Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni

briefcase

Cyfleoedd gyrfa gwych

Mae ein graddedigion yn dilyn pob math o yrfaoedd cyffrous, o ymchwil a datblygiad ac astudiaeth PhD i gyllid a rheoli.

people

Dysgu sy’n rhoi’r myfyrwyr yn gyntaf

Rydym yn gwerthfawrogi ein myfyrwyr ac yn cynnig man dysgu arbennig ar bwys y tiwtoriaid fel bod gan y myfyrwyr a’r staff ddigon o gyfle i ryngweithio.

building

Amgylchedd ymchwil bywiog

Mae ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, sy’n dod yn rhan annatod o’n grwpiau ymchwil o’r radd flaenaf, yn elwa o amgylchedd ymchwil bywiog yr Ysgol.

Rhoddodd y cwrs MSc Astroffiseg gyfle i mi ehangu a datblygu fy set o sgiliau ymhellach nag oeddwn yn credu y byddwn yn gallu. Roedd hyn yn bennaf oherwydd y safonau addysgu gwych a’r gefnogaeth ddiddiwedd a gefais gan y gyfadran.
Zak Smith, myfyriwr MSc Astroffiseg

Cyrsiau

Astroffiseg Data-ddwys (MSc)

Amser llawn

Mae'r MSc mewn Astroffiseg Data-Ddwys wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa mewn ystod o feysydd gan gynnwys ymchwil academaidd mewn seryddiaeth neu astroffiseg yn ogystal â swyddi technegol, datblygu a pheirianneg mewn meysydd gwyddonol cysylltiedig.

Astroffiseg (MSc)

Amser llawn

Mae'r pynciau a addysgir yn adlewyrchu ein cryfderau rhagorol mewn ymchwil ddamcaniaethol, arsylwadol ac offerynnol ac mae'n cynnwys Cosmoleg, Uwch-Berthynoledd Cyffredinol a Thonnau Disgychol, Offeryniaeth ar gyfer Seryddiaeth a Thechnegau mewn Astroffiseg.

Ffiseg Data-ddwys (MSc)

Amser llawn

Mae'r MSc mewn Ffiseg Data-Ddwys wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa mewn ystod o feysydd gan gynnwys ymchwil academaidd mewn ffiseg yn ogystal â swyddi technegol, datblygu a pheirianneg mewn meysydd gwyddonol cysylltiedig.

Ffiseg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (MSc)

Amser llawn

Dyluniwyd yr MSc mewn Ffiseg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd i ddarparu drwy hyfforddiant a phrofiad ymarferol mewn theorïau lled-ddargludyddion cyfansawdd, ffabrigo, cymwysiadau, ac integreiddio â thechnoleg silicon.

Ffiseg (MSc)

Amser llawn

Mae'r pynciau a addysgir yn adlewyrchu ein harbenigedd ymchwil mewn Ffiseg Cwantwm, Ffotoneg, dadansoddiad Damcaniaethol a Chyfrifiadurol, Synwyryddion a Deunyddiau yn ogystal ag Astroffiseg.

Ffiseg Tonnau Disgyrchol (MSc)

Amser llawn

Mae rhaglen MSc Ffiseg Tonnau Disgyrchol yn cynnig hyfforddiant eang a chynhwysfawr o ran theori ac arbrofi ym maes ffiseg a seryddiaeth tonnau ddisgyrchol (GW).

Ffiseg a Seryddiaeth (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Mae’r ystod eang o arbenigedd yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn galluogi'r ysgol i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer graddau uwch drwy ymchwil.

Ffiseg Ddisgyrchol (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Mae Ffiseg Ddisgyrchol yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Deintyddiaeth (MPhil, PhD).

Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (Efrydiaethau EPSRC) (PhD)

Amser llawn

Mae’r rhaglen gradd PhD hon mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn rhan o Ganolfan Hyfforddiant Doethurol yr EPSRC.

Mater Cywasgedig a Ffotoneg (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Mae Mater Cywasgedig a Ffotoneg yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Ffiseg a Seryddiaeth (MPhil, PhD).

Offeryniaeth Seryddiaeth (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Mae Offeryniaeth Seryddiaeth yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Ffiseg a Seryddiaeth (MPhil, PhD).

Seryddiaeth ac Astroffiseg (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Mae Seryddiaeth ac Astroffiseg yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Ffiseg a Seryddiaeth (MPhil, PhD).

Ein sgyrsiau

Dyma’r Athro Steven Eales yn disgrifio’r ymchwil sy’n cael ei chynnal i ddarganfod sut mae galaethau yn cael eu ffurfio.

Esblygiad Galaethau

Dyma’r Athro Steven Eales yn disgrifio’r ymchwil sy’n cael ei chynnal i ddarganfod sut mae galaethau yn cael eu ffurfio.

Dyma’r Athro Bernard Schutz yn disgrifio’r gwaith sy’n cael ei gynnal gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd ynghylch tonnau disgyrchol a dyfodol y gwyddoniaeth ffiniol hwn.

Y Sefydliad Archwilio Disgyrchiant

Dyma’r Athro Bernard Schutz yn disgrifio’r gwaith sy’n cael ei gynnal gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd ynghylch tonnau disgyrchol a dyfodol y gwyddoniaeth ffiniol hwn.

Dyma Dr Juan Pereiro Viterbo yn sôn am ei ymchwil mewn Microsgopeg Electron Ynni Isel a Lled-ddargludyddion.

Microsgopeg Electron Ynni Isel

Dyma Dr Juan Pereiro Viterbo yn sôn am ei ymchwil mewn Microsgopeg Electron Ynni Isel a Lled-ddargludyddion.

Mae'r Athro Jane Greaves o Brifysgol Caerdydd yn disgrifio'r darganfyddiad diweddar roedd yn rhan ohono, sef dod o hyd i farcwyr ffosffin ar y Blaned Gwener sy'n dangos bod bywyd yno

A ydym wedi darganfod arwyddion o fywyd ar y Blaned Gwener?

Mae'r Athro Jane Greaves o Brifysgol Caerdydd yn disgrifio'r darganfyddiad diweddar roedd yn rhan ohono, sef dod o hyd i farcwyr ffosffin ar y Blaned Gwener sy'n dangos bod bywyd yno

Fe chwaraeodd y myfyriwr PhD Charlie Hoy ran allweddol mewn darganfyddiad cosmig sy’n gam mawr ymlaen ar gyfer dirgelwch astroffiseg parhaus.

Myfyriwr PhD yn torri record gyda darganfyddiad cosmig

Fe chwaraeodd y myfyriwr PhD Charlie Hoy ran allweddol mewn darganfyddiad cosmig sy’n gam mawr ymlaen ar gyfer dirgelwch astroffiseg parhaus.

Yr Athro Peter Smowton, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Hyfforddiant Doethurol mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, yn sôn am y cyfleoedd PhD sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd. Dysgwch pam mae dargludyddion cyfansawdd mor bwysig, ein dulliau ymarferol a rhyngddisgyblaethol, a strwythur y PhD ei hun.

Cyfleoedd am PhD ym maes gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd

Yr Athro Peter Smowton, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Hyfforddiant Doethurol mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, yn sôn am y cyfleoedd PhD sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd. Dysgwch pam mae dargludyddion cyfansawdd mor bwysig, ein dulliau ymarferol a rhyngddisgyblaethol, a strwythur y PhD ei hun.

Rhagor o wybodaeth am yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth

A student using our equipment in a laboratory.

Ein cyrsiau MSc

Dysgwch fwy am ein ystod amrywiol o gyrsiau MSc.

PhD student in Physics

Ein hymchwil

Mae gennym rai o grwpiau ymchwil mwyaf blaenllaw y byd yn gweithio ar y darganfyddiadau ymchwil diweddaraf.

Students sat outside Queens

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydym yn gwerthfawrogi cydraddoldeb a chynwysoldeb ac rydym wedi derbyn statws Hyrwyddwr Juno IOP yn ddiweddar.

Dysgu am Brifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Postgraduate students applying for a postgraduate loan

Ariannu eich astudiaethau

Mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau, pecynnau cymorth llywodraeth y DU, a’r benthyciadau i fyfyrwyr sydd ar gael ar eich cyfer.

Cegin (hygyrch)

Pori drwy ddewisiadau llety

Ddim yn siŵr pa lety i ddewis? Gall ein canllaw cymharu defnyddiol eich helpu i wneud penderfyniad.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Camau nesaf

mortarboard

Ein cyfleoedd ymchwil ôl-raddedig

Rhagor o wybodaeth am ein cyfleoedd gradd ymchwil ôl-raddedig.

mobile-message

Cysylltu â ni

Defnyddiwch ein ffurflen ymholi i ofyn eich cwestiynau neu ofyn am sgwrs.

icon-pen

Sut i wneud cais

Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gyflwyno cais ar-lein.