Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni

academic-school

4ydd safle yn y DU

Gosodwyd ni yn y 4ydd safle yn y DU a 27ain yn y byd ar gyfer Gwyddorau Biolegol yn ôl Rhestr Fyd-eang Shanghai ar gyfer Pynciau Academaidd 2022.

rosette

Effaith ymchwil

Roedd 60% o’n hymchwil yn ‘rhagorol’ am ei chyrhaeddiad a’i heffaith yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 – sef y system i asesu safon ymchwil yn y DU.

certificate

Cyllid

Rydyn ni’n cynnig nifer o ysgoloriaethau wedi’u hariannu’n llawn mewn ystod o feysydd ymchwil.

Courses

Bioleg Data Mawr (MSc)

Amser llawn

Bydd ein cwrs MSc arloesol yn eich galluogi i ddefnyddio’r platfformau diweddaraf ar gyfer data mawr i fynd i’r afael â phynciau sy’n amrywio o fioleg ddatblygiadol i oruchwyliaeth ar glefydau ac ecoleg clefydau.

Ecoleg Bydeang a Chadwraeth (MSc)

Amser llawn

Nod ein MSc mewn Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang yw hyfforddi ecolegwyr a chadwraethwyr y dyfodol.

Biomeddygaeth (PhD, MPhil, MD)

Amser llawn, rhan-amser

Mae Biofeddygaeth yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Biowyddorau.

Biowyddorau (PhD, MPhil, MD)

Amser llawn, rhan-amser

Mae ein gwaith ymchwil yn amrywio ar draws y gwyddorau biolegol, o ddeall sut yn union mae niwronau yn tyfu, i fecanweithiau canser a chlefydau eraill, sail moleciwlaidd datblygiad anifeiliaid a phlanhigion ac archwilio geneteg orangwtanau, eliffantod, pandas a rhywogaethau eraill sydd mewn perygl.

Biowyddorau (MRes) (MRes)

Amser llawn

Mae’r MRes yn helpu i wella eich sgiliau ymchwil ac gallai eich galluogi i ymgymryd â phrosiect ymchwil mewn labordy gwyddonydd o fri rhyngwladol.

Biowyddorau Moleciwlaidd (PhD, MPhil, MD)

Amser llawn, rhan-amser

Mae Biowyddorau Moleciwl yn canolbwyntio ar fecanweithiau moleciwlaidd sy’n sail i swyddogaeth biolegol.

Niwrowyddoniaeth (PhD, MPhil, MD)

Amser llawn, rhan-amser

Mae’r adran Niwrowyddoniaeth yn mynd ar drywydd amrywiaeth eang o ymchwil niwrofiolegol, yn cwmpasu lefelau moleciwlaidd i ymddygiadol.

Organebau a'r Amgylchedd (PhD, MPhil, MD)

Amser llawn, rhan-amser

Mae’r adran ymchwil Organebau a’r Amgylchedd yn canolbwyntio ar fioleg organebau cyfan a’ rolau a’u rhyngweithiadau mewn ecosystemau sy’n newid, mewn haint ac iechyd, ac ar lefel genetig.

"Byddwn yn argymell Prifysgol Caerdydd i ddarpar fyfyrwyr ôl-raddedig. Mae amgylchedd dysgu cefnogol iawn a rhwydwaith da o ymchwilwyr yma. Ar ben hynny, mae Caerdydd yn ddinas wirioneddol wych i fyw ynddi."
Rachel Rowe

Ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir

MSc Bioleg Data Mawr

Bydd ein MSc Bioleg Data Mawr arloesol yn eich galluogi i ddefnyddio’r platfformau diweddaraf ar gyfer data mawr i fynd i’r afael â phynciau sy’n amrywio o fioleg ddatblygiadol i oruchwyliaeth ar glefydau ac ecoleg clefydau.

O ficrobiomau, ffenomau a genomau i ecosystemau cyfan, mae bioleg fodern yn cynhyrchu symiau enfawr o ddata. Mae graddfa a natur yr wybodaeth hon yn gofyn am genhedlaeth newydd o wyddonwyr sydd â'r sgiliau i gywain, dadansoddi, trin a dehongli data mawr, ac i gysylltu'r broses ddadansoddi hon â mecanweithiau sylfaenol trwy fodelu mathemategol a chyfrifiadurol.

Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang (MSc)

O afonydd de Cymru i goedwigoedd glaw Borneo, mae ein MSc mewn Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang yn cwmpasu'r prif ystyriaethau cadwraeth sy'n effeithio ar amrywiol gynefinoedd ledled y byd.

Gyda hyfforddiant mewn meysydd craidd, fel arolygon bywyd gwyllt, asesiadau bioamrywiaeth a rheoli rhywogaethau, byddwch yn dysgu sut i adnabod bygythiadau cyfredol a newydd i rywogaethau ac ecosystemau, ac yn datblygu'r sgiliau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r bygythiadau hyn gyda datrysiadau effeithiol a graddadwy.

Ein rhaglenni ymchwil ôl-raddedig

Bydd ein Meistr Ymchwil (MRes) yn eich arfogi â'r sgiliau, y technegau a'r profiad i ddod yn ymchwilydd mwy cymwys a chyflogadwy. Mae ein graddau ymchwil PhD ac MPhil yn rhoi rhwydd hynt i chi ymchwilio'n ddwfn i bwnc cyfoes, gan weithio gydag ymchwilwyr blaenllaw a chael defnyddio cyfleusterau o’r radd flaenaf..

Student looking at mammary gland in solution

MRes yn y Biowyddorau

Bydd y rhaglen flwyddyn hon yn rhoi’r sgiliau, y technegau a’r profiad angenrheidiol i chi ddod yn ymchwilydd mwy cymwys a chyflogadwy. Mae'n bosibl y byddwch hyd yn oed yn cael cyfle i ymgymryd â phrosiect ymchwil yn labordy gwyddonydd rhyngwladol enwog yn Ysgol y Biowyddorau.

Female PhD student in boat

Astudio PhD a MPhil

Byddwch yn rhan o'n hymchwil penigamp yn y gwyddorau biolegol a biofeddygol, dan arweiniad ymchwilwyr sydd ag enw da'n rhyngwladol. O newid byd-eang i fodelu a pheirianneg systemau byw, mae ymchwil Ysgol y Biowyddorau yn cael effaith wirioneddol yn fyd-eang.

Nid gradd yn unig yw'r MRes, mae'n amhrisiadwy o ran creu cysylltiadau a meithrin perthynas â'r gymuned wyddonol yn eich dewis faes. Dwi’n gwbl argyhoeddedig bod yr MRes wedi dylanwadu’n fawr ar y ffaith fy mod i bellach yn wyddonydd llwyddiannus.
Kasia Majewski

Dysgu gan y gorau

Mae Manisha yn astudio ei PhD yn y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd ac yn canolbwyntio ar ganser y prostad.

Cychod Pysgod yn Nhobago

Yn ystod PhD Kathryn yn Ysgol y Biowyddorau, arweiniodd prosiect yn creu cychod pysgod rhad a chynaliadwy i helpu i adfer riffiau cwrel yn Nhobago.

PhD gyda'r Prosiect Dyfrgwn

Beth all dyfrgwn marw eich dysgu chi am lygryddion, heintiau a bioleg poblogaethau ledled y DU? Mae Emily yn cwblhau ei PhD gyda Phrosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd, cynllun goruchwylio amgylcheddol hirdymor, gan ddefnyddio dyfrgwn marw i greu strategaethau cadwraeth.

Camwch drwy ddrysau Ysgol y Biowyddorau

Sir Martin Evans Building

Adeilad Syr Martin Evans

Rydym ni wedi ein lleoli yn adeilad Syr Martin Evans, a enwyd ar ôl ein sylfaenwr-gyfarwyddwr a enillodd Wobr Nobel. Rydym yng nghanol campws Parc Cathays, dafliad carreg i ffwrdd o Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr, y brif lyfrgell a’r gwasanaethau cymorth, ac ychydig o funudau ar droed o ganol dinas Caerdydd.

Travel by boat at Danau Girang

Canolfan Maes Danau Girang

Mae llawer o'n myfyrwyr ôl-raddedig yn teithio i'n canolfan ymchwil ar gyfer cadwraeth gymhwysol ecosystemau trofannol yn Borneo i ymgymryd â theithiau maes neu brosiectau ymchwil. Mae Danau Girang yn lleoliad delfrydol i astudio bioamrywiaeth gyda'i chyfleusterau o'r radd flaenaf a thechnoleg arloesol ar gyfer rheoli bywyd gwyllt yn effeithiol mewn tirweddau wedi’u darnio.

Researchers working in a busy chemistry lab

Sefydliadau a chanolfannau ymchwil

Rydym yn arwain neu'n cyd-arwain nifer o sefydliadau a chanolfannau ymchwil y Brifysgol, gan gynnwys Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl, y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau a'r Sefydliad Ymchwil Dŵr.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Postgraduate students applying for a postgraduate loan

Ariannu eich astudiaethau

Mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau, pecynnau cymorth llywodraeth y DU, a’r benthyciadau i fyfyrwyr sydd ar gael ar eich cyfer.

Cegin (hygyrch)

Pori drwy ddewisiadau llety

Ddim yn siŵr pa lety i ddewis? Gall ein canllaw cymharu defnyddiol eich helpu i wneud penderfyniad.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Camau nesaf

certificate

Gweld ein cyrsiau ôl-raddedig

Edrychwch ar ein cyrsiau ar gyfer 2020 a 2021.

Download icon

Lawrlwythwch lyfryn Ysgol y Biowyddorau

Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol yn ehangach.

icon-pen

Sut i wneud cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am y broses gwneud cais..