Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni

Heriwch eich hun yn academaidd ac yn gerddorol wrth astudio yn ein Hysgol Cerddoriaeth ddeinamig. Mae ein gradd yn cynnig paratoad proffesiynol o’r radd flaenaf sy’n rhoi’r cyfarpar sydd ei angen arnoch i lwyddo ar ôl graddio.

rosette

Rhagoriaeth ymchwil

90% o'n hamgylchedd ymchwil yn cael ei ystyried i fod yn addas i wneud ymchwil sy'n arwain y byd neu sy'n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021).

microphone

Gweithio gyda cherddorion proffesiynol

Gweithdai, dosbarthiadau meistr a seminarau a gyflwynir gan gyfansoddwyd, cerddolegwyr a pherfformwyr proffesiynol.

structure

Llwybrau arbenigol

Addaswch eich astudiaethau i’ch dyheadau gyrfaol gan ddewis o Berfformio, Cyfansoddi, Astudiaethau Cerddoriaeth, neu Addysg Gerddorol.

Cyrsiau

Cerddoriaeth (MA)

Amser llawn, Rhan amser

Cynnig sialens personol i chi yn academaidd a cherddorol wrth i chi gynllunio eich rhaglen gyda’i phosibiliadau cyfoethog er gwireddu uchelgais y mae eich bryd arno ar gyfer y dyfodol.

Cerddoleg (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

I gynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa mewn addysg uwch ac ysgrifennu am gerddoriaeth.

Cerddoriaeth (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Gallwch arbenigo ar unrhyw un o’r meysydd hyn ar gyfer eich PhD, gan gyflwyno gwaith mewn un o dri fformat: ar ffurf traethawd ymchwil, portffolio o gyfansoddiadau gyda sylwebaeth, neu ddatganiad perfformio ynghyd â thraethawd ymchwil atodol.

Cyfansoddi (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

I gynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa mewn cyfansoddi cerddoriaeth broffesiynol.

Perfformio (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

I gynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer mynd ar drywydd addysgu ymchwil pellach, a pherfformiad proffesiynol.

Ein fideos

Yr Ysgol Cerddoriaeth

Mae ein staff a'n myfyrwyr yn esbonio pam mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn lle mor arbennig i astudio.

Mae gan yr Ysgol Cerddoriaeth amgylchedd dysgu mor gadarnhaol lle mae'r rhai o'ch cwmpas bob amser yn galonogol. Rwy’n hoff iawn o’r ffordd y mae’r llwybr Astudiaethau Cerddoriaeth yn ymdrin ag ystod mor eang o bynciau a meysydd cerddoriaeth, a sut mae ein dosbarthiadau yn aml yn cael eu harwain gan arbenigwyr mewn maes penodol. Ar yr un pryd, mae'r cwrs yn caniatáu i ni deilwra aseiniadau i'n diddordebau ymchwil ein hunain a chawn nifer o gyfleoedd i rannu ein hymchwil gyda staff a myfyrwyr eraill.
Maya Morris Cerddoriaeth (MA)

Rhagor o wybodaeth amdanom ni

Canolfan Mileniwm Cymru

Mae Caerdydd yn ddinas gerddorol

Mae Caerdydd yn gartref i Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac un o ganolfannau cynhyrchu blaenllaw’r BBC. Mae llu o leoliadau yn y ddinas ar gyfer cerddoriaeth fyw, o leoliad o’r radd flaenaf Canolfan Mileniwm Cymru, i fannau bach ac annibynnol.

Sheet music

Rhagoriaeth ymchwil

Rydym yn yr 2il safle ymysg adrannau cerddoriaeth prifysgolion y DU ar gyfer ansawdd ein hamgylchedd ymchwil (REF 2014).

Students at a piano

Gradd Meistr mewn Cerddoriaeth

Mae ein gradd meistr mewn Cerddoriaeth yn cynnig dysgu ymarferol a thrwy ddarlithoedd fydd yn eich herio'n gerddorol ac yn academaidd. Gallwch deilwra eich astudiaethau i'ch nodau a'ch dyheadau gyrfa, gan ddewis astudio llwybr mewn Cyfansoddi, Perfformio, Addysg Gerddorol neu Astudiaethau Cerddorol.

Piano composition

Cyfleoedd ymchwil ôl-raddedig

Bydd ein rhaglenni PhD yn eich helpu i wella eich sgiliau fel cyfansoddwr, perfformiwr neu gerddolegydd. Cewch ryddid i ymchwilio eich dewis arbenigedd yn fanwl, gan fynychu cynadleddau, gweithdai a dosbarthiadau meistr tra'n gweithio hefyd gydag ymchwilwyr, cyfansoddwyr a pherfformwyr.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Postgraduate students applying for a postgraduate loan

Ariannu eich astudiaethau

Mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau, pecynnau cymorth llywodraeth y DU, a’r benthyciadau i fyfyrwyr sydd ar gael ar eich cyfer.

Cegin (hygyrch)

Pori drwy ddewisiadau llety

Ddim yn siŵr pa lety i ddewis? Gall ein canllaw cymharu defnyddiol eich helpu i wneud penderfyniad.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Camau nesaf

academic-school
book
icon-chat

Cysylltu â ni

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Sut i wneud cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.