Ewch i’r prif gynnwys

Sgiliau Cwnsela ar Waith

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r cwrs dilynol hwn ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r cwrs Dysgu Sgiliau Cwnsela yn llwyddiannus.

Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i chi ehangu eich dealltwriaeth a’ch gallu i ddefnyddio sgiliau cwnsela trwy gyfrwng ymarferion, chwarae rôl ac wrth ysgrifennu eich dyddiadur myfyriol.

Mae’r cwrs yn agored yn unig i’r myfyrwyr hynny sydd wedi cwblhau Dysgu Sgiliau Cwnsela yn llwyddiannus.

Dysgu ac addysgu

Mae'r themâu yn cynnwys:

  • adolygu a myfyrio.
  • helpu cleientiaid i adrodd eu stori gan ddefnyddio collage a wnaed gartref
  • cyfnodau bywyd datblygiadol
  • defnyddio delweddau
  • herio a wynebu unigolion
  • gweithio gyda gwahaniaethau diwylliannol
  • gwaith gyda chleientiaid, sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau
  • colled a galar
  • dadansoddi trafodol
  • arsylwi arnom ein hunain yn ymarferol

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella.

Bydd y myfyrwyr yn cwblhau dyddiadur myfyriol a fydd yn dangos tystiolaeth o'u dysgu bob wythnos. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.