Ewch i’r prif gynnwys

Rhesymau dros astudio gyda ni

Cewch y cyfle i drin a thrafod safbwyntiau newydd ar draws rhychwant cronolegol cyfoethog llenyddiaeth Saesneg, neu ddatblygu eich doniau ym maes Ysgrifennu Creadigol, a’ch addysgu gan awduron proffesiynol uchel eu parch yn eu meysydd dewisol.

star

Ymhlith y 100 uchaf ar draws y byd

Rydym ymysg y 100 prifysgol gorau yn y byd ar gyfer astudio Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl Pwnc 2021).

book

Ymchwil sy’n cael effaith

Ar lefel y DU, rydym ymhlith y 10 uchaf am Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac aseswyd bod 86% o'n hymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).

briefcase

Cyflogadwyedd

93% o'n graddedigion ôl-raddedig a addysgir mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).

Cyrsiau

Llenyddiaeth Saesneg (MA)

Amser llawn

Ewch ar drywydd eich diddordeb mewn Llenyddiaeth Saesneg, ar raglen wedi’i hysbrydoli gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad o ran ymchwil o safon fyd-eang.

Llenyddiaeth Saesneg (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Gwneud cyfraniad sylweddol ac arloesol at wybodaeth am lenyddiaeth a diwylliant, a’r ddealltwriaeth ohonynt.

Theori Feirniadol a Diwylliannol (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Mae myfyrwyr ar y cwrs PhD Theori Feirniadol a Diwylliannol yn derbyn goruchwyliaeth gan staff ac academaidd gydag ymrwymiad hirdymor i ragoriaeth ac amrywiaeth mewn ymchwil, sy’n gweithio ar flaen y gad o ran ymchwil arloesol mewn theori feirniadol a diwylliannol.

Ysgrifennu Creadigol (PhD)

Amser llawn, rhan-amser

Caerdydd oedd un o'r prifysgolion cyntaf yn y DU i gynnig PhD mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol a thros ddau ddegawd, rydym wedi paratoi graddedigion am yrfaoedd fel awduron ac ar gyfer swyddi yn y diwydiannau cyhoeddi a chyfathrebu, y byd academaidd a gweinyddiaeth y celfyddydau.

Ein cyflwyniadau a’n fideos

Llenyddiaeth Saesneg

Rhagor o wybodaeth am ein MA Llenyddiaeth Saesneg.

Ysgrifennu Creadigol

Rhagor o wybodaeth am ein MA Ysgrifennu Creadigol.

Dewch i ddarganfod ein Hysgol

Cymerwch gipolwg ar sut brofiad fyddai astudio gyda ni yng Nghaerdydd.

Roedd yr MA mewn Llenyddiaeth Saesneg yng Nghaerdydd yn baratoad gwych ar gyfer astudio PhD. Fe wnaeth y gweithdai Dulliau Ymchwil wythnosol a’r Traethawd Hir MA fy helpu i fireinio fy llais critigol. Yn yr un modd, fe wnaeth yr amrediad eang o fodiwlau ar gael fy nghyflwyno i bopeth o’r gerdd gyntaf i gael ei hysgrifennu yn Saesneg i nofel a gyhoeddwyd yn 2001. Felly, byddwn yn argymell yr MA i unrhyw un!
Ethan Evans MA Llenyddiaeth Saesneg

Rhagor o wybodaeth amdanom ni

ENCAP student

Sôn am Straeon Caerdydd

Rydym wedi ymrwymo i rannu perthnasedd ein hymchwil drwy ddod ag academyddion, myfyrwyr a'r gymuned leol ynghyd. Mae ein grŵp llyfrau unigryw yn sbarduno trafodaeth fywiog rhwng cynulleidfa gymunedol ac academyddion sy'n cynnig safbwyntiau ysgogol ar destunau dewisol.

ENCAP students

Ysgrifennu Creadigol sy’n Torri Tir Newydd

Rydym yn arloeswyr ym maes Ysgrifennu Creadigol yn y DU ac yn meithrin talent newydd drwy gynnal nosweithiau Meic Agored. Rydym yn cynnal Cyfres Awduron Gwadd Ysgrifennu Creadigol yn rheolaidd ac yn curadu Diwrnod Diwydiannau Creadigol cyffrous bob blwyddyn.

Female student smiling

Ymchwil ôl-raddedig

Gwnewch eich cyfraniad gwreiddiol at wybodaeth mewn cymuned ymchwil ffyniannus sy'n enwog yn rhyngwladol. Mae ein PhD yn cynnig ystod amrywiol o hyfforddiant ymchwil yn ogystal â'r cyfle i ennill profiad addysgu drwy ein rhaglen 'Dysgu i Addysgu' achrededig gan yr Academi Addysg Uwch.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Postgraduate students applying for a postgraduate loan

Ariannu eich astudiaethau

Mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau, pecynnau cymorth llywodraeth y DU, a’r benthyciadau i fyfyrwyr sydd ar gael ar eich cyfer.

Cegin (hygyrch)

Pori drwy ddewisiadau llety

Ddim yn siŵr pa lety i ddewis? Gall ein canllaw cymharu defnyddiol eich helpu i wneud penderfyniad.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Y camau nesaf

academic-school
building
icon-contact

Cysylltu â ni

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Sut i wneud cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses gwneud cais.

Pynciau eraill efallai y bydd gennych ddiddordeb ynddynt

Student on a laptop

Saesneg iaith ac ieithyddiaeth

Ewch ati i archwilio ac ymchwilio i ffurf, swyddogaeth ac effaith cyfathrebu dynol ac iaith.

Woman sitting at a table in the library

Athroniaeth

Cyfle i archwilio materion cyfoes diddorol, a chanolbwyntio ar bynciau sy’n flaenllaw ymhlith ein harbenigeddau.


Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.