Ewch i’r prif gynnwys

Gwella eich Rwseg I

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Rwseg yn rhan-amser am un flwyddyn, sydd am wella eu sgiliau iaith ymhellach ac ar yr un pryd am gael cipolwg ar fywyd a diwylliant Rwseg.

Yn y dosbarth, byddwch yn cael digon o gyfle i siarad trwy waith pâr ac ymarferion grŵp; gwrando ar dapiau sain/fideo dilys; darllen testunau byr; a chwblhau ymarferion a fydd yn gwella eich geirfa a’ch gwybodaeth am ramadeg.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth elfennol o Rwseg, ac sy’n dymuno gwella eu sgiliau cyfathrebu ar lafar, yn glywedol ac yn ysgrifenedig.

Dysgu ac addysgu

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Dyma'r pynciau fydd o dan sylw:

  • fy nheulu a fi (adolygiad)
  • fy ninas; fy nhref; fy mhentref (adolygiad)
  • y tywydd
  • teithio a thrafnidiaeth
  • gwyliau

Gramadeg

  • ffurfdroadau enwau
  • arddodiaid
  • gwrthrychau uniongyrchol/anuniongyrchol
  • berfau perffaith/amherffaith.

Darparwyd llungopïau o'r deunyddiau dysgu.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella.

Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion darllen a gwrando yn y dosbarth. Efallai y gofynnir i chi ysgrifennu testunau byr fel gwaith cartref. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a’r myfyriwr.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.