Ewch i’r prif gynnwys

Rheoli prosiectau

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Hyd 10 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Dr Jo Smedley
Côd y cwrs BAM23A5264C
Ffi £186
Ffi ratach £148 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad da i'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rheoli prosiectau’n llwyddiannus.

Mae hwn yn faes astudio a chymhwyso sy'n dod yn fwyfwy poblogaidd ac mae’n ddefnyddiol ym mhob agwedd ar reoli bywyd a chyflogaeth. Mae'r cwrs hwn yn hynod o boblogaidd, felly dylech gofrestru ymlaen llaw.

Mae'r cwrs hwn yn agored i bwy bynnag sy'n ymddiddori yn y pwnc, ac nid oes angen gwybod unrhyw beth ymlaen llaw.

Dysgu ac addysgu

Caiff y cwrs ei addysgu drwy gyfuniad o seminarau a arweinir gan diwtoriaid, a gwaith mewn grwpiau bach.

Mae maes llafur y cwrs yn cwmpasu:

  • cefndir rheoli prosiect
  • ymchwilio'r cynllun
  • defnyddio gwahanol fathau o fethodoleg
  • archwilio technoleg gyfoes
  • dylunio cynllun rheoli prosiect
  • rhoi'r cynllun rheoli prosiect ar waith.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Mae ein hasesiadau'n hyblyg er mwyn gweddu i'r cwrs a'r myfyriwr, ond maent yn rhoi gwell profiad dysgu i'r myfyriwr drwy weithio ar lefel academaidd israddedig.

Gofynnir i chi lenwi taflenni gwaith myfyriol ar draws 10 wythnos y cwrs ac ysgrifennu cynllun rheoli prosiect.

Deunydd darllen awgrymedig

Cynigir awgrymiadau ar gyfer darllen drwy gydol cyfnod y cwrs.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.