Rhan amser yn dysgu o bell, Rhan amser yn dysgu o bell
Nod ein Tystysgrif Ôl-raddedig (Tyst. Ôl-radd) mewn Llywodraethiant Gofal Llygaid yw darparu cymhwyster proffesiynol yw rhoi cymhwyster nad yw ar gael ar hyn o bryd i’r rhai sy’n cymryd rhan mewn llywodraethiant gofal llygaid.
Cynlluniwyd y rhaglen MSc Optometreg Glinigol lefel 7 hon i ddiwallu anghenion addysg a hyfforddiant parhaus y gweithiwr gofal llygaid proffesiynol modern ac ennill gradd ar yr un pryd.
Bydd y cwrs yn cynnig addysg eang i optometryddion ym maes ymarfer rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn. Bydd yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ehangu eu gyrfa a chyfrannu at rolau proffesiynol estynedig yn effeithiol.
Mae ein PhD mewn Gwyddorau’r Golwg yn cynnwys ymchwil dan arweiniad myfyrwyr ar draws ystod eang o ddisgyblaethau, o fioleg celloedd a moleciwlaidd i niwrowyddoniaeth ac astudiaethau clinigol golwg dynol.
Mae Ymchwilio Clinigol a Gwyddorau’r Golwg yn faes ymchwil y gallwch chi ganolbwyntio eich astudiaethau yn ein rhaglen PhD Gwyddorau’r Golwg ynddo.
Pam astudio gyda ni?
Yn y 2 uchaf
Dysgwch yn un o'r Ysgolion Optometreg mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn gyson yn y 2 uchaf yn y Complete University Guide.
Cyfleuster optometreg gwerth £22 miliwn
Mae ein Hysgol mewn cyfleuster optometreg pwrpasol gwerth £22 miliwn gyda chlinig llygaid ar y safle.
Achrededig
Achredir nifer o’n modiwlau a’n rhaglenni gan y Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC) neu Goleg yr Optometryddion ar gyfer Cymwysterau Proffesiynol Uwch.
Ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir
Optometreg ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd
Dysgwch mwy gan ein hacademyddion a’n myfyrwyr am astudio optometreg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ein modiwlau a’n rhaglenni ôl-raddedig a addysgir
Mae ein rhaglenni a’n modiwlau yn hyblyg ac yn cynnig cyfle i chi astudio'n amser llawn neu'n rhan amser. Gallwch ddewis y modiwlau sy’n addas i chi a gallwch astudio o bell neu yng Nghaerdydd. Mae pob dull astudio yn defnyddio ein hamgylchedd dysgu rhithwir ac yn cynnwys cysylltiad uniongyrchol gyda’ch tiwtoriaid.
Ymchwil clinigol uwch yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n llywio ein holl addysgu, ac mae llawer o'n staff dysgu yn arbenigwyr yn eu meysydd. Mae gan ein hacademyddion brofiad helaeth mewn ymarfer offthalmig ac wedi ennill gwobrau anrhydeddus am eu hymchwil i wyddorau’r golwg gan gynnwys Gwobr Pen-blwydd y Frenhines.
Rydym yn cynnig portffolio o dros dri deg o fodiwlau sy’n darparu llwybrau i ddilyn diddordebau arbenigol ac i sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus yn gyffredinol. Mae llawer wedi’u hachredu ar gyfer Uwch-ddyfarniadau Coleg yr Optometryddion a gallwch eu cyfuno er mwyn ennill amrywiaeth o gymwysterau gwahanol.
Mae ein rhaglenni'n cynnig llwybrau i weithwyr proffesiynol ym maes gofal llygaid sy'n astudio modiwlau unigol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus, ac ar gyfer y rhai sy'n dilyn dyfarniad Tystysgrif Uwchraddedig, Diploma Ôl-raddedig, neu MSc.
Ymchwil ôl-raddedig
Ein Hysgol
Mae'r Ysgol mewn cyfleuster optometreg pwrpasol gwerth £22 miliwn ac ar Gampws Arloesedd Parc Maendy. Rydym mewn man cyfleus ger adeiladau academaidd eraill, Undeb y Myfyrwyr, siopau canol y ddinas, parcdir deniadol a nifer o breswylfeydd myfyrwyr.
Ni yw’r unig adran hyfforddiant optometreg yng Nghymru. Rydym wedi ein hen sefydlu ac mae gennym lawer o adnoddau ac enw gwych yn rhyngwladol. Mae ein clinig llygaid ar y safle yn gwella ein gweithgareddau addysgu ac ymchwilio. Mae’n agored i’r cyhoedd ac yn cynnig lleoliadau mewnol a chyfleoedd ymchwil i’n myfyrwyr.
Ein Hysgol
A postgraduate student with a patient
A postgraduate student conducting an eye examination
Using Optical coherence tomography (OCT)
A postgraduate tutorial
A tutorial with Maggie Woodhouse OBE
Postgraduate students benefit from a wide range of opthalmic equipment
Myfyriwr ôl-raddedig yn cynnal prawf llygaid
A postgraduate student using a visual fields scanner