
Ffisiotherapi
Dewch i ddwysau eich dealltwriaeth, gwella eich sgiliau a chymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.
Pam y dylech astudio gyda ni
Ein henw da
Rydym yn ddarparwr addysg gofal iechyd blaenllaw yn y DU.
Ein tîm academaidd
Mae ein rhaglen ôl-raddedig a addysgir yn elwa o gyfraniad ymchwilwyr o fri byd-eang a chlinigwyr sy'n arbenigwyr yn eu maes.
Ein hymchwil
Gosodwyd ein hymchwil yn 4ydd yn y DU yn gyffredinol a ni sydd ar y brig am ein hamgylchedd ymchwil (REF 2014).
Ein myfyrwyr
Mae ein rhaglen yn denu myfyrwyr o bedwar ban byd. Rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i rannu syniadau a datblygu'r ymarfer gofal iechyd gorau.
Ein cyfleusterau
Ceir amgylchedd perffaith ar gyfer astudio ôl-raddedig yn ein labordai a'n llyfrgelloedd technoleg uchel.
Cyrsiau
Ein cyflwyniadau
Mae mynychu MSc mewn Ffisiotherapi yng Nghaerdydd yn bendant wedi rhoi'r profiad i fi wella fy arfer clinigol. Mae ansawdd yr addysgu'n rhagorol gyda thiwtoriaid yn cyflwyno darlithoedd rhyngweithiol a helpodd fi i ddeall a datblygu gwybodaeth fanwl. Rwy'n teimlo bod fy agwedd fel clinigydd wedi newid yn llwyr ac rwyf wedi dod yn fwy arbenigol, felly rwy'n wirioneddol werthfawrogi profiad cwrs mor ddifyr
Byddwch yn rhan o rywbeth fydd yn newid bywydau, heddiw
Beth mae'n myfyrwyr yn ei feddwl am astudio gyda ni.
Ewch ar daith rithwir o gwmpas ein cyfleusterau

Ein modiwlau unigol
Diddordeb mewn astudio'n fwy hyblyg?
Rydym ni'n cynnig cyfres amrywiol o fodiwlau unigol i'w hastudio ar lefel 6 a lefel 7.
Darganfod mwy am ein hymchwil
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Dechreuwch eich taith ym maes gofal iechyd gyda ni
Gwnewch eich gwaith ymchwil
Ewch i wefan ein Hysgol a thudalennau'r rhaglen i gael rhagor o wybodaeth.
Dilynwch ni ar Twitter
I gael hyd yn oed mwy o newyddion a diweddariadau - dilynwch ni @CUHealthSci.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, boed yn rhai mawr neu’n rhai bach. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych