
Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol
Ymunwch ag un o'r adrannau Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol mwyaf yn y DU, a 120 mlynedd o dreftadaeth gyfoethog.
Pam astudio gyda ni
Mae Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn edrych ar y ffyrdd rydym ni'n trefnu ein bywydau mewn byd cyd-gysylltiedig byd-eang drwy gyfuniad o sefydliadau enfawr ac arferion. Mae’n adeg berffaith i ddatblygu eich dealltwriaeth o lawer o’r materion pwysicaf sy’n ein hwynebu.
Cyflogadwyedd
95% o'n graddedigion ôl-raddedig a addysgir mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).
Manteisiwch ar ein lleoliad a'n cysylltiadau
Mae gennym gysylltiadau agos gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Chymdeithas y Cenhedloedd Unedig (Cymru).
Rhagoriaeth ymchwil
Y sgôr uchaf posibl o 4.0 ar gyfer effaith ein hymchwil (Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol, REF 2021).
Cyrsiau
Ein cyflwyniadau a'n fideos
Cyrsiau Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Ôl-raddedig
Cewch rhagor o wybodaeth am ein hystod o gyrsiau gradd meistr mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol gan Dr Ian Stafford. Mae ein cyflwyniad diwrnod agored rhithwir yn cynnig trosolwg o’r rhaglenni, yn ogystal â gwybodaeth am yr adran a'n staff arbenigol.
Roedd gan y cwrs hwn gydbwysedd da rhwng modiwlau y gyfraith a gwleidyddiaeth ag oedd yn rhoi trosolwg manwl o sut mae datganoli'n gweithredu yng Nghymru a gweddill y DU, yn ogystal â sut mae llywodraethiant aml-lefel yn gweithredu ledled y byd. Byddai'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd eisiau dechrau neu ddatblygu gyrfa mewn llywodraethu datganoledig yng Nghymru, neu sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth Cymru.
Rhagor o wybodaeth amdanom ni

Mae ein rhaglenni'n cynnig cipolwg beirniadol ar ein byd sy'n newid yn barhaus
Bydd astudio gyda ni yn eich cyflwyno i gyfansoddiadau, polisïau cyhoeddus ac arferion cymdeithasol cenedlaethol ac is-genedlaethol; i sefydliadau rhanbarthol a rhyngwladol; i’r syniadau moesol a gwleidyddol sy’n sbarduno mudiadau gwleidyddol a newid; ac i natur a chanlyniadau gwrthdaro, gwladychiaeth a gwleidyddiaeth pŵer mawr.
Rydym ni, fel adran, yn ymddiddori mewn sut gallwn wneud cysylltiadau rhwng yr unigolyn a chymdeithas sydd wedi’i globaleiddio fwyfwy yn decach, boed hynny trwy gyflwyno’r newid yn yr hinsawdd fel mater moesegol a gwleidyddol, trwy archwilio sut gall y gyfraith ryngwladol neu strwythurau llywodraethu eraill helpu cymdeithasau i symud ymlaen ar ôl gwrthdaro, neu drwy ofyn i’n myfyrwyr feddwl o ddifrif am sut mae materion byd-eang fel rhyfel neu’r argyfwng ariannol yn effeithio’n anghymesur ar fywydau rhai pobl yn fwy nag eraill. Mae gan Gymru draddodiad balch o arwain mentrau sy’n ceisio creu byd tecach a mwy heddychlon, felly credaf ei bod yn briodol i dîm Cysylltiadau Rhyngwladol Caerdydd rannu dyheadau o’r fath.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld ein cyrsiau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol ôl-raddedig a addysgir
Porwch drwy ein cyrsiau.
Gweld ein cyrsiau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol ôl-raddedig ymchwl
Porwch drwy ein cyrsiau.
Cysylltu
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Sut i wneud cais
Popeth sydd angen i chi wybod am ein proses ymgeisio.
Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi
Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.