Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni?

mortarboard

Amrywiaeth o raddau

Rydym yn cynnig ystod o raglenni gradd arbenigol a throsi sy’n addas i amrywiaeth o gefndiroedd, p’un a oes gennych ddealltwriaeth o’r pwnc ers eich gradd israddedig neu’n symud i faes cyfrifiadureg o ddisgyblaeth arall.

screen

Cynorthwyo eich astudiaeth

Bydd pob myfyriwr MSc yn cael gliniadur yn ystod yr wythnos sefydlu fydd yn aros gyda chi drwy gydol y cwrs.

briefcase

Lleoliadau gwaith â thâl

Cewch brofiad gwaith gwerthfawr mewn lleoliadau gwaith a phrosiectau proffesiynol gydag ymarferwyr diwydiannol blaenllaw.

Yn wreiddiol, cefais waith ar ôl graddio gyda gradd israddedig o Brifysgol Rydychen, ond sylweddolais yn fuan wedyn fy mod ar lwybr gyrfa nad oeddwn i wedi’i ddewis. Penderfynais ddilyn cwrs trosi er mwyn cael dechrau eto a sicrhau mwy o opsiynau ar fy nghyfer. Dewisais Gaerdydd oherwydd roedd modiwlau’r cwrs i’w gweld yn fwy perthnasol i’r sgiliau a fyddai eu hangen arnaf yn y farchnad swyddi yn fwy na chyrsiau trosi eraill bues i’n edrych arnynt. Roedd Caerdydd hefyd fel petai’n cynnig cymorth da iawn i ôl-raddedigion. Yn bendant mae’r MSc hwn wedi agor cyfleoedd gwaith ar fy nghyfer nad oedd ar gael o gwbl cyn i mi gwblhau’r cwrs.
Matilda Rhode, MSc Cyfrifiadura

Ein sgyrsiau

Dyma Bennaeth yr Ysgol, yr Athro Stuart Allen, yn cynnig trosolwg defnyddiol o Gyfrifiadureg a Gwybodeg yng Nghaerdydd, gan gynnwys sut rydym yn cefnogi ein myfyrwyr a rhai o’r ffyrdd ysbrydoledig maent yn cyfrannu at y gymuned ehangach.

Trosolwg o’r Ysgol a chroeso

Dyma Bennaeth yr Ysgol, yr Athro Stuart Allen, yn cynnig trosolwg defnyddiol o Gyfrifiadureg a Gwybodeg yng Nghaerdydd, gan gynnwys sut rydym yn cefnogi ein myfyrwyr a rhai o’r ffyrdd ysbrydoledig maent yn cyfrannu at y gymuned ehangach.

Ymunwch â’r Athro Alun Preece wrth iddo gyflwyno darlith ragflas ddiddorol yn edrych ar sut y gall DA weithio ochr yn ochr â phobl.

Darlith ragflas: Deallusrwydd Artiffisial: Cyfrifiaduron v. Pobl?

Ymunwch â’r Athro Alun Preece wrth iddo gyflwyno darlith ragflas ddiddorol yn edrych ar sut y gall DA weithio ochr yn ochr â phobl.

Rhagor am y cwrs MSc Peirianneg Meddalwedd a addysgir yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol.

MSc Peirianneg Meddalwedd

Rhagor am y cwrs MSc Peirianneg Meddalwedd a addysgir yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol.

Dyma Manoj o India yn trafod astudio MSc Cyfrifiadureg Uwch ym Mhrifysgol Caerdydd, a sut beth yw bod yn fyfyriwr yng Nghaerdydd.

Astudio MSc Uwch-Gyfrifiadureg

Dyma Manoj o India yn trafod astudio MSc Cyfrifiadureg Uwch ym Mhrifysgol Caerdydd, a sut beth yw bod yn fyfyriwr yng Nghaerdydd.

Dyma Teresa Bryant, sy’n fyfyriwr MSc Cyfrifiadura gyda Lleoliad, yn sôn am sut brofiad yw astudio’r cwrs trosi hwn gyda ni, gan roi cipolwg ar sut mae wedi mynd o gael braidd dim gwybodaeth am raglennu ar ddechrau’r cwrs i fod wedi cael popeth sydd angen iddi ei wybod wedi’i addysgu iddi.

MSc Cyfrifiadura: Safbwynt Myfyrwyr

Dyma Teresa Bryant, sy’n fyfyriwr MSc Cyfrifiadura gyda Lleoliad, yn sôn am sut brofiad yw astudio’r cwrs trosi hwn gyda ni, gan roi cipolwg ar sut mae wedi mynd o gael braidd dim gwybodaeth am raglennu ar ddechrau’r cwrs i fod wedi cael popeth sydd angen iddi ei wybod wedi’i addysgu iddi.

Mae Kruthi Rajashekar o India yn astudio MSc Uwch-Gyfrifiadureg gyda ni. Mae’n rhoi cipolwg ar y cwrs, a pha gymorth ychwanegol y gallwch ddisgwyl ei gael, yn ogystal â’r cyfleusterau a’r cyfleoedd anhygoel sydd ar gael i fyfyrwyr.

Myfyriwr MSc Uwch-Gyfrifiadureg Rhyngwladol

Mae Kruthi Rajashekar o India yn astudio MSc Uwch-Gyfrifiadureg gyda ni. Mae’n rhoi cipolwg ar y cwrs, a pha gymorth ychwanegol y gallwch ddisgwyl ei gael, yn ogystal â’r cyfleusterau a’r cyfleoedd anhygoel sydd ar gael i fyfyrwyr.

Dewisais astudio yng Nghaerdydd oherwydd y diwrnod agored. Roedd yr awyrgylch yng Nghaerdydd yn gyfeillgar ac yn groesawgar, roedd y myfyrwyr a oedd yn dangos y Brifysgol i ni yn frwdfrydig dros Gaerdydd, roedd y cyfleusterau ar gyfer fy nghwrs yn fodern, ac roedd gan y labordai ddigon o olau ynddynt gan roi amgylchedd da i ddysgu ynddo. Mae Caerdydd yn cynnig llawer o ffeiriau gyrfaoedd er mwyn cynorthwyo wrth gael gyrfa, yn cynnig tiwtoriaid personol er mwyn helpu gyda materion sy’n ymwneud ag unrhyw gwrs, a’r addysgu o ansawdd uchel y mae’r athrawon yn ei gynnig.
Ian Cox, myfyriwr graddedig o’r MSc Cyfrifiadureg Uwch

Cyrsiau

Cyfrifadureg Uwch (MSc)

Rhan amser

Cynlluniwyd y rhaglen flaengar hon i’r rhai sydd wedi graddio mewn cyfrifiadura ac yn awyddus i ragori ymhellach drwy sicrhau uwch-feistrolaeth ar y ddisgyblaeth. Ynddi, trafodir y pynciau cyfoes sy’n gyrru’r datblygiadau a’r tueddiadau technolegol diweddara

Cyfrifiadura a Rheoli TG (MSc)

Amser llawn, Rhan amser

Ar gyfer graddedigion sydd am symud i gyfrifiadureg o ddisgyblaeth arall. Mae'r rhaglen yn para blwyddyn ac yn cynnig gwybodaeth dechnegol eang a chyd-destun busnes cadarn ar gyfer rheoli systemau TG.

Cyfrifiadura (MSc)

Amser llawn, Rhan amser

Wedi’i dylunio ar gyfer graddedigion sydd am symud i’r cwrs cyfrifiadur o ddisgyblaeth arall, mae’r rhaglen hon sy'n flwyddyn o hyd yn denu myfyrwyr o amrywiol yrfaoedd a meysydd pwnc sy'n dymuno ymgyfarwyddo â'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn datblygu meddalwedd.

Cyfrifiadureg a Rheoli TG gyda Lleoliad (MSc)

Amser llawn gyda blwyddyn ryngosod

Mae’r rhaglen 'â lleoliad' yn gyfle i ymgymryd â phrofiad 7-12 mis ar gyfer myfyrwyr sy'n llwyddo i ddod o hyd i leoliad addas.

Cyfrifiadureg gyda Lleoliad (MSc)

Amser llawn gyda blwyddyn ryngosod

Mae’r rhaglen 'â lleoliad' yn gyfle i ymgymryd â phrofiad 7-12 mis ar gyfer myfyrwyr sy'n llwyddo i ddod o hyd i leoliad addas.

Cyfrifiadureg Uwch gyda Blwyddyn o Leoliad Gwaith Proffesiynol (MSc)

Amser llawn gyda blwyddyn ryngosod

Mae’r rhaglen 'gyda blwyddyn ar leoliad gwaith proffesiynol' yn gyfle i fyfyrwyr ymgymryd â phrofiad 7-12 mis os ydynt yn llwyddo i ddod o hyd i leoliad addas.

Dadansoddi Data i’r Llywodraeth (MSc)

Amser llawn, Rhan amser

Datblygwch eich dealltwriaeth ddamcaniaethol, eich profiad ymarferol o wyddor data a’ch sgiliau dadansoddeg gan ganolbwyntio’n benodol ar ddefnyddio dulliau dadansoddi data mewn llywodraeth a gwasanaeth cyhoeddus.

Deallusrwydd Artiffisial gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol (MSc)

Amser llawn gyda blwyddyn ryngosod

Cewch archwilio technegau a chymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial (AI) a datblygu eich sgiliau ymarferol drwy gael eich amlygu i broblemau a setiau data'r byd real.

Deallusrwydd Artiffisial (MSc)

Amser llawn

Cewch archwilio technegau a chymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial (AI) a datblygu eich sgiliau ymarferol drwy gael eich amlygu i broblemau a setiau data'r byd real.

Gweinyddu Busnes gyda Deallusrwydd Artiffisial (MBA)

Amser llawn

Mae’r rhaglen ar gyfer pobl brofiadol mewn technoleg neu waith addas a hoffai dreulio cyfnod o astudio a datblygu personol i’w helpu i gyrraedd rolau arweinyddion uchelradd yn gyflymach.

Gwyddor Data a Dadansoddi (MSc)

Amser llawn, Amser llawn, Rhan amser

Cewch ddysgu amrywiaeth o sgiliau y mae galw amdanynt ar gyfer echdynnu a thrin 'data mawr' a datblygu eich sgiliau ymarferol drwy gael eich amlygu i broblemau a setiau data'r byd real.

Newyddiaduraeth Gyfrifiadurol a Data (MSc)

Amser llawn

Gradd arloesol yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth a sgiliau drwy ddysgu ymarferol, ar sail ymchwil, am newyddiaduraeth, gwyddor data, codio cyfrifiaduron a datblygiadau digidol.

Peirianneg Meddalwedd gyda Blwyddyn o Leoliad Gwaith Proffesiynol (MSc)

Amser llawn gyda blwyddyn ryngosod

Mae'r radd MSc Peirianneg Meddalwedd yn cyflwyno cyfle i fyfyrwyr o gefndiroedd amrywiol mewn pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ennill y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad ymarferol sydd eu hangen i fod yn effeithiol fel peiriannydd meddalwedd masnachol.

Peirianneg Meddalwedd (MSc)

Amser llawn

Yn rhan o’r rhaglen un flwyddyn bydd myfyrwyr yn ymgymryd â datblygiad ymarferol gan ddefnyddio’r offer a thechnegau masnachol arloesol diweddaraf, a chymryd rhan uniongyrchol yn y diwydiant mewn amgylchedd masnachol dynamig.

Prosesu Iaith Naturiol (MSc)

Amser llawn

Nod y rhaglen hon yw datblygu eich galluoedd technegol yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o effeithiau moesegol a chymdeithasol delio â data testun.

Seiber Ddiogelwch a Thechnoleg (MSc)

Amser llawn

Dyma raglen seiber ddiogelwch uwch a ddatblygwyd gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â PwC ac a gefnogir gan gyllid gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, i baratoi gweithwyr proffesiynol seiber ddiogelwch o safon sy’n ddeniadol i sefydliadau ledled y byd ac yn barod i weithio.

Seiber Ddiogelwch (MSc)

Amser llawn, Rhan amser

Mynd i'r afael â'r materion diogelwch allweddol sy'n wynebu systemau cyfathrebu a gwybodaeth byd-eang a datblygu eich sgiliau ymarferol trwy ddod i gysylltiad â phroblemau a setiau data'r byd go iawn.

Uwch Gyfrifiadureg (MSc)

Amser llawn, Amser llawn

Cynlluniwyd y rhaglen flaengar hon i’r rhai sydd wedi graddio mewn cyfrifiadura ac yn awyddus i ragori ymhellach drwy sicrhau uwch-feistrolaeth ar y ddisgyblaeth. Ynddi, trafodir y pynciau cyfoes sy’n gyrru’r datblygiadau a’r tueddiadau technolegol diweddara

Cloddio data a thestun (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Yn y maes blaenoriaeth hwn, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cymhwyso gwaith cloddio data a thestun ym meysydd gofal iechyd, plismona, gwyddorau bywyd a gwyddorau cymdeithasol.

Cyfrifiadura cymdeithasol (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Mae'r maes blaenoriaeth hwn yn seiliedig ar weithgareddau'r Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol a'r Labordy Cyfrifiadura Symudol a Chymdeithasol.

Cyfrifiadura Gweledol (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Mae ein gwaith ymchwil mewn cyfrifiadura gweledol yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau ym meysydd golwg cyfrifiadurol, graffeg gyfrifiadurol, cyfrifiadura geometrig, yn ogystal â a phrosesu delweddau a fideos. Un o themâu pwysig ein gwaith yw ystyried prosesau mewnbynnu, disgrifio a golygu solidau, arwynebau a chromliniau. Cynrychiolir y rhain yn ddadansoddol, fel modelau CAD ac fel rhwyllau. Mae agweddau eraill ar ein gwaith yn cynnwys dadansoddi, defnyddio a chreu data sefydlog fel delweddau, rhwydweithiau arwyneb a sganiau dyfnder 3D, yn ogystal â data sy’n amrywio yn ôl amser megis fideo a sganiau 4D o wrthrychau symudol. Mae ein harbenigedd yn y maes hwn wedi cael ei gymhwyso at sawl disgyblaeth wahanol gan gynnwys peirianneg, gwyddorau’r ddaear, seicoleg, bioleg, meddygaeth a hyd yn oed rheoli cwantwm.

Cyfrifiadureg a Gwybodeg (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Mae astudio am PhD neu MPhil yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Caerdydd yn cynnig y cyfle i chi ddod yn rhan o ysgol ymchwil cryf, deinamig a rhyngwladol llwyddiannus.

Cynrychioli gwybodaeth a rhesymu (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Mae maes cynrychioli gwybodaeth a rhesymu yn ymwneud â systemau ar systemau rhesymu awtomataidd yng nghyd-destun rhith-deallusrwydd. Mae gennym bwyslais penodol ar: ffyrdd ymarferol ac anwythol o resymu, dadlau, rhesymu gofodol ansoddol, rhesymu epistemig a chaffael gwybodaeth.

Human factors technology (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Mae technoleg ffactorau dynol wedi ymrwymo i ddeall a gwella'r ffordd y mae pobl yn defnyddio technoleg mewn amgylchedd gwybodaeth. Mae'n canolbwyntio ar ddulliau awtomataidd o gloddio, strwythuro ac integreiddio gwybodaeth ddigidol (gan gynnwys testun, llais, cerddoriaeth a delweddau), hwyluso cyfathrebu cyfrifiadurol dynol, ac astudio ymddygiad dynol drwy ddefnyddio gwybodeg synhwyrydd.

Preifatrwydd data a seiberddiogelwch (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Ymhlith ein ymchwil mewn seiberddiogelwch mae dosbarthiad peiriant o ddrwgwedd mewn ffurfiau amrywiol (ee elfennau gweithredadwy deuaidd a dolenni ar y we), modelau mathemategol ar gyfer mesur a rhagweld risg diogelwch rhwydwaith, diogelwch systemau rheoli diwydiannol (ee systemau SCADA), a diogelwch Cwmwl.

Systemau gwasgaredig a chyfochrog (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Mae gan y maes blaenoriaeth hwn ddiddordeb mewn rhaglenni amlddisgyblaethol cyfrifiadurol a data-ddwys sy'n rhychwantu gwyddoniaeth gyfrifiadurol draddodiadol a'r maes sy'n datblygu o wyddoniaeth data mawr.

Technolegau cwantwm a pheirianneg (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Mae technolegau a pheirianneg Quantum (QuTeE) yn canolbwyntio ar fodelu a thechnegau rheoli er mwyn creu dyfeisiau a phrosesau cwantwm. Rydym yn gweithio ar dechnegau er mwyn dylunio, rheoli ac optimeiddio ymddygiad prosesau cwantwm yn seiliedig ar ddulliau i fodeli ac efelychu systemau cwantwm, nodweddu eu hymddygiad yn ôl paramedr a dysgu modelaidd, a chanfod a dadansoddi signalau mesur.

Mwy o resymau dros ein dewis ni

Myfyrwyr yn eistedd tu allan i’r Brif Adeilad

Wedi ystyried cwrs trosi?

Gwrandewch ar brofiad myfyriwr o wneud MSc trosi gyda ni yn y blog hwn, a chlywed am brofiadau eraill ein myfyrwyr ôl-raddedig.

Image of the proposed new Computer Science and Mathematics building

Adeilad newydd ar gyfer yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Bydd ein cyfleuster newydd sbon pwrpasol, y byddwn yn ei rannu â’r Ysgol Mathemateg, yn barod yn nhymor yr hydref flwyddyn nesaf.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Postgraduate students applying for a postgraduate loan

Ariannu'ch astudiaethau

Mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau, pecynnau cymorth llywodraeth y DU, a’r benthyciadau i fyfyrwyr sydd ar gael ar eich cyfer.

Cegin (hygyrch)

Pori drwy ddewisiadau llety

Ddim yn siŵr pa lety i ddewis? Gall ein canllaw cymharu defnyddiol eich helpu i wneud penderfyniad.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Camau nesaf

certificate

Gweld holl gyrsiau Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Caerdydd

Cymerwch olwg ar ein cyrsiau ôl-raddedig ar gyfer 2021.

icon-contact

Cysylltwch â ni

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Sut i wneud cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am sut i wneud cais.