Ewch i’r prif gynnwys

Exploring Greek Art: From Iron Age to Classical

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r cwrs hwn yn mynd i’r afael â cherflunwaith, pensaernïaeth, crochenwaith wedi’i baentio a phaentio waliau, gan eu gosod yn eu cyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol.

Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar ddiwylliant Gwlad Groeg o’r Oes Efydd hyd at y cyfnod Bysantaidd, ond bydd hefyd yn trafod pynciau megis rhywedd a rhywioldeb; claddu a chymdeithas; crefydd ac iconograffiaeth; tirwedd a chefn gwlad.

Dysgu ac addysgu

Cynhelir y dysgu ac addysgu drwy weithio mewn grwpiau bach.

Mae hwn yn gwrs 10 credyd, felly bydd cyfarfod dwy awr unwaith yr wythnos (cyfanswm o 20 o oriau cyswllt) a fydd yn cynnwys grwpiau trafod, ymarferion, dadansoddi ffynonellau a chyflwyno deunydd ar PowerPoint neu DVD.

  1. Cyflwyniad: Tirwedd Gelfyddydol a Diwylliannol Gwlad Groeg
    Cyflwyniad i brif themâu’r modiwl ac amlinelliad o’r cefndir hanesyddol a’r ffynonellau llenyddol pwysicaf.
  2. Celf yr Oes Efydd ac Archeoleg (3500-1100 BC): Creta a’r Tir Mawr
    Palasau, Celf a’r Gymdeithas. Trafodaeth ar y cyfnod Minoaidd, cymhlethdodau cymdeithasol-wleidyddol, claddfeydd a chelf y cyfnod. Golwg graffach ar gynhyrchu celf yn Knossos a Mycenae.
  3. O Oes yr Haearn (1100-700BC) hyd at ‘Oes yr Arbrofi’ (700-480BC)
    Datblygiadau cymdeithasol-wleidyddol yn sgil dymchweliad Palasau’r Oes Efydd.  Trosolwg o ddatblygiadau ym meysydd pensaernïaeth, cerflunwaith a chrochenwaith yn yr Oes Haearn a’r cyfnod Hynafol.
  4. Y Cyfnod Clasurol (479-323 BC): Hanes a Diwylliant
    Datblygiadau gwleidyddol-gymdeithasol. Trafodaeth ar y newidiadau i’r gymdeithas a sut y cânt eu hadlewyrchu yn archeoleg a chelf y cyfnod.
  5. Pensaernïaeth a Cherflunwaith Clasurol
    Bydd y wers yn cwmpasu Adeiladau cyhoeddus a themlau mewn cysegrfeydd megis Delphi, Olympia, a’r Acropolis Athenaidd. Amlinelliad o Ddatblygiad Arddulliol cerflunwaith Clasurol, gan gyflwyno’r prif artistiaid a’r dystiolaeth destunol drostynt.
  6. Paentio a Chrochenwaith Clasurol a Hynafol
    Bydd yn trafod y dystiolaeth archeolegol wael sydd gennym dros baentio waliau a’r cofnod llenyddol cyfoethog. Sut mae paentio ffiolau yn llenwi’r bwlch. Trafodaeth o dechnegau ac eiconograffeg ffiolau. Paentio mewn Beddrodau Macedonaidd.
  7. Celf y Cyfnod Helenistaidd (323 BC - 146 BC)
    Cyflwyniad i gerflunwaith, pensaernïaeth a phaentio’r cyfnod Helenistaidd. Trafodaeth o safleoedd megis Pella, Vergina, Dion.  Alecsander Fawr a’i ergyd.
  8. Y Goresgyniad Rhufeinig (146 BC - 330 AD) Beth adawodd y Rhufeiniaid?
    Newidiadau i’r gymdeithas a diwylliant wedi goresgyniad y Rhufeiniaid. Golwg ar ddinasoedd newydd megis Nikopolis. Celf y cyfnod gyda phwyslais ar gerflunwaith.
  9. Y Cynfyd Hwyr a Byzantium (330 AD - 1453 AD)
    Mae’r sesiwn hon yn canolbwyntio ar baentio a cherflunwaith cyfnod y Cynfyd Hwyr a’r cyfnod Bysantaidd a’r newidiadau hanesyddol a diwylliannol mawr.
  10. 10. Yr amgylchedd adeiledig yn y cyfnod Bysantaidd: Y Tŷ, yr Eglwys a’r Unigolyn
    Bydd y sesiwn hon yn archwilio pensaernïaeth gyhoeddus a chynhenid. Byddwn yn craffu ar eglwysi Bysantaidd a thrafod effaith y digwyddiadau hanesyddol mawr ar gelf.

Y nod yw sicrhau bod y dosbarthiadau’n bleserus ac ysgogol i bawb. Bydd hyn yn annog datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r pynciau a’r syniadau a drafodir yn ystod y cwrs.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gryfhau’ch hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Fyddwch chi ddim yn sefyll arholiad ffurfiol ond gofynnir ichi baratoi peth gwaith ysgrifenedig (1500 o eiriau). Gall hwn gynnwys set o ymatebion byr i gwestiynau (megis holiadur neu gwis), dyddlyfr cwrs, adolygiad o erthygl, cyflwyniad llafar neu draethawd manylach.

Deunydd darllen awgrymedig

Testunau allweddol

  • Cormack, R. 2000. Byzantine Art. Oxford.
  • Herrin, 2007. J. Byzantium. London & New York.
  • Osborne, R. 1998. Archaic and Classical Greek Art .Oxford
  • Pedley, J.G. 1993. Greek Art and Archaeology. London
  • Preziosi, D. and L. Hitchcock. 1999. Aegean Art and Architecture. Oxford: Oxford University
  • Robertson, C.M. 1981. A Shorter History of Greek Art. Cambridge
  • Stewart, P. 2004. Roman Art. Oxford.
  • Whitley, J. 2001. The Archaeology of Ancient Greece .Cambridge

Testunau a argymhellir

  • Alcock, S.E.  and R. Osborne (eds), 2007. Classical Archaeology .Malden MA and Oxford 2007.
  • D'Ambra, E. 1998. Roman Art. Cambridge.
  • Davies, J.K. 1978. Democracy and Classical Greece .Glasgow.
  • Dickinson, O.T.P.K. 1994. The Aegean Bronze Age. Cambridge: Cambridge University Press
  • Hurwit, J.M. 1985.The Art and Culture of Early Greece, 1100-480 BC. Ithaca NY
  • Hutter, I. 1971. Early Christian and Byzantine Art. London.
  • Jeffreys, E. et al. (eds). 2008. The Oxford Handbook of Byzantine Studies. Oxford.
  • Osborne, R. 1987. Classical Landscape with Figures. London
  • Rodley, L. 1994. Byzantine Art and Architecture. An Introduction. London
  • Smith, T.J. & D. Plantzos. 2012. A companion to Greek Art. Blackwell.
  • J.J. Pollitt, 1972. Art and Experience in Classical Greece .Cambridge
  • J.J. Pollitt, 1990. The Art of Ancient Greece: Sources and Documents .Cambridge.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.