Ewch i’r prif gynnwys

Preifatrwydd data a seiberddiogelwch

Gallwch ganolbwyntio eich astudiaethau ar breifatrwydd data a seiberddiogelwch drwy ein rhaglenni ymchwil Cyfrifiadureg a Gwybodeg (MPhil, PhD).

Drwy astudio am PhD neu MPhil ym maes preifatrwydd a seiberddiogelwch byddwch yn ymuno â’r Ysgol fel rhan o dîm llwyddiannus o ymchwilwyr gydag amrywiaeth eang o bartneriaid diwydiannol a chydweithwyr academaidd.

Nodweddion unigryw

  • Mae ein diwylliant ymchwil hirsefydlog, cryf a deinamig wedi arwain at ein henw da rhyngwladol ar gyfer ymchwil o'r radd flaenaf.
  • Mae’r Ysgol yn cefnogi gwaith yn y maes hwn gyda buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau a seilwaith ymchwil.
  • Diwylliant ymchwil bywiog sy’n cynnwys rhaglenni seminar yr Ysgol â rhaglenni seminar â thema a chyfleoedd teithio/cynhadledd.
  • Cefnogaeth a hyfforddiant pwrpasol i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau o ran thema ymchwil.
  • Ymhlith ein ymchwil mewn seiberddiogelwch mae dosbarthiad peiriant o ddrwgwedd mewn ffurfiau amrywiol (ee elfennau gweithredadwy deuaidd a dolenni ar y we), modelau mathemategol ar gyfer mesur a rhagweld risg diogelwch rhwydwaith, diogelwch systemau rheoli diwydiannol (ee systemau SCADA), a diogelwch Cwmwl.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Ymchwil ôl-raddedig Cyfrifiadureg

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Dr George Theodorakopoulos

Dr George Theodorakopoulos

Lecturer

Email
theodorakopoulosg@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4855

Mae ein gwaith ymchwil yn cwmpasu nifer o bynciau sy'n esblygu, modern, a llawer ohonynt wedi'u rhestru fel blaenoriaethau yn ein gwaith ymchwil:

Wrth ystyried a ddylech ymuno â ni fel myfyriwr ymchwil, dylech adolygu'r pynciau a’r gweithgareddau i wneud yn siŵr bod gennym diddordebau tebyg. Cysylltwch ag aelod arweiniol o staff yn y maes hwn i helpu i nodi goruchwyliwr addas y gallwch drafod natur a chyfeiriad eich gwaith ymchwil gydag ef/hi.

Arian

Gallwch chwilio am ysgoloriaeth neu gael rhagor o wybodaeth am gyllid.

Ffioedd dysgu

Ymchwil hunan-ariannu

Rydym yn croesawu ceisiadau os ydych chi’n ariannu eich hun neu os oes gennych gyllid o ffynonellau eraill, gan gynnwys ysgoloriaethau gan y llywodraeth neu eich cyflogwr. Dylech adolygu ein meysydd ymchwil a'n blaenoriaethau i wneud yn siŵr bod gennym ddiddordebau tebyg.

Ymchwil a ariennir

Fel arfer, rydym yn dyfarnu nifer fach o ysgoloriaethau doethurol gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) ac ysgoloriaethau eraill a ariennir bob blwyddyn. Mae'r prosiectau hyn yn agored i fyfyrwyr DU/UE ac yn aml i fyfyrwyr tramor.

Er bod prosiectau a ariennir wedi’u dylunio ar gyfer astudiaeth llawn amser, mae croeso i chi drafod y posibilrwydd o gyflawni unrhyw brosiect yn rhan amser gyda’r goruchwyliwr cyn cyflwyno eich cais. Gallwch ddod o hyd i'w gwybodaeth gyswllt drwy ddilyn y dolenni proffil yn nisgrifiad y prosiect.

Nid oes unrhyw gyfleoedd ariannu ar gael ar hyn o bryd.

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Cyfrifiadureg a Gwybodeg.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig