Ymchwil yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Mae ein diwylliant ymchwil hirhoedlog, cryf a dynamig yn sail i’n bri rhyngwladol am ymchwil o safon fyd-eang.
Mae ein hymchwil yn cael ei drefnu i dri grŵp gan ganolbwyntio ar dueddiadau sy’n dod i’r amlwg yn ein disgyblaeth sy’n datblygu’n gyflym.:
Effaith rhyngddisgyblaethol
Mae ein gwybodaeth a'n harbenigedd yn cael eu gweithredu drwy ddulliau arloesol i helpu i lywio'r agenda ymchwil ac i roi cymorth i'n partneriaid diwydiannol ac yn y sector gyhoeddus i ddatrys problemau. Mae ein gwaith yn cael effaith mewn nifer o feysydd amrywiol:
- gofal iechyd (systemau cofnodion cleifion a delweddu gwybodaeth)
- amddiffyn
- yr amgylchedd (rheoli bioamrywiaeth a systemau gwybodaeth a geo-ofodol)
- telegyfathrebu (dyluniad rhwydwaith gyfathrebu a sefydliadau rhithwir)
- dylunio peirianyddol (yn arbennig peirianneg siapau solet o chwith)
- cyfrifiadura perfformiad uchel a grid (prosesu gwasgaredig, rheoli gwybodaeth a delweddu dwys).
Cydweithrediadau
Mae'r mwyafrif o'n gwaith ymchwil yn rhyngddisgyblaethol ac rydym yn cydweithio gydag Ysgolion Academaidd Prifysgol Caerdydd a phrifysgolion blaenllaw eraill. Mae ein gwaith yn cwmpasu spectrwm llawn meysydd peirianneg a'r gwyddorau ffisegol, biofeddygol a bywyd, y gwyddorau cymdeithasol a'r celfyddydau a'r dyniaethau.
Ar hyn o bryd rydym yn cydweithio gyda phartneriaid megis y Ganolfan Technoleg Ffactorau Dynol a Sefydliad Gwyddorau Mathemategol a Chyfrifiannol Cymru (WIMCS). Rydym yn croesawu datblygu partneriaethau pellach gyda'r sectorau diwydiannol a chyhoeddus.
Cyfleusterau ymchwil
Mae gennym ystod amrywiol o gyfleusterau a systemau sy'n sail i'n hymchwil arloesol. Mae'r rhain yn cynnwys adnoddau pwrpasol ar gyfer
- recordio symudiadau
- technoleg sganio wynebau 3D
- cynrychioli gwybodaeth a rhesymu
- cyfrifiadura cwmwl
- modelu cyfrifiadurol
- rhyngrwyd pethau
- cerddoriaeth cyfrifiadurol
Arian parhaus
Mae ein ffynonellau ariannu cenedlaethol a rhyngwladol yn cynnwys:
- Y Gymdeithas Frenhinol
- Cynulliad Cymru (yn cynnwys CCAUC)
- Llywodraeth y DU (yn cynnwys EPSRC, DTI ac OFCOM)
- Yr Undeb Ewropeaidd.
Mae ein hymchwil sy'n werth miliynau o bunnoedd yn derbyn cefnogaeth wrth i ni weithio gydag ein partneriaid diwydiannol. Mae'r rhain yn cynnwys:
Mae incwm ein hymchwil blynyddol ar gyfartaledd tua £2 miliwn.
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau MPhil neu PhD a sut i fod yn rhan o Ysgol ymchwil sy’n gryf, yn ddynamig ac yn llwyddiannus yn rhyngwladol.