Ewch i’r prif gynnwys

Sgiliau Hyfforddi a Mentora

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae Mentora’n cael ei ddefnyddio’n fwyfwy ar gyfer cefnogi unigolion i gyrraedd eu nod mewn bywyd. Fel mentor, byddwch yn datblygu eich gallu i sefydlu perthynas, datblygu sgiliau gwrando a’r gallu i sylwi ar faterion a godir gan eich mentorai ac ymateb iddynt. Er ei fod yn hynod o ymarferol, mae'r cwrs yn cynnwys theori i gefnogi’r broses o fyfyrio a gwerthuso arfer mentora.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Mae'r cwrs yn agored i bawb.

Dysgu ac addysgu

Mae'r maes llafur yn cynnwys:

  • beth yw hyfforddi a mentora
  • deall cydrannau'r berthynas gyda chleientiaid
  • sut caiff perthynas ei meithrin – sgiliau cyfathrebu / gwrando gweithredol
  • delio gyda materion ynghylch amrywiaeth
  • technegau cymorth – helpwr â sgiliau Egan
  • strategaethau cymell – Gosod nodau
  • ffiniau a chyfrinachedd
  • myfyrio
  • mecanweithiau monitro a gwerthuso ar gyfer cyflawniadau
  • cyd-destunau ar gyfer hyfforddi – astudiaethau achos.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.

Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Bydd yr asesiad ar gyfer y cwrs hwn yn barhaus drwy gyfrwng ymarferion bach, ambell un yn ymarferol ac wedi'u cwblhau yn y dosbarth, eraill wedi'u gosod fel gwaith cartref. At hynny, bydd aseiniad ysgrifenedig, 1,000 o eiriau yn ofynnol, a gellir cyflwyno hwnnw i'r dosbarth. (Cytunir ar hyn gyda'r dosbarth yn yr ychydig wythnosau cyntaf)

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.