Cyfrifiadureg gyda Lleoliad (MSc)
- Hyd: 2 flynedd
- Dull astudio: Amser llawn gyda blwyddyn ryngosod
Cwrs trosi
Cwrs trosi yw hwn. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol na gradd benodol i'w astudio, ond bydd angen i chi ddangos diddordeb a dealltwriaeth o'r pwnc.
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Mae’r rhaglen 'â lleoliad' yn gyfle i ymgymryd â phrofiad 7-10 mis fel gweithiwr proffesiynol TG ar gyfer myfyrwyr sy'n llwyddo i ddod o hyd i leoliad addas.
Mae'r MSC mewn Cyfrifiadura yn cynnig cyfuniad cytbwys o'r sgiliau peirianneg meddalwedd a'r sgiliau technegol y mae eu hangen ar gyfer gyrfa ym maes datblygu meddalwedd, i fyfyrwyr o feysydd gyrfa a phwnc amrywiol.
Drwy’r rhaglen hon, sy’n para dwy flynedd, cewch ddealltwriaeth uniongyrchol o’r rôl hanfodol sydd gan feddalwedd o ran datrys problemau, y cyfleoedd rhyngddisgyblaethol sydd ar gael a’r hyn y gall systemau cyfrifiadurol ei gyflawni.
Drwy gyflwyniad cynnil a chymorth dwys, cewch eich cyflwyno i sgiliau rhaglennu gan ddefnyddio ieithoedd pwysig fel Java a Python. Rhoddir pwyslais ar drin data a byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol mewn SQL (Iaith Ymholiadau Strwythuredig) ar gyfer swyddogaethau cronfa ddata uwch gan ddefnyddio cynhyrchion safonol y diwydiant fel Oracle.
Mae dewis o fodiwlau dewisol a addysgir yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau ymhellach mewn meysydd o'ch dewis.
Gall myfyrwyr ddewis gwneud cais am leoliad gwaith proffesiynol 7-12 mis â thâl, i’w gyflawni ar ôl cwblhau semester y gwanwyn a chyn cwblhau'r cwrs MSc gyda thraethawd hir 60 credyd. Bydd hyn yn darparu profiad gwaith gwerthfawr i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol ym maes TG.
Bydd graddedigion o'r rhaglenni hyn mewn sefyllfa ddelfrydol i gael eu cyflogi yn y diwydiant cyfrifiadura neu ar gyfer gyrfaoedd sy'n gofyn am gyfuniad o'u disgyblaeth fel graddedigion a’u harbenigedd cyfrifiadurol.
Nodweddion unigryw
- A conversion course that is accredited by BCS, the Chartered Institute for IT.
- The opportunity to complement your existing discipline with Computing.
- Tailor the course to your interests through a range of advanced option modules.
- Flexible choice of project topic, for example: associated with the research activity of the School; fulfilling a business need; reflecting your own interest.
- Complete a 7-12 month experience as an IT Professional for students who find a suitable placement.
- You will be provided with a laptop during induction week that will remain with you throughout the duration of the course.
Achrediadau
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg
Ein hymchwil amlddisgyblaeth sy'n rhoi ffurf i'n rhaglenni gradd, ac yn eu gwneud yn berthnasol i gyflogwyr heddiw, gan eu gosod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar ddatblygiadau yfory.
Meini prawf derbyn
Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu'ch gyrfa bresennol, a'ch cefnogi gyda newid gyrfa. Nid oes angen gwybodaeth na gradd flaenorol yn y pwnc.
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:2 honours degree in a subject other than computing, or an equivalent international degree
- a university-recognised equivalent academic qualification in a subject other than computing
- or relevant professional experience evidenced by a reference.
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 6.5 with 5.5 in all subskills, or an accepted equivalent.
Other essential requirements:
You may choose to supplement your application with:
- a detailed CV
- or any other supporting material you may consider to be appropriate.
Application deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.
Selection process:
We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Byddwch yn mynd ar leoliad yn dilyn cam a addysgir y cwrs a chyn dechrau gweithio ar eich prosiect a’ch traethawd hir unigol. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dechrau eu lleoliad yn ystod tymor yr haf eu blwyddyn gyntaf.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Blwyddyn un
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Computational Thinking | CMT119 | 10 credydau |
Fundamentals of Programming | CMT120 | 30 credydau |
Algorithms, Data Structures and Programming | CMT219 | 20 credydau |
Topics, Research and Skills in Computing | CMT221 | 10 credydau |
Software Engineering | CMT313 | 30 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Distributed and Cloud Computing | CMT202 | 20 credydau |
Human Centric Computing | CMT206 | 20 credydau |
Data Visualisation | CMT218 | 20 credydau |
Databases and Modelling | CMT220 | 20 credydau |
Social Computing | CMT224 | 20 credydau |
Blwyddyn dau
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Computing Dissertation | CMT403 | 60 credydau |
Placement | CMT305 | 120 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ddiwylliant ymchwil cryf a gweithredol sy'n llywio ac yn arwain ein haddysgu. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu addysgu o'r safon uchaf a chawsom adroddiad rhagorol yn adolygiad diweddaraf yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA).
Defnyddir ystod amrywiol o arddulliau addysgu a dysgu drwy'r MSc mewn Cyfrifiadura a'r MSc mewn Cyfrifiadura gyda Lleoliad. Bydd myfyrwyr yn mynychu darlithoedd, yn cymryd rhan mewn seminarau, gweithdai a thiwtorialau ac yn gweithio yn y labordy.
Bydd myfyrwyr yn cael deunyddiau cefnogi naill ai ar Dysgu Canolog (Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd) neu mewn pecynnau astudio a ddatblygir yn arbennig ar gyfer modiwlau dethol.
Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ac astudiaeth annibynnol i’ch galluogi i gwblhau traethawd hir. Gallwch chi awgrymu pynciau traethawd hir neu eu dewis o restr o ddewisiadau a gynigir gan staff academaidd, sy'n adlewyrchu eu diddordeb presennol.
Sut y caf fy asesu?
Mae'r modiwlau a addysgir o fewn y rhaglenni yn cael eu hasesu drwy arholiadau ac ystod eang o asesiadau yn ystod y cwrs, fel adroddiadau ysgrifenedig, traethodau estynedig, aseiniadau ymarferol a chyflwyniadau llafar.
Mae'r lleoliad yn cael ei asesu drwy adroddiad myfyriol sy'n dangos bod y myfyriwr wedi datblygu sgiliau fel Gweithiwr Proffesiynol TG.
Bydd y prosiect a’r traethawd hir unigol yn eich galluogi i ddangos eich gallu i adeiladu ar wybodaeth a sgiliau a enillwyd, a’u datblygu, er mwyn dangos meddwl beirniadol a gwreiddiol yn seiliedig ar gyfnod o astudio a dysgu annibynnol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Fel Ysgol, rydyn ni’n ymfalchïo mewn darparu amgylchedd cefnogol lle gallwn helpu ac annog ein myfyrwyr.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddyrannu i bob myfyriwr a fydd yn monitro eich cynnydd drwy gydol eich cyfnod yn y Brifysgol ac yn eich cefnogi yn eich Cynllun Datblygiad Personol. Byddwch yn gweld eich Tiwtor Personol o leiaf unwaith y semester.
Y tu allan i’r sesiynau a drefnir gyda’ch tiwtor, gweithredir polisi drws agored gan yr Uwch-diwtor Personol, ac mae ar gael i roi cyngor ac ymateb i unrhyw faterion personol wrth iddyn nhw godi.
Mae gan yr Ysgol banel myfyrwyr a staff ffurfiol i drafod pynciau neu faterion sydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr. Yn ogystal, rydyn ni’n trefnu digwyddiadau anffurfiol bob pythefnos dros goffi i'r holl fyfyrwyr a staff sy'n gysylltiedig â Rhaglenni MSc.
Y myfyrwyr sy'n gyfrifol am sicrhau eu lleoliad. Mae'r Ysgol yn cynorthwyo myfyrwyr ar gyrsiau ""gyda Lleoliad"" i ddod o hyd i leoliad addas.
Adborth
Gallai adborth ar waith cwrs gael ei roi ar ffurf sylwadau ysgrifenedig ar waith a gyflwynir; atebion ""enghreifftiol"" a/neu drafodaeth mewn sesiynau cyswllt.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Bydd myfyrwyr yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ""sgiliau cyflogadwyedd"" mwy cyffredinol, er enghraifft, gallu:
- Dadansoddi a gwerthuso materion cyfredol mewn cyfrifiadura yn feirniadol.
- Cyfleu syniadau, egwyddorion a theorïau’n glir ar lafar, yn ysgrifenedig, drwy ddiagram ac yn ymarferol.
- Dangos hunangyfeiriad, menter, proffesiynoldeb, barn feirniadol a sgiliau cynllunio wrth fynd i'r afael â phroblemau cyfrifiadura a'u datrys gan ddefnyddio technolegau priodol.
- Dangos sgiliau dylunio a rhaglennu meddalwedd.
- Dylunio, gan ddefnyddio offer priodol, system wybodaeth syml neu ran benodol o system fwy.
- Cyflwyno gwybodaeth a thechnegau cyfrifiadura mewn ffordd greadigol i ddatrys problemau cyfrifiadura.
- Byddwch hefyd yn datblygu nifer o sgiliau ymchwil gwerthfawr drwy gwblhau'r traethawd hir.
Ar ben hynny, bydd disgwyl i raddedigion ddangos:
- Dealltwriaeth systematig o gysyniadau cyfrifiadura cyffredinol, yn rhai damcaniaethol ac ymarferol.
- Dealltwriaeth o'r dulliau, y technegau a'r offer sydd ar gael i bennu, dylunio, gweithredu a rheoli systemau cyfrifiadurol.
- Dealltwriaeth o egwyddorion a nodweddion caledwedd a meddalwedd cyfrifiadurol a chyfathrebu, a sut mae'r rhain yn cefnogi datblygiad systemau cyfrifiadurol.
- Ymwybyddiaeth feirniadol o'r tueddiadau cyfredol mewn meysydd ymchwil dethol o gyfrifiadura, a thrafod eu cyfraniad at ddatblygu systemau cyfrifiadurol.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £10,950 | Dim |
Blwyddyn dau | £2,190 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £27,500 | £2,000 |
Blwyddyn dau | £2,190 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau blynyddoedd rhyngosod
Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Mae graddedigion diweddar wedi cael cyflogaeth mewn rolau megis datblygwyr meddalwedd, dadansoddwyr systemau, dadansoddwyr busnes, ymgynghorwyr TG, a pheirianwyr cefnogaeth.
Mae graddedigion MSc Cyfrifiadura yn cael eu cyflogi gan sefydliadau o bob maint yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Er enghraifft, mae graddedigion diweddar wedi cael swyddi gydag Ymddiriedolaethau GIG lleol, Logica, Sun Microsystems, BT, a'r Llyfrgell Feddygaeth Genedlaethol yn UDA, yn ogystal ag ymgymryd ag astudiaethau doethurol bellach.
Lleoliadau
Gall disgyblion wneud cais am leoliad gwaith proffesiynol 7-12 mis â thâl i'w gyflawni ar ôl cwblhau semester y gwanwyn.
Er y byddwch yn gyfrifol am ddod o hyd i'ch lleoliad eich hun, bydd yr Ysgol yn rhoi cyngor ar wneud cais am leoliadau, yn eich hysbysu’n rheolaidd am amrywiaeth o gyfleoedd, ac yn sicrhau eich bod yn derbyn cymorth ac arweiniad drwy gydol y broses gyfan.
Bydd disgwyl i'r rhai sy'n ymgymryd â lleoliad gydymffurfio â gofynion safonol darparwr eu lleoliad a glynu wrth bolisi Prifysgol Caerdydd ar Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Computer science
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.