gan Janine Courtillon a Christine Guyot-Clement, a gyhoeddwyd gan Fernand Nathan - CLE International, 2005 (ISBN-10: 2090333146) Yn ogystal, gellir ystyried y teitlau canlynol:

  • Francoscopie 2010, G. Mermet, R. Hasterok, Larousse, 2009, ISBN-10: 2035845386
  • Help Yourself to Advanced French Grammar, T. Marriott, M. Ribiere, Longman, ail argraffiad, 1998
  • A Comprehensive French Grammar, G. Price, Blackwell Publishing, chweched argraffiad, 2007
  • French Grammar Explained, D. Nott, Hodder & Stoughton, 1998

Byddem yn hoffi i chi geisio darllen papurau newydd a chylchgronau yn rheolaidd. Yn y llyfrgell, rydym yn derbyn y cyfnodolion canlynol a fyddai’n addas ar eich cyfer chi:

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.