Ewch i’r prif gynnwys

Groeg i Ddechreuwyr I

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r cwrs hwn ar gyfer dechreuwyr llwyr, a bydd yn cyflwyno myfyrwyr i iaith a diwylliant Gwlad Groeg.

Bydd myfyrwyr yn dysgu hanfodion gramadeg Groeg a sut i ddarllen Groeg yn llwyddiannus. Byddwn yn ymarfer sgyrsiau sylfaenol a strwythurau ieithyddol.

Dyma'r pynciau fydd o dan sylw:

  • Cyfarchion
  • Cenedligrwydd
  • Bwyd a diod
  • Galwedigaethau
  • Gofyn cwestiynau
  • Hoff bethau a chas bethau
  • Cyfarwyddiadau
  • Amser, dyddiau'r wythnos, y tymhorau.

Gramadeg:

  • Yr wyddor
  • Bannod benodol/amhenodol
  • Yr amser presennol (i fod; tri chategori berfol o blith pedwar)
  • Defnydd sylfaenol o briflythrenau/llythrennau bach mewn enwau ac ansoddeiriau Groeg
  • Rhagenwau, rhagenwau personol, rhagenwau meddiannol
  • Rhifau
  • Geiryn cwestiwn
  • Diwedd enwau (gwrywaidd, benywaidd, niwtral).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sy'n ddechreuwyr llwyr o ran Groeg, ac sy'n dymuno gallu cynnal sgwrs sylfaenol iawn wrth deithio i Wlad Groeg.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion darllen a gwrando yn y dosbarth. Efallai y gofynnir i chi ysgrifennu testunau byr fel gwaith cartref. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr. Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

Y gwerslyfr yw: Epikoinoniste Ellinika: Communicate in Greek: 1 gan Kleanthis Arvanitakis, Athena: Deltos, 2007.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.