Rydym yn ddarparwr addysg ôl-raddedig blaenllaw ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym meysydd nyrsio, bydwreigiaeth ac iechyd cysylltiedig. Cyflwynir ein rhaglenni drwy gyfuniad o sesiynau hunangyfeiriedig a chyswllt, ac fe'u lluniwyd i’ch helpu i ymateb i heriau gofal iechyd mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym a gwneud cyfraniad gwerthfawr i ofal claf ac ymarfer clinigol.
Pam y dylech astudio gyda ni
Ein henw da
Rydym yn ddarparwr addysg gofal iechyd blaenllaw yn y DU.
Ein tîm academaidd
Mae ein rhaglen ôl-raddedig a addysgir yn elwa o gyfraniad ymchwilwyr o fri byd-eang a chlinigwyr sy'n arbenigwyr yn eu maes.
Ein hymchwil
Gosodwyd ein hymchwil yn 4ydd yn y DU yn gyffredinol a ni sydd ar y brig am ein hamgylchedd ymchwil (REF 2014).
Ein myfyrwyr
Mae ein rhaglen yn denu myfyrwyr o bedwar ban byd. Rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i rannu syniadau a datblygu'r ymarfer gofal iechyd gorau.
Ein cyfleusterau
Ceir amgylchedd perffaith ar gyfer astudio ôl-raddedig yn ein labordai a'n llyfrgelloedd technoleg uchel.
Bydd cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus yn arwain at ddyfarnu Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol y Cyngor Meddygol Cyffredinol mewn naill ai Nyrsio Ardal neu Bractis.
Nod y rhaglen hon yw paratoi nyrsys a bydwragedd i fod yn Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol. Bydd y rhaglen yn arwain at ennill dyfarniad proffesiynol o fod yn Nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (ymwelydd iechyd) a chael eich cofrestru wedi hynny yn y rhan ar gyfer Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).
Mae'r rhaglen hon wedi'i hanelu at nyrsys a bydwragedd cofrestredig ac ymarferwyr gofal iechyd eraill, yn y DU, sy'n anelu at ddatblygu a gweithio ar lefel uwch o ymarfer clinigol, yn enwedig lle mae gofyn am asesiad clinigol uwch a sgiliau rhagnodi annibynnol/atodol.
Nod rhaglen ein MSc Ymarfer Gofal Iechyd Uwch yw datblygu eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a'ch gwerthfawrogiad beirniadol o’r pedair prif agwedd ar ymarfer lefel uwch.
Drwy gynnal ymchwil sy'n seiliedig ar eich diddordebau eich hun yn un o adrannau ymchwil gofal iechyd mwyaf blaenllaw y DU, byddwch yn gosod y sylfeini ar gyfer gyrfa lle gallwch wneud gwahaniaeth go iawn i ofal iechyd yn y byd ehangach.