Cyfrifadureg Uwch (MSc)
- Hyd: 3 blynedd
- Dull astudio: Rhan amser
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Cynlluniwyd y rhaglen flaengar hon i’r rhai sydd wedi graddio mewn cyfrifiadura ac yn awyddus i ragori ymhellach drwy sicrhau uwch-feistrolaeth ar y ddisgyblaeth. Ynddi, trafodir y pynciau cyfoes sy’n gyrru’r datblygiadau a’r tueddiadau technolegol diweddara
Bydd yr MSc Cyfrifiadureg Uwch yn cynnig cyflwyniad i chi i bynciau allweddol sy'n sbarduno datblygiadau a thueddiadau technolegol sy'n dod i'r amlwg.
Cyfrifiadureg yw un o’r disgyblaethau academaidd sy’n symud gyflymaf, ac mae canlyniadau’r gwaith ymchwil ac arloesedd yn y maes hwn yn debygol o gael effaith sylweddol ar gymdeithas.
Mae'r pwnc yn cynnwys pob agwedd ar fywyd modern, ac mae’r rhaglen hon yn cynnig y cyfle i ddefnyddio sgiliau newydd a thechnegau uwch yn y maes o’ch dewis, ac yn eich caniatáu i ddangos eich bod ar flaen y gad yn eich disgyblaeth ar yr un pryd.
Rhan greiddiol o’r rhaglen hon yw'r cyfle i ddatblygu cwmpas eich sgiliau datrys problemau ymhellach drwy astudio ieithoedd rhaglennu uwch a pharadeimau rhaglennu, ac i ennill gwybodaeth a sgiliau ar draws ystod eang o bynciau mewn Cyfrifiadureg.
Byddwch yn dewis astudio modiwlau dewisol a arweinir gan ymchwil sy’n rhoi rhyddid i chi adeiladu portffolio personol unigryw o sgiliau a gwybodaeth.
Mae hon yn rhaglen radd Meistr arbenigol a fydd yn gofyn am sgiliau technegol, mathemategol a rhaglennu cryf o ddiwrnod cyntaf y cwrs.
Nodweddion unigryw
The distinctive features of this course include:
- A degree designed for computing graduates who wish to differentiate themselves further through an advanced mastery of the discipline.
- In addition to coverage of core advanced computer science topics, you may select from three research topics in which to specialise
- You will undertake an individual research project and complete a dissertation under the supervision of a member of academic research staff. The topic for this will be driven by your own interests.
- You will be provided with a laptop during induction week that will remain with you throughout the duration of the course.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg
Ein hymchwil amlddisgyblaeth sy'n rhoi ffurf i'n rhaglenni gradd, ac yn eu gwneud yn berthnasol i gyflogwyr heddiw, gan eu gosod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar ddatblygiadau yfory.
Meini prawf derbyn
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:2 honours degree in a relevant subject area such as computer science or computing, or an equivalent international degree
- or a university-recognised equivalent academic qualification.
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 6.5 with 5.5 in all subskills, or an accepted equivalent.
Other essential requirements:
You may choose to supplement your application with:
- a detailed CV
- or any other supporting material you may consider to be appropriate.
Application deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.
Selection process:
We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Bydd myfyrwyr rhan-amser yn astudio ar gyfer yr MSc Cyfrifiadureg Uwch dros 3 blynedd.
Byddwch yn astudio modiwlau a addysgir a ddaw i gyfanswm o 120 o gredydau yn ystod cam Diploma eich gradd. Mae’r holl fodiwlau a addysgir yn werth 20 credyd.
Prosiect unigol (gwerth 60 credyd) fydd cam Meistr eich gradd, a byddwch yn ei ysgrifennu ar ffurf traethawd hir, ar ôl y cam Diploma. Bydd y prosiect hwn yn cael ei gynnal yn ystod eich trydedd flwyddyn, o dan oruchwyliaeth aelod o staff academaidd. Mae hwn yn gwrs rhan-amser a gynhelir dros dair blynedd academaidd. Mae hefyd ar gael fel cwrs amser llawn dros flwyddyn, ac fel cwrs amser llawn dros ddwy flynedd gyda'r opsiwn o leoliad diwydiannol.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Blwyddyn un
Byddwch yn cymryd un modiwl 20-credyd gorfodol ar baradeimau rhaglennu a fydd yn rhoi profiad i chi o ddyfnder ac ehangder sgiliau rhaglennu. Byddwch yn cael arweiniad i ddewis dau o blith ystod o fodiwlau 20-credyd a ddewiswyd yn ofalus. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar bynciau cyfoes a pherthnasol sy’n dod i’r amlwg yn y ddisgyblaeth, gan roi cyfanswm o 60 credyd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Programming Paradigms | CMT304 | 20 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Visual Computing | CMT107 | 20 credydau |
Cyber Security and Risk Management | CMT116 | 20 credydau |
Knowledge Representation | CMT117 | 20 credydau |
Penetration Testing and Malware Analysis | CMT121 | 20 credydau |
Distributed and Cloud Computing | CMT202 | 20 credydau |
Automated Reasoning | CMT215 | 20 credydau |
Computer and Network Forensics | CMT216 | 20 credydau |
Internet of Things: Systems Design | CMT223 | 20 credydau |
Social Computing | CMT224 | 20 credydau |
Developing Secure Systems and Applications | CMT310 | 20 credydau |
Principles of Machine Learning | CMT311 | 20 credydau |
Applications of Machine Learning: Natural Language Processing/Computer Vision | CMT316 | 20 credydau |
Blwyddyn dau
A chithau’n fyfyriwr rhan-amser, byddwch yn cwblhau tri modiwl dewisol 20 credyd ym Mlwyddyn Dau.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Visual Computing | CMT107 | 20 credydau |
Cyber Security and Risk Management | CMT116 | 20 credydau |
Knowledge Representation | CMT117 | 20 credydau |
Penetration Testing and Malware Analysis | CMT121 | 20 credydau |
Distributed and Cloud Computing | CMT202 | 20 credydau |
Automated Reasoning | CMT215 | 20 credydau |
Computer and Network Forensics | CMT216 | 20 credydau |
Internet of Things: Systems Design | CMT223 | 20 credydau |
Social Computing | CMT224 | 20 credydau |
Developing Secure Systems and Applications | CMT310 | 20 credydau |
Principles of Machine Learning | CMT311 | 20 credydau |
Applications of Machine Learning: Natural Language Processing/Computer Vision | CMT316 | 20 credydau |
Blwyddyn tri
A chithau’n fyfyriwr rhan-amser, byddwch yn cwblhau eich prosiect traethawd hir 60 credyd ym Mlwyddyn Tri.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dissertation | CMT400 | 60 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ddiwylliant ymchwil cryf a gweithredol sy'n llywio ac yn arwain ein haddysgu. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu addysgu o'r safon uchaf.
Cyflwynir modiwlau drwy gyfres o naill ai sesiynau cyswllt diwrnod llawn neu hanner diwrnod, sy’n cynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau a dosbarthiadau yn y labordy.
Bydd gan y rhan fwyaf o'ch modiwlau a addysgir wybodaeth bellach i chi ei hastudio a bydd disgwyl i chi weithio drwy hyn yn eich amser eich hun, yn unol â'r arweiniad gan y darlithydd ar gyfer y modiwl hwnnw.
Sut y caf fy asesu?
Asesir y modiwlau drwy gyfrwng gwaith cwrs neu arholiadau, neu gyfuniad o’r ddau.
Adborth:
Gallai adborth ar waith cwrs gael ei roi ar ffurf sylwadau ysgrifenedig ar waith a gyflwynir; atebion ""enghreifftiol"" a/neu drafodaeth mewn sesiynau cyswllt.
Sut y caf fy nghefnogi?
Rydyn ni’n ymfalchïo mewn darparu amgylchedd cefnogol lle gallwn helpu ac annog ein myfyrwyr.
Dyrennir Tiwtor Personol i chi ar ddechrau eich cwrs, sy’n aelod o staff academaidd yn yr Ysgol ac sy’n gweithio fel pwynt cyswllt er mwyn rhoi cyngor am faterion academaidd yn ogystal â phersonol mewn ffordd anffurfiol a chyfrinachol. Bydd eich Tiwtor Personol yn monitro eich cynnydd drwy gydol eich cyfnod yn y Brifysgol ac yn eich cefnogi yn eich Cynllun Datblygiad Personol.
Y tu allan i’r sesiynau a drefnir gyda’ch tiwtor, gweithredir polisi drws agored gan yr Uwch-diwtor Personol, ac mae ar gael i roi cyngor ac ymateb i unrhyw faterion personol wrth iddyn nhw godi.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.
Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon i’w gweld isod:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- dealltwriaeth o'r ystod eang o gysyniadau, egwyddorion a theorïau sy'n sail i gyfrifiadureg uwch
- dealltwriaeth o'r dulliau, y technegau a'r offer sydd ar gael i bennu, dylunio, gweithredu a rheoli systemau cyfrifiadurol
- dealltwriaeth o sut cynrychiolir data ar ffurfiau strwythuredig a'i gydadwaith â gweithredu algorithmau
- ymwybyddiaeth feirniadol o'r tueddiadau cyfredol mewn meysydd ymchwil dethol o gyfrifiadureg, a'r gallu i drafod eu cyfraniad at ddatblygu systemau cyfrifiadurol
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- meistrolaeth ar y methodolegau ymarferol ym meysydd allweddol cyfrifiadura; eu cymhwyso i feysydd datblygu meddalwedd sydd wedi'u hen sefydlu a'u defnyddio mewn meysydd cymhwyso arbenigol dethol
- y gallu i ddadansoddi problemau cyfrifiadurol yn wrthrychol a datblygu atebion creadigol, priodol
- y gallu i fodelu senarios cymhleth i ddylunio systemau cyfrifiadurol sy'n bodloni'r gofynion a nodwyd
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- ymwybyddiaeth o faterion proffesiynol, cyfreithiol, cymdeithasol, diwylliannol a moesegol sy'n codi wrth weithredu systemau cyfrifiadurol presennol ac yn y dyfodol ac ymwybyddiaeth o effaith gymdeithasol ac amgylcheddol
- y gallu i fynd ar drywydd cyfleoedd i ddatblygu gyrfaoedd a dysgu gydol oes a gwerthfawrogi pwysigrwydd ymwybyddiaeth fasnachol
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- y gallu i adolygu’r llenyddiaeth yn feirniadol yn ogystal â chyfleu syniadau, egwyddorion a theorïau yn effeithiol trwy ddulliau llafar, ysgrifenedig ac electronig
- y gallu i weithio'n effeithiol fel aelod o dîm neu arweinydd mewn tîm ac fel unigolyn
- y gallu i ddefnyddio ystod o systemau TG yn effeithiol
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Oherwydd hyd y rhaglen hon, dim ond myfyrwyr sy'n dod o Gymru a'r UE sy'n bodloni’r gofynion preswylio (mae myfyrwyr sy'n dod o Loegr wedi'u heithrio) sy'n gymwys i gael benthyciad ôl-raddedig. Rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer benthyciadau Llywodraeth y DU i Ôl-raddedigion.
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £5,475 | Dim |
Blwyddyn dau | £5,475 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £13,750 | £2,000 |
Blwyddyn dau | £13,750 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Bydd graddedigion o’r cwrs hwn mewn sefyllfa ddelfrydol i ddilyn nifer o yrfaoedd, megis penseiri systemau, rhaglenwyr a datblygwyr meddalwedd, a gallant hefyd ddilyn gyrfa ymchwil trwy astudiaethau doethurol.
Nod y dewis o fodiwlau a gynigir yw gwella eich sgiliau trosglwyddadwy a hybu rhagolygon cyflogaeth.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Cyfrifiadureg
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.