Gwyddor Data a Dadansoddi (MSc)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Cewch ddysgu amrywiaeth o sgiliau y mae galw amdanynt ar gyfer echdynnu a thrin 'data mawr' a datblygu eich sgiliau ymarferol drwy gael eich amlygu i broblemau a setiau data'r byd real.
Dysgwch gan rwydwaith o arbenigwyr
Mae gennym rwydwaith trawsddisgyblaethol o arbenigwyr ar draws yr Ysgol Mathemateg, yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a grwpiau ymchwil eraill y Brifysgol.
Profiad yn y diwydiant
Cewch brofiad gwaith gwerthfawr mewn lleoliadau gwaith a phrosiectau proffesiynol gydag ymarferwyr gwyddor data blaenllaw yn y DU a thramor.
Datrys problemau yn y byd go iawn
Mae'r cwrs hwn yn ymgorffori dysgu sy'n seiliedig ar brosiectau yn defnyddio setiau data a phroblemau'r byd real.
Cyfleusterau addysgu newydd
Caiff rhai o'ch modiwlau eu haddysgu yn ein Hystafelloedd Turing sydd newydd eu hadnewyddu.
Caiff gliniadur ei ddarparu
Byddwch yn cael gliniadur yn ystod yr wythnos ymsefydlu y byddwch yn ei gadw drwy gydol eich cwrs.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol i fyfyrwyr o gymhwyso dulliau sy’n deillio o wyddor data a dadansoddeg. Byddwch yn datblygu ystod o sgiliau y mae galw mawr amdanyn nhw ar gyfer echdynnu a thrin ""data mawr"" a defnyddio offer modelu i helpu busnesau a sefydliadau'r llywodraeth i wneud penderfyniadau gwell.
Ar ôl gorffen y cwrs, byddwch mewn sefyllfa dda i symud ymlaen i amrywiaeth o rolau mewn diwydiannau data-ddwys neu yrfa ymchwil berthynol.
Mae’r radd hon, sy’n para blwyddyn, yn dod o dan ymbarél yr Academi Gwyddor Data (DSA), sy’n cael ei rhedeg gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, mewn partneriaeth â’r Ysgol Mathemateg. Byddwch yn elwa ar wybodaeth a sgiliau’r ddwy Ysgol. Fodd bynnag, yr Ysgol Mathemateg fydd yn dal i redeg eich gradd.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg
Ein hymchwil amlddisgyblaeth sy'n rhoi ffurf i'n rhaglenni gradd, ac yn eu gwneud yn berthnasol i gyflogwyr heddiw, gan eu gosod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar ddatblygiadau yfory.
Yr Ysgol Mathemateg
Mae ein graddau deallusol cyffrous wedi'u hachredu er mwyn cwrdd â gofynion addysgol enwebiad Mathemategydd Siartredig.
Meini prawf derbyn
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:2 honours degree in a relevant subject area such as engineering, mathematics or science, or an equivalent international degree
- a university-recognised equivalent academic qualification
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 6.5 with 6.0 in all subskills, or an accepted equivalent.
Other essential requirements:
You will also need to provide an academic or professional reference to support your application. Your referee should comment on your academic ability, work ethic, and general character. References should be signed, dated and less than six months old at the time you submit your application.
Application deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.
Selection process:
We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Mae hon yn rhaglen dau gam a addysgir dros flwyddyn am gyfanswm o 180 o gredydau. Mae’r cam a addysgir yn werth 120 credyd, ac fe’i dilynir gan brosiect ymchwil gwerth 60 credyd.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Byddwch yn ymgymryd â'r holl fodiwlau gorfodol 20-credyd (100 credyd i gyd), ac yn dewis 20 credyd pellach o blith rhestr o'r modiwlau dewisol a ddewiswyd yn ofalus. Bydd y prosiect 60 credyd a wneir yn yr haf yn golygu gweithio gyda chwmni fel arfer ar broblem gwirioneddol arwyddocaol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Applied Machine Learning | CMT307 | 20 credydau |
Computational Data Science | CMT309 | 20 credydau |
Foundations of Operational Research and Analytics | MAT021 | 20 credydau |
Foundations of Statistics and Data Science | MAT022 | 20 credydau |
Dissertation | MAT099 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Distributed and Cloud Computing | CMT202 | 20 credydau |
Human Centric Computing | CMT206 | 20 credydau |
Data Visualisation | CMT218 | 20 credydau |
Databases and Modelling | CMT220 | 20 credydau |
Time Series and Forecasting | MAT005 | 10 credydau |
Supply Chain Modelling | MAT006 | 10 credydau |
Statistics and Operational Research in Government | MAT007 | 10 credydau |
Healthcare Modelling | MAT009 | 10 credydau |
Credit Risk Scoring | MAT012 | 10 credydau |
Statistical Programming with R and Shiny | MAT514 | 10 credydau |
Mathematical Methods for Data Mining | MAT700 | 10 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Bydd y dulliau addysgu y byddwn yn eu defnyddio yn amrywio o un modiwl i’r llall, fel y bo'n briodol, yn dibynnu ar y pwnc a'r dull asesu. Rydyn ni’n addysgu gan ddefnyddio cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai cyfrifiadurol a thiwtorialau.
Bydd sgiliau rhaglennu a defnyddio pecynnau meddalwedd perthnasol yn cael eu haddysgu yn ein hystafelloedd cyfrifiaduron pwrpasol. Rydyn ni’n aml yn gwahodd arbenigwyr yn y diwydiant i roi cyflwyniadau, ac mae croeso i'n myfyrwyr eu mynychu.
Byddwn yn dyrannu tri goruchwyliwr i chi ar gyfer eich prosiect traethawd hir. Fel arfer, bydd eich goruchwylwyr yn ddau aelod o staff academaidd sydd â diddordeb neu arbenigedd yn eich maes ymchwil a goruchwyliwr noddi o'r sefydliad lle byddwch yn gweithio yn ystod eich prosiect. Dylech gyfarfod yn rheolaidd â'ch goruchwyliwr drwy gydol eich prosiect.
Sut y caf fy asesu?
Byddwn yn asesu eich cynnydd drwy gydol y cwrs. Gall yr asesiadau hyn fod ar ffurf papurau arholiad ysgrifenedig, aseiniadau mewn modiwlau, a thraethawd hir y prosiect, lle bydd gwybodaeth a chymhwysedd technegol yn cael eu gwerthuso. Gallwn hefyd ddefnyddio gwaith grŵp, cyflwyniadau llafar ac arddangosfeydd posteri i brofi sgiliau cyfathrebu, sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau datrys problemau.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae tiwtor personol yn cael ei neilltuo i bob un o'n myfyrwyr yn yr Ysgol Mathemateg a'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg pan fyddan nhw’n cofrestru ar y cwrs. Mae tiwtor personol yno i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau, a gall roi cyngor i chi ar faterion academaidd a phersonol a all fod yn effeithio arnoch.
Bydd gennych fynediad i Lyfrgell Trevithick, sy'n dal ein casgliad o adnoddau mathemategol a chyfrifiadureg, yn ogystal ag i Lyfrgelloedd eraill Prifysgol Caerdydd.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddealltwriaeth newydd, gyda llawer o hyn ar flaen ein disgyblaeth academaidd, neu'n seiliedig arno.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Y gallu i nodi dulliau priodol o ddatrys problemau mewn Gwyddor Data a Dadansoddi.
- Mentergarwch a chyfrifoldeb personol wrth wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu rhagweld.
- Dulliau systematig a chreadigol ar gyfer delio â materion cymhleth; defnyddio barn gadarn yn absenoldeb data cyflawn.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Ysgolheictod uwch a phrofiad ymarferol mewn sgiliau rhaglennu, trin data a sgiliau echdynnu, dysgu peiriannol a sgiliau gwybodeg, a sgiliau datrys problemau a modelu
- Y gallu i werthuso methodolegau a’u gwerthuso a, lle bo hynny'n briodol, i gynnig damcaniaethau newydd.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Y gallu i gyfleu syniadau, egwyddorion a damcaniaethau yn effeithiol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig ac ymarferol i gynulleidfaoedd sy’n arbenigwyr ac i rai nad ydyn nhw’n arbenigwyr.
- Gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol.
- Y gallu i feddwl yn rhesymegol a dadansoddol am broblemau.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £10,950 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £28,000 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Mae'r Brifysgol o'r farn nad oes angen i'r ysgolion dalu'r costau canlynol gan nad ydyn nhw’n hanfodol neu maen nhw’n gostau sylfaenol y dylid disgwyl i fyfyriwr eu talu eu hunain:
- Cyfrifianellau
- Deunydd ysgrifennu cyffredinol
- Gwerslyfrau (y tybir eu bod ar gael yn y llyfrgell)
- Gwaith copïo / argraffu heb fod yn angenrheidiol.
Os oes costau/ffioedd dewisol i'w talu gan y myfyriwr, nid yw'r rhain yn ofyniad i basio'r radd. Yr eithriad i hyn yw cost argraffu a rhwymo'r traethawd hir terfynol i'w gyflwyno. Mae’n rhaid i'r myfyriwr dalu am hyn.
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Byddwn yn darparu offer sy'n hanfodol i'r cwrs. Rydym yn argymell, fodd bynnag, eich bod yn dod â rhywfaint o offer darlunio sylfaenol.
Byddwch yr holl feddalwedd ac offer perthnasol sy'n gysylltiedig â TG ar gael ar eich cyfer ar gyfrifiaduron ein rhwydwaith. Yn ogystal â labordai cyfrifiadurol ar gyfer myfyrwyr meistr, mae gennym Ystafell Ddarllen MSc, lle mae adnoddau ar gael a rhywle gall myfyrwyr lefel meistr gwrdd, cymdeithasu a gweithio gyda'i gilydd.
.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Bydd y sgiliau a enillwch yn ystod y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer rolau i raddedigion yn y maes hwn. Mae ôl-raddedigion blaenorol wedi mynd ymlaen i weithio gydag amrywiaeth o gwmnïau a sefydliadau'r Llywodraeth gan gynnwys y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Lloyds Banking Group, Nationwide, British Airways, Network Rail, Llywodraeth y DU, The Financial Times, Virgin Media, Dŵr Cymru ac Admiral Insurance.
Lleoliadau
Lleoliad tri mis ar gyfer prosiect traethawd hir y myfyriwr, gydag un o'n partneriaid diwydiannol yn y DU neu dramor.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2022.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Cyfrifiadureg , Mathemateg
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.