Mae gradd newyddiaduraeth, cyfryngau neu gyfathrebu ôl-raddedig o Brifysgol Caerdydd yn cael ei chydnabod yn eang fel gradd o ansawdd. Ein cenhadaeth yw meithrin cydadwaith unigryw, cyfoethog rhwng ‘theori’ ac ‘ymarfer’, boed hynny ym maes sgiliau proffesiynol neu ymchwil arloesol.
Cyflogadwyedd
94% o'n graddedigion ôl-raddedig a addysgir mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).
Addysg gan arbenigwyr
Mae ein staff arbenigol a phrofiadol yn cynnwys rhai o awduron, ymchwilwyr a meddylwyr mwyaf blaenllaw y byd yn ogystal â chydweithwyr proffesiynol o’r maes newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus a’r cyfryngau.
Cysylltiadau da
Byddwch chi’n gweithio yng nghanol ardal cyfryngau fywiog Caerdydd mewn cyfleuster pwrpasol drws nesaf at adeilad newydd BBC Cymru/Wales.
Mae’r cwrs hwn yn ymchwilio i rôl cyfathrebu mewn bywyd gwleidyddol - rôl sy'n prysur esblygu ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae hefyd yn ystyried sut mae newidiadau fel pwysigrwydd cynyddol ‘swyddogion sbin’, gwleidyddiaeth sy'n seiliedig ar ddelwedd, newyddion 24 awr a globaleiddio’r cyfryngau yn llywio gwleidyddiaeth.
Mae'r cwrs hwn yn edrych ar rôl y cyfryngau digidol newydd wrth lunio a gweddnewid cymdeithas. Mae'n ymchwilio i sut mae cynulleidfaoedd y cyfryngau yn dod yn gynhyrchwyr, sut mae newyddiaduraeth dinasyddion a diwylliant digidol wedi newid arferion a disgwyliadau, sut mae’r cyfryngau cymdeithasol a chynyrchiadau gan gyfoedion yn effeithio ar wleidyddiaeth a busnes, a sut mae technoleg yn gysylltiedig â grym a newid cymdeithasol.
Cwrs achrededig sydd wedi’i gydnabod yn rhyngwladol, fydd yn eich grymuso â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen er mwyn dod yn arbenigwr ar gysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu strategol.
Gan adlewyrchu gwybodaeth, theori, ymarfer ac ymchwil gyfoes am y diwydiannau creadigol bydd y rhaglen hon yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ymateb i heriau'r sector cyffrous hwn.
Mae ein cwrs Newyddiaduraeth Cylchgrawn dwys yn eich paratoi am eich swydd gyntaf mewn cyfryngau cylchgrawn. P’un a yw wedi’i argraffu, ar-lein, yn ddigidol, apiau neu’n gyfryngau cymdeithasol - byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio’r llwyfannau amlgyfrwng mae cylchgronau modern yn eu defnyddio.
Mae'r MA mewn Newyddiaduraeth Darlledu yn gwrs blwyddyn dwys sy'n cwmpasu newyddiaduraeth radio, teledu, symudol a digidol. Ein nod yw eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn ystafell newyddion ddarlledu fodern.
Gradd arloesol yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth a sgiliau drwy ddysgu ymarferol, ar sail ymchwil, am newyddiaduraeth, gwyddor data, codio cyfrifiaduron a datblygiadau digidol.
Mae ein MA mewn Newyddiaduraeth Newyddion yn bont rhwng astudio ar lefel israddedig a chyflogaeth. Mae'r cwrs dwys hwn yn cynnwys y sgiliau ymarferol angenrheidiol i fod yn newyddiadurwr amlgyfrwng gyda myfyrwyr hefyd yn sefyll arholiadau diploma’r NCTJ, sy’n ffon fesur i’r proffesiwn.
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rhai sydd â meddylfryd rhyngwladol. Mae'n cynnig cymysgedd o ymarfer a theori i ddarpar newyddiadurwyr neu ymarferwyr mwy profiadol sydd am ddysgu am newyddiaduraeth mewn gwahanol gyfryngau ac mewn gwahanol wledydd.
Mae’r cwrs yn rhoi golwg i chi ar sut mae newyddiaduraeth a’r cyfryngau’n newid mewn cyd-destun byd eang - o foesoldeb newyddiaduraeth i'r modd y llywodraethir y we. Bydd hefyd yn trin a thrafod dulliau adrodd am argyfyngau, a sut gallai technolegau newydd drawsnewid y maes.
Rydym wedi ymrwymo i gynnal ymchwil sy’n ymwneud â materion cyfoes ar draws newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant, yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol.
Ein fideos
Mae diwydiant y cyfryngau yn diffinio ein diwylliant a sut rydym yn byw
Felly, mae hyfforddi pobl gyda’r sgiliau addas a’r gwerthoedd cryfion i weithio yn y diwydiant cyfryngau yn hanfodol bwysig ac yn gofyn am ganolfannau rhagoriaeth fel Prifysgol Caerdydd i ymchwilio a deall y diwydiant cyfryngau modern.
Yn rhyngwladol, fe wnaeth Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl Pwnc ar gyfer 2023 ein gosod yn 29ain yn y byd (Cyfathrebu ac Astudiaethau'r Cyfryngau). Rydym hefyd yn 9fed yn y Complete University Guide 2023 (Cyfathrebu ac Astudiaethau'r Cyfryngau) a 6ed yn The Times Good University Guide (Cyfathrebu a’r Cyfryngau).
Mae graddio gyda gradd achrededig yn fantais sylweddol pan rydych chi'n ceisio gwneud argraff wrth edrych am swyddi. Ein pedair gradd achrededig yw: Newyddiaduraeth Ddarlledu, Newyddiaduraeth Cylchgronau, Newyddiaduraeth Newyddion a Chysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Rheoli Cyfathrebu Byd-eang.
Our PhD or MPhil programme covers all projects that we supervise within the fields of journalism, media and cultural studies. Our research, which is ranked 2nd in the UK for quality and impact, is organised into three over-lapping clusters: Journalism and Democracy; Media, Culture and Creativity; and Digital Media and Society.
Darlithfa 300 sedd, chwe ystafell newyddion, dwy stiwdio deledu a dwy stiwdio radio
Ym mis Medi 2018, symudom i gartref newydd a adeiladwyd yn bwrpasol yng nghanol datblygiad newydd sbon Sgwâr Canolog Caerdydd.
Mae’r lleoliad hwn, yng nghanol y ddinas, wedi creu ymdeimlad newydd a bywiog o’n lle wrth galon diwydiannau diwylliannol a chyfryngau Caerdydd.
Dim ond munud mae’n ei gymryd i gerdded o brif orsaf drenau Caerdydd Canolog, ac mae hyn yn cynnig cysylltiadau cludiant gwych ar garreg ein drws.
Mae ein cartref mewn adeilad a gynlluniwyd yn bwrpasol ym mharth y cyfryngau yng Nghaerdydd, o fewn pellter cerdded i lawer o fusnesau teledu, ffilm, hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus, a gerllaw Stadiwm y Principality.
Mae ein lleoliad yn golygu eich bod chi wrth ymyl cwmnïau cyfryngau lleol a chenedlaethol fel y BBC a Wales Online.
Byddwch wedi'ch cysylltu â'r ddinas gyfan. Mae prif orsaf reilffordd Caerdydd, Caerdydd Canolog, ddim ond 100 metr i ffwrdd.
Mae ein darlithfa fwyaf, a ddefnyddir yn aml ar gyfer modiwlau craidd, yn dal hyd at 300 o bobl.
Mae ein llyfrgell wedi'i lleoli ar y safle ac mae ein staff llyfrgell defnyddiol wrth law i helpu.
Mae gan ddwy Sgwâr Canolog ystafelloedd astudio tawel ac ardaloedd cymdeithasol i astudio gyda ffrindiau.
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.