Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni?

Rydym yn ymchwilio i gymhlethdod ein byd sy'n newid yn gyflym, gan archwilio pynciau sy'n adlewyrchu ein cryfderau ymchwil mewn athroniaeth foesol, epistemoleg ac athroniaeth meddwl a gwybyddiaeth.

star

Staff arobryn

Rydym yn cynnal digwyddiadau a darlithoedd cangen y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol yn rheolaidd, gan gyflwyno'r meddwl diweddaraf gan arbenigwyr blaenllaw.

people

Effaith gymdeithasol

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu effaith gymdeithasol fuddiol o'n gwaith. Ymhlith ein prosiectau diweddaraf mae 'Newid agweddau at drafodaeth gyhoeddus'.

briefcase

Cyflogadwyedd

93% o'n graddedigion ôl-raddedig a addysgir mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).

Cyrsiau

Athroniaeth (MA)

Amser llawn, Rhan amser

Archwiliwch faterion cyfoes diddorol a dyrys gydag athronwyr â bri rhyngwladol sy’n cael eu cydnabod am eu gwaith mewn ystod eang o feysydd arbenigol.

Athroniaeth (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Gweithio gyda staff sydd ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth, i fynd i'r afael â heriau traddodiadol a newydd mewn athroniaeth a'i chymwysiadau bywyd go iawn.

Llenyddiaeth Saesneg (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Gwneud cyfraniad sylweddol ac arloesol at wybodaeth am lenyddiaeth a diwylliant, a’r ddealltwriaeth ohonynt.

Theori Feirniadol a Diwylliannol (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Mae myfyrwyr ar y cwrs PhD Theori Feirniadol a Diwylliannol yn derbyn goruchwyliaeth gan staff ac academaidd gydag ymrwymiad hirdymor i ragoriaeth ac amrywiaeth mewn ymchwil, sy’n gweithio ar flaen y gad o ran ymchwil arloesol mewn theori feirniadol a diwylliannol.

Ein sgyrsiau a'n fideos

Athroniaeth

Rhagor o wybodaeth am ein MA Athroniaeth.

Dewch i ddarganfod ein Hysgol

Cymerwch gipolwg ar sut brofiad fyddai astudio gyda ni yng Nghaerdydd.

Astudiais athroniaeth pan oeddwn yn fyfyriwr israddedig ac ro’n i bob amser yn mwynhau’r dull addysgu a’n pynciau trafod. Pan nes i gwblhau fy ngradd, gwyddwn nad oeddwn eisiau gadael Caerdydd a’r tiwtoriaid athroniaeth anhygoel oedd yno. MA Athroniaeth yw’r peth gorau dwi erioed wedi’i wneud.
Rachel Davies MA Philosophy

Rhagor amdanom ni

Dictionary definition of philosophy

Athroniaeth

Archwiliwch faterion cyfoes diddorol a chymhleth gydag athronwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol. Bydd ein rhaglen MA yn werth chweil o ran datblygu eich gwybodaeth o faterion a thechnegau athronyddol, gan ganolbwyntio ar bynciau blaenllaw epistemoleg, athroniaeth foesol, ac athroniaeth y meddwl a gwybyddiaeth.

ENCAP students

Rhagoriaeth athronyddol

Mewn cymuned ymchwil ffyniannus a chefnogol lle cynhelir seminarau am waith sy’n mynd rhagddo i ôl-raddedigion, grwpiau darllen drwy gydol y flwyddyn, gweithdai a chynadleddau, mae ôl-raddedigion Athroniaeth yn rhaglen siaradwyr gwadd y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol sy’n ysgogi’r meddwl, ac mewn cynhadledd flynyddol.

Adeilad John Percival

Ymchwil ôl-raddedig

Gwnewch eich cyfraniad gwreiddiol at wybodaeth mewn cymuned ymchwil ffyniannus sy'n enwog yn rhyngwladol. Mae ein PhD yn cynnig ystod amrywiol o hyfforddiant ymchwil ynghyd â'r cyfle i gael profiad addysgu drwy ein rhaglen 'Dysgu i Addysgu' sydd wedi'i hachredu gan SAU.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Postgraduate students applying for a postgraduate loan

Ariannu eich astudiaethau

Mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau, pecynnau cymorth llywodraeth y DU, a’r benthyciadau i fyfyrwyr sydd ar gael ar eich cyfer.

Cegin (hygyrch)

Pori drwy ein dewisiadau llety

Ddim yn siŵr pa lety i ddewis? Gall ein canllaw cymharu defnyddiol eich helpu i wneud penderfyniad.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Y camau nesaf

academic-school
academic-school
icon-chat

Holi cwestiwn

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Sut i wneud cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses gwneud cais.

Pynciau eraill efallai y bydd gennych ddiddordeb ynddynt

Student on a laptop

Saesneg iaith ac ieithyddiaeth

Ewch ati i archwilio ac ymchwilio i ffurf, swyddogaeth ac effaith cyfathrebu dynol ac iaith.

Lecturer standing in front of a white board in a seminar room

Llenyddiaeth Saesneg ac ysgrifennu creadigol

Ewch ati i fwynhau amrywiaeth llenyddiaeth Saesneg a dod o hyd i gysylltiadau ar draws diwylliant poblogaidd a theori, neu fireinio eich sgiliau Ysgrifennu Creadigol gyda’n hawduron proffesiynol.


Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.