Ewch i’r prif gynnwys

Java II

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r modiwl hwn yn ehangu eich dealltwriaeth o Iaith Raglennu Java.

Mae'r cwrs hwn wedi ei ddatblygu i ehangu’r cysyniadau sylfaenol a ddysgwyd yn Java I a chaiff ei addysgu mewn ffordd debyg.

Dysgu ac addysgu

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cymysgedd o sesiynau labordy a darlithoedd traddodiadol.  Mae pob cyfarfod yn dechrau gyda darlith ac yn gorffen gyda sesiwn yn y labordy.

Y Maes Llafur

  • gosod eithriad trwy ddefnyddio cais, daliad, ac yn y pen draw, atalfeydd.
  • Eithriadau Rhydd ac Ataliedig
  • Dosbarthiadau yr ailymwelir â hwy: ymhelaethu ar ddosbarthiadau a dosbarthiadau haniaethol
  • cyflwyniad i etifeddiaeth
  • dulliau etifeddol a dulliau sydd wedi eu gwrthwneud
  • algorithmau, defnyddio swigod, mewnosod a threfnu detholiadau
  • trin digwyddiadau
  • Rhyngwyneb MouseListener
  • Dosbarth MouseAdapter
  • defnyddio rheolwyr FlowLayout, Borderlayout, GridLayout a GridBagLayout Gyda’r Abstract Windowing Toolkit (AWT) a’r Pecyn Cymorth Swing.
  • defnyddio ffenestri Dialog gyda rhaglenni sydd â mwy nag un ffrâm
  • Ychwanegu cydrannau at y ffrâm graffigol

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Bydd gwaith a asesir yn cynnwys creu nifer o raglenni gyda rhyngwyneb defnyddiwr graffigol (GUI). Yn ystod y cwrs, byddwch yn cyflwyno aseiniadau i diwtor y cwrs.  Ar ddiwedd y cwrs, bydd yna brawf dosbarth.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Horstman, C.S. (1999) Computing Concepts with Java 2 essentials. John Wiley.
  • Horstmann, C.S. (2002) Big Java. John Wiley.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.