Ewch i’r prif gynnwys

Archwilio'r Gorffennol: Archaeoleg

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae archaeolegwyr yn gwneud llawer mwy na chloddio, ond beth yw archaeoleg a beth mae archaeolegwyr yn ei wneud?

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyflwyniad i ddulliau a dehongliadau archaeolegol.

Gan ddefnyddio cyfres o astudiaethau achos, byddwn yn ymchwilio i ailadeiladu tirwedd ac amaethyddiaeth, technoleg, masnach, diet, arferion claddu, credoau, hunaniaethau diwylliannol a bywydau unigolion a chymunedau'r gorffennol.

Byddwn yn ystyried sut mae safleoedd yn cael eu darganfod a'u cloddio, a pham a sut rydym yn astudio'r gorffennol archaeolegol.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl trwy naw sesiwn wyneb yn wyneb. Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd a thrafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol sy'n ymwneud â'r modiwl.

Bydd y drafodaeth a'r gwaith grŵp yn eich galluogi i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.

Bydd y sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd yn cael eu hategu gan yr adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog.

Maes Llafur:

  • Beth yw Archaeoleg?
  • Cloddio wedi'r cyfan...
  • Pryd mae Archaeoleg?
  • Archaeoleg a Chenedlaetholdeb yn Ewrop
  • Dehongli Darganfyddiadau
  • Rôl Gwyddoniaeth mewn Dehongli Archaeolegol
  • Dehongli Archaeolegol, astudiaeth achos: Knossos
  • Gorffennol pwy? Gwrthrychedd a Dehongli

Gwaith cwrs ac asesu

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys tri darn byr o waith asesedig a ddylai, gyda’i gilydd, ddod i oddeutu 1500 o eiriau.

Mae'r darnau hyn o waith wedi cael eu cynllunio i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r dulliau y mae arnoch eu hangen i astudio’r gorffennol yn llwyddiannus.

Bydd y cyntaf o'r rhain yn eich galluogi i ymarfer rhoi eich syniadau mewn geiriau ar ffurf academaidd.

Bydd yr ail yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau o gyflwyno a dadansoddi data, a bydd y trydydd yn rhoi cyfle i chi ysgrifennu traethawd byr. Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer pob un o’r tri aseiniad.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Carver, M. 2009. Archaeological investigation. Llundain: Routledge.
  • Flatman, J. 2011. Becoming an Archaeologist: A Guide to Professional Pathways. Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt.
  • Gamble, C. 2001. Archaeology. The Basics. Llundain: Routledge.
  • Hurcombe, L. 2007. Archaeological Artefacts as Material Culture.Llundain: Routledge.
  • Ralston, I. a Hunter, J. (gol) 2009. The Archaeology of Britain. Llundain: Routledge (2il argraffiad).
  • Renfrew, C. a Bahn, P. 2008. Archaeology: Theories, Methods and Practice. Llundain: Thames a Hudson. (5ed argraffiad).
  • Scarre, C. (gol.) 2005. The Human Past: World Prehistory & The Development of Human Societies. Efrog Newydd: Thames a Hudson.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.